skip to main content

Agenda item

Derbyn cyflwyniad gan Brif Swyddog Tân, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.  

Cofnod:

Croesawyd y swyddogion canlynol o’r Awdurdod Tân ac Achub i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ac i ateb cwestiynau’r aelodau:-

 

·         Richard Fairhead (Prif Swyddog Tân Cynorthwyol) (yn gyfrifol am yr ochr weithredol)

·         Shân Morris (Prif Swyddog Cynorthwyol) (yn gyfrifol am bolisi a chynllunio corfforaethol)

·         Helen MacArthur (Prif Swyddog Cynorthwyol) (yn gyfrifol am gyllid ac adnoddau)

 

Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu gwaith ar ran trigolion Gwynedd a nodwyd bod y cyflwyniad yn un grymus iawn oedd yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth a pha mor anodd yw gweithredu yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni. 

·         Nodwyd y bydd unrhyw gynnydd ardoll yn 2018/19 yn golygu y bydd pob cyngor yn gorfod torri mwy ar eu gwasanaethau a holwyd a oedd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn symud ymlaen gyda’r cynllun i arbed costau erbyn 2019/20.  Mewn ymateb, nodwyd bod rhaid i’r holl reolwyr adolygu eu cyllidebau a’u bod yn ymwybodol o’r angen i leihau eu sylfaen costau.  Y nod oedd rheoli’r costau heb newid y gwasanaethau rheng flaen.  Fel rhan o’r gwaith o gynllunio ar gyfer 2019/20, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag aelodau’r Awdurdod lle ystyriwyd nifer o opsiynau i leihau costau, gan gynnwys cau gorsafoedd rhan amser, newid gorsafoedd 24 awr i orsafoedd dydd a newid gorsafoedd dydd i orsafoedd rhan amser.  Fodd bynnag, penderfyniad aelodau’r Awdurdod ym Mehefin eleni oedd i beidio newid y model darparu gwasanaeth yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

·         Gofynnwyd am gadarnhad ynglŷn â sefyllfa Gorsaf Dân Caernarfon a’r gwasanaeth i ardaloedd cefn gwlad Gwynedd.  Mewn ymateb, nodwyd bod Caernarfon yn orsaf ddydd (gyda staff yn bresennol rhwng hanner dydd a 10 o’r gloch yr hwyr, sef yr adeg prysuraf) a bod y gwasanaeth yn cael ei staffio gan weithwyr rhan amser a gweithwyr llawn amser ar ddyletswydd gartref y tu allan i’r oriau hynny.  Cadarnhawyd yr anelir i gadw’r orsaf ar y lefel honno eleni.  Cadarnhawyd hefyd y bydd y pwmp cyfaint uchel newydd a leolir yng Nghaernarfon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tanau a llifogydd mawr ar draws Gwynedd gyfan.

·         Cwestiynwyd pam y gwelwyd yr angen i lenwi’r swydd dirprwy, gan i’r swydd fod yn wag am flwyddyn gyfan.  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y swydd bresennol yn cyfateb yn union i’r hen swydd.  Edrychwyd ar ymarferoldeb y rôl a’r set sgiliau mewnol, ond roedd angen Cyfrifydd Cymwysedig i gyflawni’r gwaith.

·         Awgrymwyd y gallai’r gwasanaeth arbed £250,000 (sy’n cyfateb i 7.5% o’u costau gweinyddol) drwy ddychwelyd i’r hen drefn lle byddai’r diffoddwyr tân eu hunain yn glanhau’r gorsafoedd rhwng tanau.  Mewn ymateb, eglurwyd yr arferai’r gweithwyr dderbyn tâl ychwanegol am y gwaith hwnnw, felly ‘roedd yna gost i’r gwasanaeth beth bynnag.  Nodwyd ymhellach bod llawer o’r gwaith atal yn cael ei gyflawni gan staff ategol erbyn hyn, yn hytrach na’r diffoddwyr tân eu hunain, a bod hynny’n fwy cost effeithiol i’r gwasanaeth.

·         Nodwyd y gwerthfawrogid y dyfal barhad a’r ffordd mae’r Awdurdod Tân yn ymdrin â’r holl heriau sy’n eu hwynebu, a hynny mewn ffordd hynod o broffesiynol, dyfeisgar ac effeithiol.  Yn y blynyddoedd diwethaf, ‘roedd yr Awdurdod wedi ymestyn eu gwasanaethau i gynnwys delio gydag effeithiau newid hinsawdd a gwaith ataliol, oedd nid yn unig wedi gwneud yr Awdurdod yn fwy effeithiol, ond oedd hefyd wedi achub cannoedd o fywydau ar draws Gogledd Cymru.

·         Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu gwaith yn delio â’r tân difrifol ar Fynydd Cilgwyn ym mis Gorffennaf a nodwyd na ddymunid eu gweld yn derbyn llai o arian gan y Cyngor.

·         Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhannu nifer o hybiau gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans ar draws Gogledd Cymru a’u bod yn edrych ar wneud trefniadau tebyg gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill yn ogystal.

·         Holwyd beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud i ddarbwyllo pobl bod yr arferiad o gynnau tanau ar fynydd-dir yn gwbl anghymdeithasol ac ym mha ffordd y gall y Cyngor a’r aelodau gynorthwyo yn hyn o beth.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r gymuned ffermio i’w cynghori o safbwynt llosgi dan reolaeth.  Cynhelid trafodaethau gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sicrhau bod y cyngor priodol yn cael ei roi i ymwelwyr ac roedd trafodaethau cyson yn digwydd gyda’r ysgolion hefyd.  Ychwanegwyd y byddai’r gwasanaeth yn gwerthfawrogi pob cymorth i ledaenu’r neges.

·         Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd mai’r rhif ffôn ar gyfer cysylltu â’r gwasanaeth ar adeg pan nad ydi’r achos yn argyfwng yw 0800 169 1234.  Roedd modd cysylltu â’r gwasanaeth drwy Facebook, Twitter, ayb, hefyd.

·         Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd bod recriwtio diffoddwyr rhan amser yn anodd ar draws y DU.  Llwyddid i recriwtio mewn rhai ardaloedd, ond roedd yr her yn un barhaus.

·         Holwyd pa mor barod oedd busnesau i ryddhau pobl i fod yn ddiffoddwyr tân.  Mewn ymateb, nodwyd y deellid y pwysau ar fusnesau ond bod y gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda hwy i hyrwyddo manteision cael diffoddwyr tân yn gweithio iddynt, e.e. profiad cymorth cyntaf, diogelwch tân ac iechyd a diogelwch.

·         Mynegwyd pryder y gallai strydoedd culion a phroblemau parcio achosi rhwystr i injan dân sy’n ymateb i alwad brys.  Mewn ymateb, nodwyd bod gan y gwasanaeth gerbydau arbennig ar gyfer mynedfeydd cul a’u bod wedi adnabod y mannau hynny lle mae mynediad yn anodd.  Gofynnwyd i unrhyw aelod oedd â phryder am rywle yn ei ward gysylltu â’r gwasanaeth fel y gallent fynd yno i wneud asesiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion yr Awdurdod am eu cyflwyniad diddorol gan ychwanegu y byddai copïau o’r cyflwyniad sleidiau yn cael eu hanfon at yr aelodau.