I ystyried cais gan
Mr A
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau
a hefyd ei amgylchiadau personol. Nododd bod ganddo
brofiad o yrru car ar gyfer gwaith
ond bod hynny
gyda’r nos. Amlygodd bod cwmni lleol
wedi cynnig swydd iddo petai
ei gais yn llwyddiannus.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen
gais yr ymgeisydd
• sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad
• adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd
Cymru (Chwefror 2015) ar ddau gyhuddiad yn ymwneud a meddiant cyffuriau yn
groes i adran 5 (2) o’r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Gwynedd (Ionawr 2016) ar ddau gyhuddiad
o fod mewn meddiant nwyddau gyda nod masnach ffug er mwyn eu gwerthu neu hurio yn groes i adran 92 (1)(c) o’r
Ddeddf Nodau Masnach 1994. Cafodd orchymyn cymunedol
12 mis ynghyd a gorchymyn i dalu costau, gwaith di-dâl a gordal dioddefwr.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 8 o’r Polisi yn nodi y bydd cais fel rheol yn cael ei
wrthod os oes collfarn sydd yn llai na 3
mlynedd am drosedd yn ymwneud ag anonestrwydd.
Mae paragraff 9.4
o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes
rhybudd unigol am drosedd yn gysylltiedig â bod mewn meddiant a chyffuriau o
fewn y 3 blynedd diwethaf. Nodwyd hefyd y dylid ystyried natur y cyffuriau dan
sylw.
Mae paragraff 17
o’r Polisi yn nodi y byddai’n annhebygol rhoi trwydded i ymgeisydd os oes
ganddo gollfarn am drosedd oni bai bod cyfnod o 12 mis wedi mynd heibio ers y
gollfarn ddiweddaraf
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad
bod y rhybudd o 2015 yn ymwneud a chyffuriau, ond gyda’r drosedd wedi digwydd 3 blynedd a 7 mis yn
ôl, ac felly tu hwnt i’r cyfnod tair blynedd. Nid oedd felly yn sail i wrthod y drwydded.
Wrth ystyried collfarn 2016
roedd yr Is bwyllgor angen gweld os oedd y gollfarn yn disgyn o dan ddarpariaethau anonestrwydd y
Polisi. Yn dilyn cyngor cyfreithiol amlygwyd nad oedd angen profi anonestrwydd o adran 92 (1)(c) o Ddeddf Nodau
Masnach 1994. Daethpwyd i’r casgliad
nad oedd y gwaharddiad o dan ran 8 o’r Polisi yn berthnasol i’r gollfarn yma. Ystyriwyd y ddarpariaeth gyffredinol o
dan ran 17 o’r Polisi, ond gan fod y gollfarn mewn perthynas â throsedd oedd wedi digwydd dros 3 blynedd yn
ôl, nid oedd yn sail i wrthod y cais.
Roedd yr
Is-bwyllgor yn diolch i’r ymgeisydd am fod yn agored a gonest yn ei eglurhad i
amgylchiadau’r collfarnau.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd a bod hawl ganddo i gyflwyno apêl yn erbyn
penderfyniad yr Is-bwyllgor o fewn cyfnod o 21 diwrnod o dderbyn y
llythyr.