Cyflwynwyd gan:Cyng. Peredur Jenkins
Penderfyniad:
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr aelod Cabinet yn hapus gyda pherfformiad yr adran a
bod camau priodol wedi eu cymryd er mwyn gwella perfformiad. Esboniwyd fod oes
y Strategaeth Technoleg Gwybodaeth bresennol yn dod i ben a bod trafodaethau yn
cael eu cynnal er mwyn cynllunio strategaeth newydd. Yn ychwanegol at hyn
nodwyd fod yr adran yn cydweithio â swyddogion o’r Adran Addysg er mwyn
datblygu strategaeth newydd fydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth
cefnogi Technoleg Gwybodaeth orau i ysgolion Gwynedd.
Nodwyd fod
perfformiad yr adran yn gyffredinol dda, ond tynnwyd sylw at rai problemau oedd
wedi codi. Nodwyd fod rhai o staff ategol ysgolion wedi derbyn cyflog anghywir
yn ystod mis Ebrill. Ychwanegwyd y adnabuwyd y broblem yn syth ac i’r
Gwasanaeth ymateb i’r broblem yn briodol. Esboniwyd fod camau yn eu lle bellach
i sicrhau na fydd yr un broblem yn digwydd eto.
Mynegwyd fod tri
achlysur wedi codi yn ystod y flwyddyn ble gwelwyd amhariad sylweddol ar allu
staff y Cyngor i weithredu oherwydd colli mynediad at wasanaeth Technoleg
Gwybodaeth. Ategwyd fod hyn wedi arwain ar yr adran yn comisiynu asesiad
annibynnol er mwyn edrych ar bensaernïaeth y rhwydwaith TG ac fe fyddant yn
adrodd yn ôl ar y casgliadau ymhen amser.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod y graff a ddangosir ar gyfer yr Uned Cyflogau yn dangos Diwylliant Ffordd
Gwynedd o fewn yr Adran drwy’r ffaith eu bod yn agored am eu perfformiad ac yn
dysgu o’r problemau sydd wedi codi. Ychwanegwyd fod esboniadau clir i’w gweld a
bod camau wedi eu cymryd i sicrhau na fydd yr un problemau yn codi eto.
-
Nododd
yr Aelod Cabinet dros Addysg bu oedi cyn i ysgolion dalu anfonebau dros y
blynyddoedd, o ganlyniad i wyliau ysgol, ond bellach fod yr adran Addysg wedi
ei newid eu trefn ac o ganlyniad mae’r ffigyrau yn llawer gwell.
-
Nodwyd
nad oedd ffigyrau ar gyfer Buddsoddi a Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y chwarter,
gan nad oeddent ar gael ar gyfer y cyfarfod herio perfformiad. Nodwyd bu
dychweliadau llawer gwell na’r disgwyl ar fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn a
gobeithir y bydd modd gallu cynnig gostyngiad mewn cyfraddau cyfraniad pensiwn
rhai cyflogwyr erbyn 2020.
- Trafodwyd ansicrwydd Brexit a'i effaith ar y Gronfa Bensiwn. Nodwyd fod mwyafrif asedau’r Gronfa wedi eu buddsoddi tramor, a bod cwymp y bunt yn erbyn doler yr UDA yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi golygu fod gwerth yr asedau tramor wedi cynnyddu wrth i’r bunt wanhau. Mae’r Pennaeth Cyllid wedi gofyn am ddadansoddiad gan actiwari’r Gronfa faint o’r cynnydd yng ngwerth y Gronfa Bensiwn sydd oherwydd gwir gynnydd yng ngwerth yr asedau rhwng 2015 a 2018, a faint sydd oherwydd y newid yn y gyfradd gyfnewid, a bydd yn adrodd ar hynny i gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gronfa Bensiwn ar 10 Hydref. Ategwyd fod y Gronfa Bensiwn bellach wedi ei hariannu’n llawn. Trafodwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru a nodwyd mai partneriaeth cyd-fuddsoddi sydd wedi’i ffurfio, nid un Gronfa fawr ar gyfer Cymru gyfan.
Awdur:Dilwyn Williams
Dogfennau ategol: