Aelod Cabinet – Y Cynghorydd W.Gareth
Roberts
I dderbyn adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
diweddaru’r aelodau ar gynllun gweithredu arolygiad Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ansawdd y
gofal a’r cymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu.
Ymhelaethodd y Pennaeth a’r Uwch Reolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan
hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Gan mai’r Tîm Cefnogaeth
Weithredol a PBS yw’r tîm cyntaf o’i fath yng Nghymru, nodwyd y byddai’n
fuddiol i’r pwyllgor dderbyn adroddiad, unwaith y bydd y gwaith o gasglu’r data
wedi’i gwblhau ym Mawrth 2019, yn amlinellu’r hyn a ddysgwyd o’r model yma, y
deilliannau a sut y bwriedir ei ddatblygu i’r dyfodol gyda siroedd eraill.
·
Croesawyd cydweithio
agos a phositif y gwasanaeth gyda’r Bwrdd Iechyd.
·
Nodwyd, o ran y
gwendidau, bod angen gwella a miniogi’r berthynas gyda’r gwasanaethau therapi
galwedigaethol arbenigol o safbwynt cyfarch anghenion oedolion gydag anableddau
dysgu, sy’n fwy cymhleth a heriol.
Hefyd, byddai angen edrych ar gael swyddogion gwybodaeth a chyngor yn
rhan o’r Tim Ataliol newydd, fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.
·
Nodwyd bod y gwasanaeth yn cyfarch yr her ariannol
drwy gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cydweithio gyda darparwyr allanol i
edrych ar bob cyfle i gyflwyno ceisiadau am grantiau, canfod gorddarpariaeth,
adolygu pob achos mae’r gwasanaeth yn ei gefnogi ac edrych ar leoliadau
all-sirol.
·
Croesawyd gweledigaeth y
gwasanaeth a’r gwaith datblygol sy’n digwydd gyda Dr. Sandy Toogood o Brifysgol
Bangor.
·
Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â faint o geisiadau am gymorth a chefnogaeth sy’n cael eu gwrthod a
pham, eglurwyd, yn wahanol i’r drefn hanesyddol lle ‘roedd pobl yn cael eu
gwrthod oherwydd nad oeddent yn ffitio i mewn i gategori penodol, bod yr
anghenion yn cael eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol erbyn hyn. Nodwyd y gellid edrych yn fwy manwl ar y
ffigurau, i weld oes yna ffigurau ynglŷn â phobl sy’n cael eu gwrthod, ond
credid, petai yna anghenion, y byddai’r anghenion hynny yn cael eu cyfarch,
naill ai gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu, neu’r Gwasanaeth Oedolion. Ychwanegwyd bod trafodaethau ar y gweill
ynglŷn â chryfhau’r trefniadau o ran yr oedolion hynny lle mae elfen o
risg, ond nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn mynd i fod angen cefnogaeth
arbenigol. Nodwyd ymhellach, wrth edrych
ar y data sydd gan y gwasanaeth, o bosib’ y gellid canfod gwybodaeth sy’n ateb
y cwestiynau a godwyd gan yr aelod ac y gellid parhau’r drafodaeth gyda hi.
·
Diolchwyd i’r aelodau
staff hynny sy’n gweithio yn eu hamser eu hunain yn cynorthwyo gyda’r grwpiau
a’r cyfleoedd cymdeithasol fin nos, yn bennaf yn y grwpiau coginio. Fodd bynnag, cwestiynwyd pam bod hynny’n
digwydd yn y lle cyntaf a holwyd onid oedd yna rôl i’r trydydd sector fod yn
cynorthwyo gyda’r math yma o weithgareddau.
·
Nodwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi
edrych ar yr ôl-groniad o asesiadau DoLS, ac wedi rhoi neges glir i’r adran
ynglŷn â’r angen i sicrhau ymdrin ag achosion yn amserol. Hefyd, deellid bod rhai gweithwyr
cymdeithasol eisoes yn meddu ar y cymhwyster asesu DoLS cyn yr hyfforddiant
diweddar a holwyd a oedd yr unigolion hynny yn cynnal asesiadau. Mewn ymateb, nodwyd bod yr adran yn ceisio sicrhau
bod yr adnoddau yn mynd i mewn i ddelio gyda’r asesiadau, yn enwedig i roi
blaenoriaeth i’r rhai sy’n achosion brys, ond bod hwn yn parhau i fod yn faes
sy’n hynod heriol yng Ngwynedd, fel mwy neu lai bob un awdurdod lleol arall. Bellach ‘roedd tua 30 o swyddogion yn medru
gwneud yr asesiadau, yn cynnwys y rhai oedd wedi’u hyfforddi ers peth
amser. O ystyried y cwestiynu yn y
pwyllgor hwn a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oherwydd y risgiau sy’n
codi, cytunodd y pennaeth i ddod â gwybodaeth yn ôl i’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd o ran y cynnydd yn y maes yma.
·
Gofynnwyd i’r adran rannu gwybodaeth gyda’r
pwyllgor ynglŷn â’r Grŵp Trawsffurfio amlddisgyblaethol.
·
Croesawyd y gwaith sydd
wedi digwydd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf i geisio cyfarch
argymhellion yr arolygiad o’r gwasanaeth.
‘Roedd y pwyllgor yn argyhoeddedig bod y gwasanaeth yn symud i’r
cyfeiriad cywir, ond yn cydnabod, ar yr un pryd, bod yna lawer o waith i’w
wneud eto.
Dogfennau ategol: