Agenda item

Codi 34 uned lloches i'r henoed, llety warden, 2 lety staff, cyfleusterau cymunedol, darparu parcio ar gyfer preswylwyr, staff a gwesty George IV a thirlunio (cais materion a gadwyd yn ôl o dan ganiatad C16/0292/35/LL).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi 34 uned lloches i'r henoed, llety warden, 2 lety staff, cyfleusterau cymunedol, darparu parcio ar gyfer preswylwyr, staff a gwesty George IV a thirlunio (cais materion a gadwyd yn ôl o dan ganiatâd C16/0292/35/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod ystyriaethau yn ymwneud gydag egwyddor, mynediad, cynllun a maint wedi eu derbyn a’u cymeradwyo fel rhan o’r cais amlinellol, a dim ond edrychiad a thirlunio oedd yn ffurfio’r cais gerbron.

 

         Amlygwyd bod gorffeniadau allanol yr adeilad yn gyffredin o fewn yr ardal a chredir bod yr hyn a fwriedir yn adlewyrchiad addas o’r gorffeniadau cyffredin hyn.

 

         Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn gyfagos i adeiladau rhestredig, o fewn Ardal Gadwraeth Cricieth ac yn weladwy o safle Castell Cricieth. Ni chredir y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar osodiad adeiladau rhestredig gerllaw, yr ardal gadwraeth na’r dynodiadau hanesyddol ymhellach i ffwrdd megis y castell.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod dyluniad yr adeilad wedi ei ddiwygio gyda chryn newidiadau i edrychiad allanol yr adeilad. O ganlyniad i sylwadau’r Pwyllgor pan drafodwyd y cais amlinellol, cynyddwyd y defnydd o garreg;

·         Bod cryn drafodaeth ar y cynllun tirlunio yn ystod yr apêl lle nodwyd ei fod yn dderbyniol;

·         Byddai gardd o flaen y gwesty ac wrth ochr yr adeilad yn cael ei greu gan gadw gwelediad o’r Stryd Fawr tuag at y castell yn glir. Trafodwyd y tirlunio efo CADW a Swyddog Cadwraeth y Cyngor ac ar sail y consensws parheir efo’r cynllun tirlunio yn hytrach na phlannu coed fel yr awgrymir gan y Swyddog Coed.

 

(c)     Nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais gan ofyn i’r Pwyllgor roi sylw i sylwadau’r Swyddog Coed.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Mewn ymateb i sylw’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y Swyddog Coed yn datgan nad oedd y cynllun plannu yn ddigonol a bod angen plannu mwy o goed cynhenid gan gynnwys coed onnen. Ymhelaethodd bod angen cloriannu sylw’r Swyddog Coed efo barn CADW a gwarchod y golygfeydd clir tuag at y castell a dros gerddi’r gwesty. Eglurwyd mai gerddi ffurfiol oedd ar y safle yn wreiddiol ac nid coedlan, felly mi fyddai coedlan yng nghanol Cricieth yn edrych allan o le yn enwedig o ystyried na fyddai’n gwarchod y golygfeydd. Nodwyd y cytunir efo’r asiant mai gardd ffurfiol oedd yn briodol.

 

Nododd aelod ei bod yn deall safbwynt y Swyddog Coed, ond er mwyn gwarchod y golygfeydd, bod y cynllun tirlunio yn dderbyniol ac i’w groesawu.

 

         Amlygodd aelod bod rhan fwyaf o’r gwrthwynebiadau lleol yn amherthnasol i’r cais yma a bod y datblygiad yn gweddu efo’r adeiladau rhestredig gerllaw. Nododd bod y tirlunio a gynigir gan yr ymgeisydd yn dderbyniol a’i fod yn bwysig bod golygfeydd clir o erddi’r gwesty a’r castell.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.    Cydymffurfio gyda chynlluniau

2.    Nodyn i gynnal y datblygiad yn unol â’r amodau blaenorol

3.    Nodyn Dŵr Cymru

Dogfennau ategol: