Agenda item

Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu a gwerthu hufen iâ, ystafell addysgiadol, a chreu mynedfa newydd, parcio a thirlunio.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu a gwerthu hufen iâ, ystafell addysgiadol, a chreu mynedfa newydd, parcio a thirlunio.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi bod gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar 7 Tachwedd 2016 ac i ddilyn ar 28 Tachwedd 2016 ar ôl cynnal ymweliad safle. Adroddwyd bod y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad swyddogion, gan ystyriwyd nad oedd lleoliad addas arall ar gael a bod modd rhoddi cryn bwysau i fuddion economaidd y fenter. Nodwyd bod yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio wedi cyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil a rhoi cyfle i gynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd.

 

         Amlygwyd bod yr ystyriaethau polisi wedi newid gyda Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) wedi ei fabwysiadau ers Gorffennaf 2017. Yn sgil y cyfnod amser oedd wedi mynd heibio a’r newidiadau a wnaed i’r cynlluniau, ystyriwyd y dylid cyflwyno’r cais yn ôl i’r Pwyllgor er mwyn cael cyfle i asesu’r cais o dan y polisïau newydd, yn hytrach na’i gyflwyno i’r Pwyllgor fel adroddiad cnoi cil fel awgrymwyd yn wreiddiol.

 

Nodwyd nad oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwbl argyhoeddedig mai hwn oedd y lleoliad mwyaf addas i’r datblygiad. Ar sail y wybodaeth a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd, gwerthfawrogwyd bod cyfiawnhad dros ystyried y lleoliad hwn, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon efo’r bwriad yn dilyn y trafodaethau a chydweithio buddiol i gael dyluniad a gosodiad o ansawdd fyddai’n gweddu'n well i’r ardal wledig, a bod y bwriad yn unol â gofynion polisi CYF 6 o'r CDLl.

 

Eglurwyd bod polisïau cyfredol yn llai cyfyng na pholisïau blaenorol Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd, ac yn fwy hyblyg o ran lleoli adeiladau newydd yng nghefn gwlad. Nodwyd wedi pwyso a mesur y bwriad o dan yr ystyriaethau polisi newydd credir bod y bwriad yn ei ffurf ddiwygiedig yn welliant ac yn cwrdd ag egwyddorion adeiladu unedau newydd ar gyfer defnydd busnes / diwydiant yng nghefn gwlad.

 

(b)    Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y datblygiad yn gyfle cyffrous i’r teulu fferm laeth yn ogystal ag ardal Pen Llŷn;

·         Byddai’r atyniad yn galluogi pobl i weld sut oedd y busnes yn gweithio;

·         Bod cefnogaeth yn lleol i’r bwriad;

·         Byddai’r datblygiad yn creu cyfleoedd cyflogaeth;

·         Bod cyfiawnhad i leoli’r datblygiad ar y safle hwn gan ei fod ar dir ym mherchnogaeth yr ymgeisydd yn hytrach na thir yr Ystâd a byddai’r cysylltiad i’r cyflenwad trydan ar y safle hwn yn galluogi’r busnes i ddefnyddio peiriannau oedd yn fwy cynhyrchiol;

·         Diolch am y cyfle i drafod y bwriad efo’r swyddogion cynllunio er mwyn dod i gonsensws. Roedd y trafodaethau wedi arwain at ddyluniad gwell a oedd yn fwy addas i bwrpas.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Nododd aelod bod y trafodaethau wedi parhau am gyfnod o 2 flynedd ers ystyriwyd y cais yn flaenorol gan y Pwyllgor, ond bod y diwygiadau i’r cynlluniau yn dilyn y trafodaethau i’r bwriad, yn gwneud y datblygiad yn llawer gwell.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd

2.     Unol â’r cynlluniau

3.     Cytuno gorffeniad/ lliw'r to

4.     Cytuno gorffeniad y muriau

5.     Cyflwyno cynllun ar gyfer cytuno gosod paneli solar/phwmp gwres daear ac      

        aer

6.     Cyflwyno cynllun tirlunio gyda choed cynhenid/cyfnod tirlunio

7.    Rhaid codi cloddiau o amgylch yr holl ffiniau cyn meddiannu’r adeilad a rhaid eu cadw felly i’r dyfodol

8.    Cytuno gorffeniad wyneb y maes parcio

9.    Rhaid defnyddio’r siop/caffi ar gyfer diben israddol i’r busnes cynhyrchu hufen ia yn unig ac nid fel uned fusnes ar wahân a chyfyngir arwynebedd y siop/caffi i’r hyn a ddangosir yn y cynllun llawr

10.  Rhaid cyflwyno manylion unrhyw systemau echdynnu aer/awyru cyn eu gosod ar y datblygiad.

11.  Rhaid cyflwyno cynllun goleuo

12.  Ni chaniateir storio deunyddiau tu allan i’r adeilad

13.  Cyfyngu oriau derbyn a chludo

14.  Amodau Priffyrdd

15.  Amodau Dŵr Cymru

Dogfennau ategol: