Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad.
Derbyn gohirio gweithrediad y cynllun
arbedion Canolfannau Ailgylchu (PB5) yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol gan
ymdrin â’r bwlch sy’n cael ei greu wrth ystyried arbedion 2019/20 ymlaen, a
hefyd yn cymeradwyo gweddill y cynigion a nodir yn rhan 6.3 yr adroddiad i
gyfarch y bylchau mewn cynlluniau arbedion eraill.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Derbyn
gohirio gweithrediad y cynllun arbedion Canolfannau Ailgylchu (PB5) yr Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol gan ymdrin â’r bwlch sy’n cael ei greu wrth ystyried
arbedion 2019/20 ymlaen, a hefyd yn cymeradwyo gweddill y cynigion a nodir yn
rhan 6.3 yr adroddiad i gyfarch y bylchau mewn cynlluniau arbedion eraill.
TRAFODAETH
Diolchwyd a dymunwyd yn dda i Gyn-bennaeth yr Adran -
Gwyn Morris Jones - ar ei ymddeoliad ddiwedd Awst. Croesawyd Steffan Jones i’w
rôl fel Pennaeth yr Adran dros dro.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi yn wyneb y ffaith fod yna ddewisiadau eraill gyda llai o
ardrawiad ar bobl Gwynedd ar gael, fod
yr adran yn awyddus i ohirio gweithrediad y cynllun arbedion Canolfannau
Ailgylchu gan ymdrin â’r bwlch sydd yn cael ei greu wrth ystyried arbedion
2019/20 ymlaen. Mynegwyd fod mesur o Lendid ac Edrychiad Strydoedd eleni yn
dangos gwelliant ar berfformiad diwedd blwyddyn 2017/19.
Nodwyd fod
Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu fod yr Aelod Cabinet yn fodlon a’r
perfformiad ar gyfer y Gwasanaeth. Ychwanegwyd fod 1.21 miliwn o gasgliadau
gwastraff wedi ei wneud yn y cyfnod Ebrill i Fehefin a bod 3,067 o gwynion wedi
eu derbyn. Cydnabuwyd fod y ffigwr yn isel o’u gymharu â nifer y casgliadau.
Nodwyd fod yr Aelod Cabinet wedi gofyn i’r adran gyflwyno gwybodaeth i adnabod
y rhesymau dros unrhyw fethiant i roi sylw i’r agweddau y bydd modd dylanwadu
arnynt.
Trafodwyd y
Cynllun Peilot ar Orfodaeth Stryd a gomisiynwyd cwmni allanol i gynnal treial
gorfodaeth stryd am flwyddyn. Nodwyd fod y treial wedi para ychydig ddyddiau ym
mis Chwefror. Mynegwyd fod yr adran yn edrych i ddechrau peilot arall gan
ddefnyddio adnoddau mewn i dargedu ardaloedd ble mae problemau parhaus.
Ychwanegwyd y bydd yr adran yn diweddaru'r Cabinet ar y mater unwaith y bydd y
cynllun peilot ar waith.
Mynegwyd mai un o brif fesurau Ymgynghoriaeth Gwynedd yw adnabod elw yn
erbyn target. Nodwyd fod y lefel incwm yn îsl ar gyfer y chwater ond, o edrych
ar batrymau hanesyddol, fod y ffigwr hwn yn
is am y chwarter cyntaf.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth
- Trafodwyd y Peilot Gorfodaeth Stryd gan holi
os oes trafodaethau yn cael eu cynnal a siroedd eraill. Nodwyd fod trafodaethau
cychwynnol wedi bod a siroedd y Gogledd a byddant yn edrych am opsiynau posibl.
- Mynegwyd fod y mesur o Lendid ac Edrychiad
Strydoedd yn drefn genedlaethol a bod yr adran a Chadw Cymru yn Daclus yn rhoi
sgôr am y lefel Glendid.
- Holwyd os oes cynnydd wedi bod mewn Graffiti
Hiliol, nodwyd nad oedd cynnydd a'i fod yn parhau, fwy neu lai, ar yr un lefel.
-
Nodwyd
am eleni fod nifer ymwelwyr i’r sir wedi bod yn sylweddol uwch, ac felly
diolchwyd i’r staff am gadw strydoedd yn lan gan nodi ei fod wedi bod yn dasg
anodd. Nodwyd fod angen edrych ar y strwythur gan fod llawer mwy o bwysau ar y
gwasanaeth yn ystod misoedd yr haf.
Awdur:Dilwyn Williams
Dogfennau ategol: