I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn
unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc
wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn gallu bod
yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau. Nododd nad oedd bellach yn berchen dryll na thrwydded dryll.
Amlygodd bod cwmni lleol wedi cynnig swydd iddo petai ei gais yn llwyddiannus.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
• gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais yr ymgeisydd
• sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
• adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Ebrill 1999) ar ddwy
drosedd yn ymwneud a dryll yn groes i Ddeddf Drylliau Tan 1968. Am y troseddau
hyn cafodd ei ddedfrydu i gyfnod mewn sefydliad troseddwyr ifanc.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Manceinion (Medi 2001) am ddifrod
troseddol yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £100.00 a gorchymyn i
dalu costau ac iawndal.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob
collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.4 o’r Polisi yn nodi y bydd cais fel rheol yn cael ei
wrthod os oes collfarn sydd yn llai
na 10 mlynedd am drosedd yn ymwneud ‘a dryll yn ei feddiant’
Mae paragraff 6.5
yn dweud y bydd cais am drwydded fel
rheol yn cael ei wrthod lle mae collfarn lai na 3 mlynedd am ddirfod troseddol.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad
bod y gollfarn yn ymwneud a meddiant dryll wedi
digwydd yn 1998, bron i 20 mlynedd yn ôl.
Ystyriwyd nad oedd y gwaharddiad o dan
baragraff 6.4 yn berthnasol nac yn sail i wrthod y drwydded.
Wrth ystyried y gollfarn oedd yn
ymwneud a throsedd difrifol a oedd wedi digwydd
yn 2001 (dros 16 mlynedd yn ôl), nid oedd y gwaharddiad o dan baragraff 6.5 yn berthnasol ac felly roedd yr
Is bwyllgor yn fodlon na ddylai’r
gollfarn hanesyddol yma fod yn sail i wrthod y drwydded.
Roedd yr
Is-bwyllgor hefyd yn diolch i’r ymgeisydd am fod yn agored a gonest yn ei
eglurhad i amgylchiadau’r collfarnau.
Adroddodd
y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd a bod hawl ganddo i gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor o fewn
cyfnod o 21 diwrnod o dderbyn y llythyr.