skip to main content

Agenda item

Cais llawn i godi 4 tŷ deulawr newydd i gymeryd lle 4 byngalo fel a ganiatwyd yn flaenorol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais llawn i godi 4 tŷ deulawr newydd i gymryd lle 4 byngalo fel a ganiatawyd yn flaenorol.

 

          Roedd yr aelodau wedi ymweld ar safle

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Mai 14eg, 2018 oherwydd anawsterau cofrestru i siarad ynghyd ag awgrymiad y dylid cynnal ymweliad safle.

 

Nodwyd bod y cais yn llecyn o dir gwag o fewn stad breswyl ehangach sydd wedi ei rhannol ddatblygu. Eglurwyd bod y tir  wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Rhostryfan ac o fewn ardal adeiledig sydd yn cynnwys tai preswyl ar ffurf tai unigol, tai teras, tai pâr gydag amrywiaeth mewn dyluniad yn ogystal â maint tai cyfagos gan gynnwys tai unllawr a deulawr. Ategwyd bod y fynedfa bresennol i’r safle oddi ar ffordd gyhoeddus gyfagos gyda ffordd stad safonol yn arwain at dai’r stad. Nodwyd bod y tir yn codi mewn lefel uchder o’r ffordd fynediad tuag at ran uchaf y stad ei hun. Mynegwyd bod trafodaethau ffurfiol wedi eu cynnal ynglŷn â’r bwriad drwy drefn y gwasanaeth cyn cyflwyno cais. Nodwyd hefyd bod hanes cynllunio hirfaith yn ymwneud  a’r safle ar ffurf ceisiadau hanesyddol ar gyfer datblygiadau preswyl yn ogystal â cheisiadau diweddar yn ymwneud a thai unigol sydd eisoes wedi eu codi o fewn y stad.

 

Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan gymdogion i’r safle yn pryderu am effaith y datblygiad ar eu mwynderau yn ogystal â’r effaith ar yr ardal yn gyffredinol. Ystyriwyd yr holl faterion cynllunio perthnasol, y polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, hanes cynllunio’r safle a’r hawl ‘byw’ sydd yn parhau i godi 4 byngalo ar y safle yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus. O ganlyniad, roedd y bwriad o godi 4 tŷ deulawr gydag adnoddau cysylltiol yn dderbyniol.

 

a)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod cais am dai deulawr wedi ei wrthod yn y gorffennol

·         Bod y lluniau oedd yn cael eu harddangos yn gamarweiniol. Nid oeddynt yn adlewyrchu’r gwahaniaeth yng ngraddiant y safle

·         Byddai tai deulawr yn creu effaith o golli golau haul naturiol ar dai cyfagos

·         Bod plot rhif 4 yn goredrych ar dai presennol – nid yw hyn yn dderbyniol

·         Bod tai yn fwy o ran maint na byngalos ac o ganlyniad yn cael effaith sylweddol ar fwynderau cyfagos

·         Nad oedd gwrthwynebiad i fyngalos

 

b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd ganddo wrthwynebiad i fyngalos

·         Bod nifer y llofftydd yr un fath – mwy o elw i wneud o adeiladu tŷ na byngalo

·         Bod mwy o alw am fyngalos

·         Bod angen i’r Cyngor sicrhau eu bod yn diwallu anghenion lleol

·         Bod angen am gymysgedd priodol o dai ar y safle

·         Bod y lôn i’r safle yn gul a ddim yn gallu ymdopi gydag ychwanegiad traffig

·         Nad yw’r lôn wedi ei mabwysiadu gan y Cyngor

·         Bod problemau dŵr yn llifo ar y safle

·         Bod tri thŷ heb eu gwerthu ar y safle, pam felly adeiladu 4 arall

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad ar sail effaith y datblygiad ar fwynderau preswyl

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y graddiant yn sylweddol o fewn y safle ac felly byddai rhai o’r tai yn uwch na thai cyfagos ac felly yn creu effaith ymwthiol

·         Bod mwy o alw am fyngalos yn yr ardal

·         Bod y Cyngor Cymuned wedi gwrthod y cais

·         Bod y safle yn fach ac felly angen ystyried y datblygiad fel gorddatblygiad

·         Bod angen peidio gosod ffenestri fyddai yn achosi goredrych ar ddau dŷ sydd eisoes mewn bodolaeth

·         Bod angen ystyried pryderon diogelwch ffyrdd

·         Rhaid gwrando ar ddymuniadau pobl leol

·         Bod mwy o elw mewn adeiladu tai na byngalos

 

dd)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd wedi ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel  cymysgedd o dai addas ar gyfer y safle, amlygwyd bod y cais wedi bod yn fyw ers 2000 ac nad oedd polisi yn ymwneud a chymysgedd yn y cyfnod hwnnw. Mewn ymateb i sylw pellach bod y byngalos felly yn rhan o gynllun mwy a bod y cymysgedd wedi ei  ystyried yn flaenorol, nodwyd bod rhaid edrych ar y cais ar ei haeddiant ei hun.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod angen tystiolaethu dros y pryderon. Ni fyddai pryderon trafnidiaeth ddim gwahanol rhwng adeiladu pedwar tŷ a phedwar byngalo. O ran yr angen, anodd fyddai tystiolaethu rhwng yr angen am dai neu fyngalos oherwydd bod Uned Strategol Tai y Cyngor wedi nodi fod galw uwch am dai deulawr yn gyffredinol yn yr ardal, er bod galw digonol am dai unllawr yn ogystal.

 

Ategodd y Swyddog Monitro bod rhesymau priodol wedi eu hadrodd, ond bod angen tystiolaeth i gefnogi rheolau gwrthod.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar fwynderau cyfagos ar sail y byddai’n ddatblygiad ymwthiol ac y byddai’n creu elfen annerbyniol o or-edrych i dy cyfochrog

 

Dogfennau ategol: