Cais ol-weithredol i
ymestyn safle carafanau teithiol ynghyd â chadw adeilad toiledau, llwyfan pren,
ac ymgymryd â chynllun tirlunio
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Angela Russell
Cofnod:
Cais
ôl-weithredol i ymestyn safle carafanau teithiol ynghyd a chadw adeilad toiledau, llwyfan pren ac ymgymryd â
chynllunio tirlunio
a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar
gefndir y cais gan egluro bod y cais wedi ei ohirio yng nghyfarfod 16 Ebrill
2018 o’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn ail ymgynghori ac ail asesu’r cais yn sgil
derbyn cynlluniau diwygiedig. Amlinellwyd mai cais ôl gweithredol ydoedd i
ymestyn safle carafanau teithiol presennol, ynghyd a chadw adeilad toiledau, ‘hook ups’ trydanol, ac ymgymryd â
chynllun tirlunio a phlannu coed ar hyd ffin ogleddol a gorllewinol y safle.
Ategwyd bod y cais yn cynnwys lleoli 10 carafán deithiol ychwanegol ar yr eiddo
fyddai’n ychwanegiad i’r 10 carafán deithiol a ganiatawyd mewn cais ôl-weithredol
yn 2016. Nodwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys man storio ychwanegol ar gyfer 20
carafán deithiol, a gyda chaniatâd presennol eisoes i storio 10 carafán
deithiol byddai cyfanswm y man storio ar
gyfer 30 carafán deithiol.
Adroddwyd bod y safle yn gorwedd mewn
man amlwg o fewn yr Ardal o Dirwedd Arbennig, ac yn weladwy o’r ffordd sirol
gyfochrog a’r llwybr cyhoeddus sydd yn rhedeg ar hyd ffin ogleddol y safle.
Nodwyd bod y safle yn amlwg weladwy o’r ffordd sirol sydd yn rhedeg i lawr o
Lanbedrog i Fynytho.
Cyfeiriwyd at bolisi TWR 5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol sydd yn caniatáu cynigion am estyniadau i safleoedd
teithiol presennol neu leiniau
ychwanegol os cydymffurfir a’r cyfan o’r meini prawf a nodir. Amlygwyd mai nod
y polisi yw hwyluso gallu sefydlu safleoedd teithio a gwersylla o ansawdd uchel
mewn lleoliadau priodol.
Er na fyddai’r bwriad yn groes i holl
ofynion Polisi TWR 5 ni ystyriwyd ei fod yn cwrdd â phrif amcan y polisi sydd
yn gofyn bod safleoedd yn anymwthiol yn y tirlun ac felly ystyriwyd y bwriad yn
groes i bolisi TWR 5.
Nodwyd bod y cais yn gofyn am gynyddu darpariaeth storio carafanau teithiol
i 30 ond bod y Gwasanaeth Cynllunio o’r farn bod lleoliad y safle estynedig yn
ymwthiol yn y dirwedd leol ac yn amlwg weladwy o Lon Pin ei hun ac nid yw’r
dirffurf na’r tirlunio presennol yn ddigonol i gymhathu’r unedau i’r safle. Er
bod cynlluniau yn dangos y bwriad i atgyfnerthu’r tirlunio presennol nid oedd
sicrwydd y byddai’r plannu’n cael ei gario allan i’r graddau fyddai’n angenrheidiol
i sgrinio’r datblygiad.
Cyfeiriwyd at y pryderon a’r
gwrthwynebiadau oedd wedi eu derbyn yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a
phreswyl. Amlygwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd y
cynnydd arwyddocaol yn y nifer o unedau teithiol fyddai’n treblu capasiti’r
safle ac yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn y llif traffig ar hyd y
ffordd wledig. Tybiwyd na fyddai’r ffordd yn addas ar gyfer y nifer o gerbydau
fyddai yn tynnu carafanau nac ar gyfer mwy o symudiadau gan nad oes llawer o
gyfleoedd pasio ar y ffordd. Ategwyd bod
y ffordd yn darparu mynediad at feysydd carafanau teithiol eraill, ynghyd a
chaeau ffermydd lleol ac o ganlyniad yn ymdopi gyda chanran uchel o beiriannau
a cherbydau mawr eraill.
Ystyriwyd
y byddai’r cais yn amharu ar fwyniant trigolion cyfagos o’u heiddo, nid yn unig
oherwydd y cynnydd mewn traffig, ond hefyd bwrlwm a sŵn ychwanegol. Ni
ystyriwyd y byddai’r cynllun tirlunio a phlannu coed yn goresgyn y broblem yma.
b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan asiant yr ymgeisydd;
·
Mai
carafanau tymhorol ydynt ac am gyfnod byddant yn cael eu cadw ar y safle cyn eu
cludo i’r storfa. O ganlyniad ni fydd ymyrraeth mewn trafnidiaeth
·
Storfa
flaenorol yn rhy fach
·
Tri
chyfarfod safle wedi eu cynnal gyda swyddogion gyda diwygiadau wedi eu cytuno.
Os bwriad oedd gwrthod yna dylai hyn fod wedi ei wneud yn eglur i’r ymgeisydd
cyn iddo dalu am wasanaeth yr asiant. Nodwyd bod hyn yn annerbyniol.
·
Bod
yr ymgeisydd yn fodlon addasu maint yr
adeilad
·
Bod
y safle yn weladwy o bell yn unig. Tyfiant arfaethedig gyda bwriad i blannu mwy
os byddai angen – gellid rheoli hyn drwy osod amod tirlunio
c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
(ch) Mewn ymateb i sylw ynglŷn
â chyfarfodydd oedd wedi eu cynnal wrth drafod y cais, nodwyd mai cyfrifoldeb
yr ymgeisydd yw ystyried costau wrth gyflwyno cais. Nid oedd awgrym o gam
arwain yr ymgeisydd a bod pryderon am y bwriad wedi bod yn gyson yn ystod
trafodaethau ac fod yr argymhelliad i wrthod wedi bod yn gyhoeddus ers cyn
gohirio’r cais yn Ebrill eleni.
Ategwyd bod y safle yn gweithredu yn groes i’r drwydded, heb ganiatâd
cynllunio a’r cais yn groes i bolisïau a rheoliadau cynllunio. Pwysleisiwyd bod
y rhesymau dros wrthod yn rhai cadarn.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chadw yr ystafelloedd ymolchi (yn
dilyn gwariant ar welliannau), amlygodd
yr Uwch Reolwr Cynllunio bod angen cynnal trafodaethau pellach gyda’r
swyddogion gorfodaeth i drafod yr agwedd yma o’r bwriad.
PENDERFYNWYD
gwrthod y cais.
Gwrthod
1.
Byddai’r datblygiad, oherwydd ei leoliad, gosodiad a gwedd
yn y dirwedd, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad agored
gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr Ardal o Dirwedd
Arbennig. Ymhellach ni fyddai’r bwriad wedi ei leoli mewn lleoliad ymwthiol ac
sydd wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Mae’r bwriad felly
yn groes i bolisi strategol PS 19 a pholisïau AMG 2, PCYFF 2 a TWR 5 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) a Chanllaw Cynllunio
Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd
2.
Creu cynnydd annerbyniol yn y lefel o drafnidiaeth ar hyd ffordd gul a
throellog sydd heb lawer o fannau pasio gan greu sefyllfa a fyddai yn debygol o
fod yn niweidiol i ddiogelwch ffyrdd yn groes i Bolisi TRA 4
3.
Amharu ar fwyniant trigolion cyfagos o’u heidio oherwydd cynnydd
annerbyniol mewn lefel trafnidiaeth, aflonyddwch a sŵn yn groes i Bolisi
PCYFF 2.
Dogfennau ategol: