I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd ei fod
wedi cael cynnig swydd gyda
chwmni lleol ac ei fod
wedi cwblhau prawf meddygol. Ategodd fod y collfarn
diweddaraf wedi digwydd yn ystod
cyfnod anodd o’i fywyd ond
ei fod bellach
mewn cyfnod sefydlog. Amlygodd ei fod wedi
colli ei waith yn ddiweddar
gyda chwmni lleol ac yn
chwilio am waith. Nododd fod
ganddo brofiad helaeth o ddreifio gyda chwmniau yr
oedd wedi gweithio iddynt Cyflwynodd eirda oedd yn cefnogi
ei gais.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD nad oedd yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen
gais yr ymgeisydd
• sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad
geirda yn cefnogi
ei gais
• adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau.
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Gwyrfai (Tachwedd 1982) ar gyhuddiad o fwgleriaeth, yn groes i Ddeddf Lladrad 1968. Cafodd ddirwy
a gorchymyn i dalu costau. Yng Ngorffennaf 1988,
cafodd ei ganfod yn euog gan Lys Ynadon Caernarfon ar un cyhuddiad o ddwyn gan
gyflogai, yn groes i Ddeddf Dwyn 1968. Ar gyfer y drosedd hon cafodd ddirwy a
gorchymyn i dalu iawndal.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Hydref
1998) o yfed a gyrru, a defnyddio cerbyd
heb yswiriant. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis, derbyn 6 phwynt cosb ar ei drwydded, dirwyon a chostau.
Yn Ebrill 2009, cafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis gan ddechrau ar 3 Ebrill
2009, a chyfanswm mewn dirwy a chostau.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson
sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond
bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y
nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod
y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974
neu beidio.
Mae paragraff
11.2 yn dweud y bydd cais fel rheol yn cael ei wrthod lle mae gan ymgeisydd fwy
nag un gollfarn am yfed a gyrru, oni bai bod cyfnod o 10 mlynedd wedi pasio ers
ailsefydlu’r drwydded yn dilyn y gollfarn ddiweddaraf.
Mae
paragraff 16.1 yn dweud y bydd cais ymgeisydd fel rheol yn cael ei wrthod lle
mae
ganddo fwy nag un gollfarn am droseddau sydd yn dangos diffyg parch at
eiddo,
oni bai bod 10 mlynedd wedi pasio ers y gollfarn ddiweddaraf.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y gollfarn byrgleriaeth (1982) a dwyn
(1988) yn dangos patrwm o aildroseddu yn
ymwneud ag anonestrwydd, ac felly diffyg parch at eiddo. Fodd bynnag, gan fod y
diweddaraf o’r collfarnau hyn wedi digwydd 30 mlynedd yn ôl, nid oedd y
gwaharddiad o dan baragraff 16.1 o’r Polisi yn sefyll ac felly nid oedd yn sail
i wrthod y cais.
Wrth ystyried y ddwy gollfarn am yfed a gyrru ystyriwyd paragraff 11.2 o’r
Polisi, cyfrifwyd bod gwaharddiad y
gollfarn ddiweddaraf wedi dod i ben Ebrill 2010, gyda’r drwydded wedi
ailsefydlu ar 3 Ebrill 2010. Cadarnhaodd yr ymgeisydd nad oedd wedi cwblhau’r
cwrs a fyddai wedi cwtogi hyd y gwaharddiad. Ychydig dros 8 mlynedd sydd ers
Ebrill 2010 ac felly o dan yr
amgylchiadau, nid oedd 10 mlynedd wedi pasio ers ailsefydlu’r drwydded ac felly
roedd y gwaharddiad o dan baragraff 11.2 yn berthnasol i’r cais hwn.
Er mai canllaw yn unig yw’r polisi gyda’r Is-bwyllgor yn ymwybodol bod modd
gwyro oddi wrtho os oes cyfiawnhad dros wneud hynny, wedi iddynt ystyried y
dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd roeddynt yn anghyfforddus gyda’r 2
gollfarn o yfed a gyrru. Er mai o drwch
blewyn yr oedd dros y trothwy o yfed a gyrru ar y ddau achlysur nid oedd hyn yn
resymau i’w hystyried. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn anghyfforddus gyda’r
syniad o roi trwydded, yn groes i bolisi, i rywun gyda 2 gollfarn am yfed a
gyrru lle mae dros 18 mis i fynd
hyd ddeng mlwyddiant y gwaharddiad diwethaf.
Er bod gan yr
Is-bwyllgor gydymdeimlad gyda’r ymgeisydd, roedd yr aelodau o’r farn bod y cais hwn wedi cael ei gyflwyno ychydig yn rhy
fuan. Byddai’r tebygolrwydd o gael trwydded wedi bod yn uwch petae’r cais wedi ei ohirio o tua 6-9 mis.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd a bod hawl ganddo i gyflwyno apêl yn erbyn
penderfyniad yr Is-bwyllgor o fewn cyfnod o 21
diwrnod o dderbyn y llythyr.
Dechreuodd y cyfarfod
am 3:20pm a daeth i ben am 4 :00pm