Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.
Cofnod:
Nododd Rheolwr
Gwasanaeth AHNE Llŷn drwy ei amryfusedd nad oedd yr eitem ganlynol wedi ei
gynnwys ar y rhaglen.
Tanddaearu
gwifrau trydan
Croesawyd
Alan Jones (SP Energy Networks) i’r cyfarfod. Rhoddodd gyflwyniad ar gynllun tanddaearu gwifrau trydan yn yr AHNE
gan nodi y cynhelir cyfarfodydd diweddaru efo swyddogion yr AHNE bob 6 mis.
Manylodd ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y cyfnod 2010-15 yn Aberdesach, Rhiw
a Llithfaen a’r gwaith a gwblhawyd ac oedd yn symud yn ei flaen ers 2015 ym
Mynydd Cilan, Comin Mynytho, Sarn Bach, Dwyros a Bryncynan. Nododd bod cyllideb
o £8 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y 3 AHNE a’r Parciau Cenedlaethol yn y
gogledd am y cyfnod 2015-22 a bod angen adnabod prosiectau ar gyfer y dyfodol.
Mewn
ymateb i sylwadau gan aelodau yng nghyswllt tirlithriad o ganlyniad i erydiad dŵr
yn dilyn cwblhau gwaith tanddaearu yn Nant Gwrtheyrn a diogelwch y gwaith
adfer, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r
mater.
Holodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y gwaith tanddaearu ar Gomin Mynytho. Mewn
ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’r gwaith yn mynd yn ei
flaen unwaith ceir hawl gan y tirfeddiannwr.
Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt pwy oedd yn penderfynu o ran y
safleoedd y gwneir gwaith tanddaearu gwifrau trydan, eglurodd cynrychiolydd SP
Energy Networks bod swyddogion yr AHNE yn cynnig safleoedd posib a’i fod ef yn
ystyried ymarferoldeb tanddaearu gwifrau trydan yn y safleoedd posib. Ymhelaethodd
bod gweithredu ar safleoedd oedd yn ymarferol bosib i wneud y gwaith yn
ddibynnol ar dderbyn hawl gan y tirfeddiannwr. Eglurodd bod tirfeddiannwr yn
derbyn taliad way-leave am wifrau
trydan uwchben y tir oherwydd eu heffaith ar waith amaethyddol o ddydd i ddydd
a bod taliad llai ar gyfer gwifrau trydan wedi eu tanddaearu. Eglurodd
ymhellach bod tirfeddiannwr yn gallu rhoi rhybudd i derfynu’r hawl os nad oedd
hawddfraint ar y tir yn weithredol. Nododd mai anghyffredin oedd y defnydd o
hawddfraint ar dir gan ei fod yn broses anoddach.
Holodd
aelod faint oedd cyfanswm hyd gwifrau trydan uwchben y tir yn yr AHNE. Mewn
ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks mai cyfran fechan o’r
rhwydwaith cyflawn oedd uwchben y tir. Ychwanegodd y canolbwyntir ar yr
ardaloedd mwyaf ymarferol o ran tanddaearu gwifrau trydan.
Tynnodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn sylw bod erthygl wedi ei gynnwys yng
nghylchgrawn ‘Llygad Llŷn’ ar y gwaith a gwblhawyd yng Nghilan.
Cyfeiriodd
aelod at newidydd trydan nad oedd bellach yn weithredol ger cyn waith
carthffosiaeth Nefyn a holodd o ran ei dynnu oddi yno. Nododd cynrychiolydd SP
Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r mater.
Diolchodd
y Cadeirydd i gynrychiolydd SP Energy Networks am ei gyflwyniad.
Nododd
cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n cysylltu efo Rheolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn o ran safleoedd posib ar gyfer tanddaearu gwifrau trydan.
Pencampwr Cefn Gwlad
Nododd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Cynghorydd Angela Russell wedi ei
phenodi yn Bencampwr Cefn Gwlad gan Gyngor Gwynedd. Ymhelaethodd y byddai yn ei
rôl yn hyrwyddo materion cefn gwlad. Eglurodd bod y Pencampwr yn derbyn
gwahoddiad i gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor fel sylwedydd ond bod opsiwn i addasu’r
cyfansoddiad fel bod y Pencampwr yn aelod llawn o’r Cyd-Bwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y
broses benodi, nododd Rheolwr Cefn Gwlad a Mynediad mai’r Aelod Cabinet
Amgylchedd oedd yn gyfrifol am y penodiad a bod y Cynghorydd wedi ei dewis gan
ei bod yn Bencampwr Bioamrywiaeth yn flaenorol.
PENDERFYNWYD addasu cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor i gynnwys Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd yn aelod llawn o’r Cyd-Bwyllgor.