Cais amlinellol
gyda'r holl faterion wedi eu
cadw yn ôl
i godi 9 tŷ newydd gyda modurdai integredig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth A. Roberts
Cofnod:
Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu
cadw yn ôl i godi 9 tŷ newydd gyda mordurdai integredig.
(a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cynlluniau mynegol
wedi eu cyflwyno sy’n awgrymu maint, gosodiad ac edrychiadau tebygol y
datblygiad – sy’n cynnwys 3 rhes o 3 ty trillawr gyda 3 llofft yr un. Byddai 7
o’r unedau ar gyfer marchnad agored a 2 yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy.
Lleolir y safle o
fewn ffin ddatblygu dinas Bangor ond heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd
penodol. Eglurwyd bod y tir yn codi mewn
uchder o’i flaen sydd yn ochri a’r ffordd fynediad bresennol tuag at stad Maes
Berea i’r de a’r gorllewin. Mae’r stad bresennol yn sefydliedig ac yn cynnwys
oddeutu 55 o dai sy’n gymysgedd o dai deulawr a thrillawr.
Tynnwyd sylw at y
polisiau cynllunio perthnasol a’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Derbyniwyd llythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad
fel sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad.
Nodwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol
a’r bwriad yn estyniad rhesymegol i’r stad bresennol ac fe welir fod y
cynlluniau mynegol yn cyfleu ag adlewyrchu’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatau
ac adeiladu o fewn gweddill y stad.
Cynigir 2 allan o’r 9 uned yn dai fforddiadwy. Derbyniwyd sylwadau
ychwanegol gan yr Uned Polisi ar y Cyd sy’n datgan yr angen ar gyfer tai sydd
wedi ei adnabod gan Tai Teg yn 2018. Awgryma’r ystadegau mai tai 1-3 llofft
sydd yn mynd i fod yn fwy tebygol o gyfarch y galw cyfredol a’r galw a ragwelir
yn y dyfodol o ran tai marchnad a thai fforddiadwy. Nodwyd nad oedd y
dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais
ar sail cymysgedd tai gan gofio fod y bwriad yn paratoi 2 uned fforddiadwy fel
rhan o’r bwriad.
Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i’r bwriad
Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd
â’i nodweddion naturiol presennol ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r
polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i gwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod 2 o’r 9
tŷ sy’n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau cynllunio perthnasol.
(b) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.
(c) Tynnwyd sylw bod Tai Teg wedi nodi ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol am yr angen o 180 o unedau 2 ystafell wely yn
erbyn 124 o unedau 3 stafell wely, felly gofynnwyd pam nad oedd cymysgedd gwell
o dai ar y safle dan sylw.
(ch) Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio
at sylwadau Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol
a’r ffaith nad oedd swyddogion yn ffyddiog bod ganddynt y dystiolaeth
angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais ar sail
cymysgedd. Amlygwyd fod y safle ym
Mangor ac fod nifer uchel o dai wedi eu caniatau yn ddiweddar gyda cymysgedd
dda o ddarpariaeth ar gael. Nodwyd hefyd mai cais amlinellol oedd gerbron.
(a)
Ymatebodd i ymholiadau ychwanegol fel a ganlyn:
·
Na fyddai’r cais materion a gadwyd yn ól o
reidrwydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ond byddai’n rhaid i’r ymgeisydd
gyflwyno cais o fewn amser penodol
·
Mai 20% ydoedd y disgwyliad o dai fforddiadwy ym
Mangor a Gogledd / De Arfon yn unol á’r Cynllun Datblygu Lleol.
Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 i sicrhau fod 2 o'r 9
tŷ sy'n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau perthnasol yn ymwneud
â:-
1. Amser
2. Materion a gadwyd yn ôl
3. Manylion lefelau tir a lloriau
4. Deunyddiau gan gynnwys y defnydd o lechen
naturiol
5. Tirlunio.
6. Priffyrdd.
7. Tynnu hawliau
datblygiad a ganiateir oddi ar y 2 dŷ fforddiadwy.
8. Amod Dŵr Cymru
parthed cynllun draenio.
9. Bioamrywiaeth
Dogfennau ategol: