Agenda item

Y Maes Café, Llandanwg, Harlech, LL46 2SD

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

Y Maes Café, Llandanwg, Harlech

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Graham Perch  (ymgeisydd) 

 

Eraill a wahoddwyd:             Cynghorydd Annwen Hughes (Aelod Lleol)

                                                Mr Arwel Thomas, Mr Edward Thomas, Mrs Jean Thomas, Mr Richard Poole a Mrs Sandra Poole – ymgynghorai lleol

                                               

            Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu bod y Cadeirydd wedi awgrymu ymweliad           safle gan nad oedd yn gyfarwydd â’r ardal. I hwyluso’r drefn gwnaed cais i        rannu lluniau o’r caffi (o Google Street Scene) er budd yr Is Bwyllgor. Cytunodd           yr ymgeisydd i’r lluniau gael eu rhannu ond   mynegodd bod y safle wedi newid   gryn dipyn ers cyfnod y llun.

 

            Cyflwynwyd cyfieithiadau cywir o sylwadau'r Aelod Lleol, y Clerc Cymuned ac       un o’r gwrthwynebwyr. Roedd y sylwadau hyn wedi eu cyflwyno yn wreiddiol       yn y Gymraeg, ond cyfieithiad gwallus o’r sylwadau hynny oedd wedi ei      gynnwys yn y rhaglen.  Rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd ddarllen y cyfieithiadau.

 

a)            Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer cyflenwi alcohol i gwsmeriaid ar eiddo oedd eisoes yn gweithredu fel caffi 7 diwrnod yr wythnos yn ystod yr Haf ac ar benwythnosau yn unig yn ystod y gaeaf. Amlygwyd y bwriad i gynnig gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo ynghyd a chwarae cerddoriaeth radio gefndirol yn ystod oriau agor (tu mewn a thu allan). Nodwyd bod y caffi ar agor hyd at 5pm ar hyn o bryd, ond bwriedir agor hyd at 10pm ar nos Wener a Sadwrn gyda gwerthiant alcohol tan 9:30pm. Ategwyd bod yr ymgeisydd hefyd yn ystyried dangos digwyddiadau chwaraeon yn achlysurol

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod 24 o e-byst / llythyrau wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail y 4 amcan trwyddedu. Tynnwyd sylw at ymateb yr ymgeisydd i bryderon y gwrthwynebwyr ac at yr amodau, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, fyddai’n cael eu hymgorffori yn y drwydded.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Mewn ateb i gwestiwn gan yr Is Bwyllgor am ddarpariaeth toiledau cwsmeriaid, nododd y Rheolwr Trwyddedu, mewn ymateb i sawl pryder, bod amod i’w gosod ar y drwydded, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, i ddeilydd y drwydded ddarparu trefniant digonol o doiledau i gwsmeriaid tra bod yr eiddo yn agored i’r cyhoedd.

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno. Cyfeiriodd at lythyr yr oedd wedi ei gyflwyno mewn ymateb i bryderon oedd yn cynnwys opsiynau posib ar gyfer darparu toiledau.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd ganddo fwriad i redeg y caffi fel tafarn neu gyfleuster yfed yn hwyr

·         Mai ar nos Wener a Sadwrn yn unig roedd cais am estyniad oriau

·         Bod y cyfleuster agor yn hwyrach hefyd ar gyfer digwyddiadau cymunedol neu breifat

·         Cerddoriaeth gefndirol yn unig oedd y bwriad  - nid oedd ystyriaeth wedi ei roi ar gyfer dim arall heblaw hynny

·         Ei fod wedi amlygu opsiynau posib ar gyfer darparu toiledau. Derbyniodd na ellir rhedeg busnes o’r fath heb doiledau, ond mynegodd fod ganddo bryder tuag at argymhelliad y swyddogion gan fod cynsail wedi ei osod gyda chaffi yn Harlech a chaffi yn Bermo yn gweithredu heb doiledau.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â theledu cylch cyfyng, nododd mai ‘llif byw         (live streaming) oedd ganddo yn y caffi yn cael ei redeg oddi ar you-tube     ar         gyfer defnydd marchnata yn unig. Nid oedd yr adnodd yn recordio             digwyddiadau / symudiadau. Ategodd nad oedd yr adnodd bellach ar gael a'i             fod yn edrych am asiantaeth arall i wneud y gwaith. Nododd ei fod wedi     gwneud cais i’r geiriau ‘cctv’ gael ei dileu o’r cais.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

·         Bod cerrynt y môr ger Traeth Llandanwg yn gryf a pheryg i ymdrochwyr. Er yr arwyddion, nid yw ymwelwyr yn ymwybodol o’r peryglon. Bod diogelwch y cyhoedd yn hanfodol.

·         Pryder nad oedd yr ymgeisydd yn byw ar yr eiddo. Awgrym y byddai hyn yn arwain at sefyllfa sydd â diffyg rheolaeth. Rhaid sicrhau bod rheolwr ar yr eiddo

·         Byddai gwerthu alcohol yn y caffi yn newid cymeriad y lle. Y caffi, fel y mae yn cael ei reoli yn dda, yn brysur a phoblogaidd gyda theuluoedd

·         Bod Traeth Llandanwg yn ardal o lonyddwch a thawelwch unigryw

·         Nid yw’r lleoliad yn addas ar gyfer gwerthu alcohol. Peryglon amlwg yn codi gyda chyflwyno alcohol

·         Byddai caniatáu'r drwydded yn arwain at ychwanegiad mewn llanast a sbwriel

·         Byddai caniatáu yn gyfaddefiad bod busnes yn flaenoriaeth dros drigolion lleol

·         Petai unrhyw anghydfod yn codi o ganlyniad i’r nosweithiau hwyr, pwy fyddai yn cysylltu gyda’r heddlu?

·         Ni ellir rhagweld beth fydd y newid. Gall y safle gael ei ddifethaf ac anodd iawn fyddai ail greu'r hyn sydd yn bodoli

·         Petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu byddai hyn yn anwybyddu heddwch yr ardal, diogelwch plant ac anifeiliaid anwes, hanes hynafol Llandanwg.

·         Bod cymdogion y caffi yn gweld y cais yn gam rhy bell fydd yn effeithio ar eu preifatrwydd

·         Buasai alcohol yn gallu cael ei yfed am gyfnod hir cyn gorfod prynu bwyd - hyn yn ei ymdebygu a thafarndy

·         Bod diffyg lle ar gyfer storio. Tebygol y byddai’r alcohol yn cael ei gadw mewn siediau pren yng nghefn yr adeilad . Hyn yn sefyllfa fregus fyddai yn annog lladrad.

·         Diffyg toiledau yn bryder. Cynigion yn unig yw’r opsiynau ar gyfer darpariaeth toiledau – dim gorfodaeth. Nid yw darparu toiledau symudol yn dderbyniol.

·         Yfed alcohol oddi ar y safle yn debygol o greu sefyllfa o gynnydd mewn poteli wedi malu a fandaliaeth

·         Bod cymdogion y caffi a thrigolion y caffi i gyd yn gwrthwynebu’r cais

 

d)            Wrth grynhoi ei gais, amlygodd yr ymgeisydd bod lle bwyta cyfagos gyda thrwydded alcohol a bod yr eiddo hwnnw cyn iddo newid defnydd fel bwyty, yn siop drwyddedig. Ategodd nad oedd yr heddlu wedi derbyn cwynion a heb gynnig sylwadau. Nododd y byddai rheolwr dynodedig ar y safle yn goruchwylio tu mewn a thu allan i’r adeilad. Amlygodd bod nifer o drigolion yn cefnogi ei gais ac os na fyddai’r fenter yn llwyddo yna ni fyddai yn debygol o adnewyddu'r drwydded.

 

e)            Wrth ystyried y cais ystyriwyd adroddiad y Swyddog Trwyddedu, y ffurflen gais, y sylwadau ysgrifenedig a ddaeth i law oddi wrth y partïon gyda diddordeb ynghyd â’r sylwadau llafar a gyflwynwyd gan yr holl bartïon yn bresennol yn y gwrandawiad. Bu i’r Is-bwyllgor hefyd ystyried Polisi Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref ynghyd ag egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

 

           Trosedd ac Anrhefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig i  gynnwys amodau arfaethedig ar y drwydded:

 

·         Bod deilydd y drwydded yn darparu trefniant digonol ar gyfer toiledau i’r cwsmeriaid sydd ar gael tra mae’r eiddo yn agored i’r cyhoedd

·         Nad yw cerddoriaeth wedi ei recordio yn cael ei chware tu allan i’r eiddo

·         Dim gwerthu alcohol ar gyfer yfed oddi ar yr eiddo

 

            Rhoddwyd ystyriaeth benodol i sylwadau ynglŷn â'r pryderon canlynol:

 

            Nad oedd gan y caffi ei gyfleusterau toiled ei hun. Derbyniwyd y byddai     caniatáu gwerthiant             alcohol ar gyfer yr oriau estynedig arfaethedig yn rhoi          straen ar y cyfleusterau toiledau             cyhoeddus gerllaw. Ni chyflwynwyd tystiolaeth y byddai caniatáu’r drwydded yn gosod straen    ar y toiledau           cyhoeddus ac oherwydd bod cwsmeriaid eisoes yn eu defnyddio roedd y   sefyllfa  i weld yn foddhaol. Er hynny, petai’r ddarpariaeth gyhoeddus yn newid          buasai’r sefyllfa yn dra gwahanol ac felly, yn unol ag argymhelliad y       swyddogion trwyddedu, roedd yr is-bwyllgor yn awyddus y dylid sicrhau     bod             darpariaeth toiled digonol ar gael.

 

            Nodwyd fod Llandanwg yn ardal dawel, gyda phobl yn ymweld oherwydd y           tawelwch a bod Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ger llaw.   Nodwyd fod yr eiddo yn agos iawn i   breswylfeydd a datganwyd pryder y    byddai sŵn cwsmeriaid a sŵn cerddoriaeth (yn cael ei chwarae tu allan i’r eiddo) yn tarfu ar y tawelwch. Ni chyflwynwyd tystiolaeth y byddai      caniatáu          trwydded i werthu alcohol ynddo’i hun yn achosi problem sŵn ac ni       chyflwynwyd   tystiolaeth o broblemau a chwynion yn y gorffennol yn             gysylltiedig gyda’r eiddo. O ystyried bod yr eiddo yn agos iawn at eiddo     preswyl, roedd yr is-bwyllgor o’r farn y byddai chwarae cerddoriaeth tu   allan i’r eiddo yn debygol o effeithio ar fwynderau trigolion cyfagos.  Cytunwyd    derbyn argymhelliad y swyddogion trwyddedu na ddylid caniatáu chwarae             cerddoriaeth wedi       ei recordio y tu allan i’r eiddo.

           

            Mynegwyd pryder y byddai trwydded gwerthu alcohol ar gyfer yfed oddi ar safle    yn hyrwyddo   pobl i fynd a diod ar y traeth ac ar y twyni fyddai yn arwain at        wneud llanast a chynnydd tebygol mewn ymddygiad gwrth gymdeithasol.         Ystyriwyd y dadleuon hyn yn ofalus gan fod diffyg   tystiolaeth o broblemau yn y gorffennol a diffyg sylwadau gan yr heddlu o safbwynt rhwystro   trosedd ac       anhrefn. Penderfynwyd, oherwydd natur benodol lleoliad yr eiddo, h.y. ei     agosatrwydd at eiddo preswyl, maes parcio cyhoeddus a thraeth cyhoeddus, y    byddai gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle yn     debygol o achosi             problemau o safbwynt diogelwch y cyhoedd a phroblemau gyda sbwriel.

 

            Mynegwyd pryder y byddai cynnydd mewn traffig.  Roedd yr is-bwyllgor o’r            farn bod yr eiddo eisoes yn gweithredu fel caffi ac nad oedd tystiolaeth i         awgrymu y byddai caniatáu'r drwydded yn debygol o achosi cynnydd      sylweddol ym maint y traffig.

           

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw

 

 

 

Dogfennau ategol: