Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Gareth Thomas

Penderfyniad:

-        Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.

-        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Roberts 

 

PENDERFYNWYD

-        Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.

-        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran wedi sicrhau buddsoddiad o £12.7miliwn ar gyfer moderneiddio darpariaeth addysg ym Mangor. Nodwyd fod yn gyfle i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael. Ychwanegwyd yn ystod y Cabinet ym mis Mawrth y penderfynwyd fod modd cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau ysgolion Glanadda a Choedmawr a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd.

 

Nodwyd fod yr ymatebion wedi codi pryder ynglŷn â materion traffig. Nodwyd y byddai cynllun penodol yn edrych ar hyn ac y bydd trafodaeth bellach ar y mater. Mynegwyd pryderon am faterion Ieithyddol ac am barhad ethos y Gymraeg yn Ysgol y Garnedd, ond ychwanegwyd fod ymateb gan Estyn yn nodi fod gan Ysgol y Garnedd brofiad llwyddiannus o hybu a defnyddio’r Gymraeg o fewn ysgol.

 

Mynegwyd fod y pennaeth dros dro sydd yn Ysgol Glanadda a Choedmawr o fis Medi ymlaen yn mynd i roi 50% o’i hamser i ddysgu ac o ganlyniad mae angen cysoni’r ddarpariaeth sydd i’w gael ar hyn o bryd.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn anghytuno gyda’r syniad o fynd am opsiwn 3 yn hytrach ‘nag opsiwn 10. Nododd y bydd y ddwy ysgol ar un safle ym mis Medi, a'u bod mewn adeilad o ansawdd da iawn. Ychwanegodd fod Glanadda wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y defnydd o’r Gymraeg a bod y ddwy ysgol wedi symud i fandiau lliw uwch yn ddiweddar.

 

Atebwyd y sylwadau gan nodi fod yr adran yn ceisio lleihau llefydd gweigion mewn ysgolion a sicrhau fod Penaethiaid yn rhydd am hyd at 80% o’i hamser. Ychwanegwyd fod nifer uchel o blant ardal Coedmawr yn mynd i ysgolion eraill yn y dalgylch yn hytrach nag Ysgol Coedmawr a Glanadda.

 

Nododd Aelod Lleol nad yw trigolion Rhodfa Penrhos yn hapus gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio eu ffordd er mwyn adeiladu yr ysgol newydd. Nodwyd fod y lon yn un brysur gyda cerddwyr ac nad oedd yn un sydd yn gallu cael Fan Ailgylchu yno, heb son am loris yn cario deunyddiau adeiladu. Nodwyd fod hyn yn fater cynllunio a nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar y ffordd fydd yn cael ei defnyddio er mwyn cyrraedd safle’r ysgol newydd. Bydd y sylwadau yma yn cael ei hystyried pan yn edrych ar y materion cynllunio.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod niferoedd yr ymgynghoriad yn isel, a holwyd ble odd Ysgol Faenol yn y darlun llawn. Nodwyd fod Ysgol Faenol yn rhan annatod o’r cynllun i foderneiddio addysg ym Mangor, ond fod hi yn drefn wahanol oherwydd ei bod yn Ysgol sydd yn gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru. Er fod yna risg fechan o redeg y ddau gynllun ar wahân, nid oedd yn un sylweddol o gofio’r buddion fyddai’n deillio hefyd i Ysgol y Faenol.

-        Mynegwyd y bydd safle newydd yr ysgol â 1,200 o blant arni gan fod Ysgol y Friars ar yr un llecyn o dir. Ond nodwyd fod safon adeilad Ysgol y Garnedd yn annerbyniol, a ddim yn ffit i bwrpas bellach. Ychwanegwyd fod angen adnodd newydd er mwyn cael ansawdd gwell ar addysg a rhoi cyfle gwell i’r disgyblion.

 

Awdur:Diane Jones

Dogfennau ategol: