Codi 9 tŷ deulawr (gan gynnwys tŷ fforddiadwy), mynedfa newydd, llecynau parcio a throi.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Charles Wyn Jones
Cofnod:
Codi 9 tŷ deulawr (gan gynnwys tŷ
fforddiadwy), mynedfa newydd, llecynnau parcio a throi.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu fewn i ffin datblygu canolfan wasanaeth
lleol Llanrug ac wedi ei ddynodi’n bwrpasol ar gyfer datblygiad tai. Nodwyd bod
y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.
Eglurwyd bod y safle yn wastad ei natur ac yn weledol iawn
o’r ffordd sirol dosbarth I cyfagos (Ffordd Llanberis). Nodwyd bod gosodiad y
tai o fewn y safle yn golygu byddai rhan sylweddol o’r safle yn ardal
amwynder/gwyrdd a chan ystyried ffurf, maint, dwysedd, edrychiad a dyluniad y
tai arfaethedig ni chredir byddai’r bwriad yn creu datblygiad estron na
gormesol a fyddai’n cael ad-drawiad sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau
gweledol y rhan yma o’r strydlun.
Tynnwyd sylw bod y bwriad yn golygu creu mynedfa safonol
oddi ar y ffordd sirol dosbarth I cyfagos ynghyd ac ymestyn y llwybr troed
presennol i mewn i’r safle ei hun. Diwygiwyd dyluniad a chynllun ffordd y stad
ynghyd â’r llecynnau parcio er mwyn cydymffurfio gyda gofynion yr Uned
Drafnidiaeth. Nodwyd bod lleoli mynediad newydd ar y rhan yma o’r briffordd
hefyd yn dderbyniol ar sail gofynion diogelwch ffyrdd ar sail gwelededd a’r
niferoedd o dai byddai’r fynedfa yn ei wasanaethu.
Nodwyd bod trydydd partïon wedi argymell dylai’r bwriad
cyfredol hwn gynnwys cylchfan, llwybr/ffordd gyswllt a llecynnau parcio fel yn
y cais blaenorol a ganiatawyd yn Rhagfyr 2012. Fodd bynnag, roedd rhaid
ystyried y ffaith bod yr elfennau hyn o’r cais blaenorol wedi eu cynnwys o fewn
y cais ei hun ar ddymuniad yr ymgeisydd bryd hynny (Esgobaeth Bangor) ac nad
oeddynt yn angenrheidiol nac yn statudol ofynnol er mwyn sicrhau diogelwch
ffyrdd nac er mwyn gwneud y bwriad yn dderbyniol o safbwynt materion cynllunio.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y tir dan sylw wedi ei
drosglwyddo dros 100 mlynedd yn ôl i’r eglwys ar gyfer adeiladu eglwys ond ni
wnaed ac fe gadwyd y tir ar gyfer defnydd cymunedol;
·
Bod y safle gyferbyn â’r ysgol
gyda llinellau melyn o ran atal parcio ynghyd â bysiau yn stopio ar gyfer yr
ysgol ac arosfa bws arall;
·
Bod y safle yng nghanol
pentref Llanrug ac yn agos at Sgwâr y pentref lle mae cyffordd gymhleth yn
bodoli gyda phum ffordd yn cyfarfod yno;
·
Yn dilyn trafodaethau fe
gynigiodd y Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd gynllun posib i wella’r
sefyllfa o ran diogelwch ffyrdd a fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus. Cadarnhaodd
yr esgobaeth y byddent yn gweithredu’n unol â’r hyn a gytunwyd gan gynnwys
llwybr gysylltiol rhwng Ffordd yr Orsaf a Ffordd Llanberis ynghyd â chylchfan i
gysylltu’r safle a’r ffordd gysylltiol;
·
Bod yr esgobaeth wedi
gwerthu’r tir am bris rhesymol oherwydd bod angen cynnwys mannau parcio, llwybr
cysylltiol a cylchfan;
·
Ni fyddai’r cynllun bwriedig
yn helpu’r sefyllfa bresennol o ran diogelwch ffyrdd ac nid oedd yn cynnwys
llwybr troed i’r siopau ar Ffordd yr Orsaf;
·
Cwestiynu pam roedd y cais hwn
am 9 tŷ yn hytrach na 10 tŷ fel y caniatawyd o dan y caniatâd
cynllunio blaenorol;
·
O ystyried sylwadau’r Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd, a oedd y defnydd hwn yn gwneud y defnydd gorau
gyda’r safle wedi ei glustnodi ar gyfer 10 tŷ. Holi pam nad oedd
sylwadau’r Uned Polisi wedi eu cynnwys yn yr adroddiad;
·
Byddai cais ar gyfer 10 tŷ
yn golygu ymrwymiad i ddarparu llecyn gwyrdd ar y safle;
·
Nad oedd cyfeiriad yn yr
adroddiad o ran Polisi TRA 1;
·
Bod gofod yn ardd plot 7A ar
gyfer adeiladu tŷ arall;
·
Ni fyddai’r gymuned wedi
cytuno i gynnwys y tir yn y CDLl heb y gylchfan;
·
Dylid gweithredu yn unol â
Ffordd Gwynedd gan roi pobl Gwynedd yn ganolog.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd
bod y bwriad yn groes i faen prawf 3 Polisi CYFF 2 a Pholisi TAI 8 o ran
cymysgedd briodol o dai.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pryderon o ran y ddarpariaeth
parcio a diogelwch ffyrdd;
·
Bod gardd plot 7A yn enfawr, a
fyddai cais yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol ar gyfer tŷ arall;
·
Bod y Cyngor Cymuned yn
gwrthwynebu’r cais;
·
Dim ond un tŷ oedd yn
fforddiadwy, fe ddylai bod o leiaf 3 tŷ yn dai fforddiadwy;
·
Bod y Gwasanaeth Trafnidiaeth
a Gofal Stryd wedi sôn am gynllun yn flaenorol o ran gwella’r sefyllfa o ran
diogelwch ffyrdd a nawr nodir bod y sefyllfa yn dderbyniol. A oedd cyfamod
ynghlwm â’r trosglwyddiad tir o ran darparu’r gwelliannau? Dylid gwrthod y cais
a thrafod efo’r datblygwr o ran ysbryd trosglwyddiad perchnogaeth y tir;
·
Yn hytrach na gwrthod y cais,
fe ddylid cynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd o ran y posibilrwydd o ddarparu
10 tŷ ar y safle gan nodi pryderon y Pwyllgor;
·
Pryder o ran maint y tai a
oedd i fod ar gyfer teuluoedd a diffyg cymysgedd o ran y math/maint o dai;
·
Bod y cais gerbron yn gais am
9 tŷ, byddai cais o ran tŷ ychwanegol yn gais ar wahân;
·
Faint o bwysau a roddwyd ar y
datblygwr i wneud y defnydd gorau o’r tir?
·
Bod yr ymgeisydd yn cynnig 9 tŷ
ar y safle oherwydd byddai 10 tŷ yn golygu ei fod yn ofynnol i’r ymgeisydd
ymgynghori yn gyhoeddus.
(ch)
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod ymgeisydd y cais
blaenorol wedi cytuno i’r gwelliannau yn wirfoddol ac nid oeddent yn
angenrheidiol i wneud y bwriad yn dderbyniol;
·
O ran pryder o dan
ddefnyddio’r safle gyda’r cais am 9 tŷ yn hytrach na 10 tŷ, gellir
gofyn i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth i gadarnhau’r sefyllfa o ran dwysedd y
datblygiad;
·
Dylid ystyried gohirio’r
cais i dderbyn mwy o wybodaeth yn hytrach na’i wrthod oherwydd bod risg posib
i’r Cyngor o ran costau mewn apêl;
·
O ran cymysgedd o
dai, gellir gofyn i’r Uned Tai a’r ymgeisydd gadarnhau'r angen am dai yn
Llanrug;
·
Dylid ystyried cynnal
ymweliad safle er mwyn i aelodau’r Pwyllgor weld lleoliad y llwybr troed a
ofynnir amdano gan yr Aelod Lleol. Gellir gofyn i’r ymgeisydd ddarparu llwybr
troed yn wirfoddol ond ni ellir ei orfodi;
·
Bod gwaith manwl wedi ei
gwblhau wrth baratoi’r CDLl o ran hyfywdra tir, roedd y targed o ran
darpariaeth tai fforddiadwy mewn datblygiad yng Ngwynedd yn amrywio ar sail yr
asesiad. Y targed ar gyfer Llanrug oedd 10% felly roedd y ddarpariaeth o 1 tŷ
fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad yn dderbyniol;
·
Bod materion yng
nghyswllt carthffosiaeth yn cyfyngu o ran gosodiad y safle;
·
Bod nifer y tai yn llai
na’r trothwy lle disgwylir bod yr ymgeisydd yn ymgynghori’n gyhoeddus ar y
bwriad. Roedd nifer o achosion o’r fath yn bryder cyffredinol i gynghorau ond
nid oedd yn bosib gwneud rhywbeth i’w atal rhag digwydd.
(d) Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio’r cais er mwyn derbyn mwy
o wybodaeth a chynnal ymweliad safle.
Nododd aelod y dylai’r Aelod Lleol fod yn rhan o’r
drafodaeth efo’r ymgeisydd.
Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed gosod amod o ran llwybr
cysylltiol neu fan chwarae fel rhan o’r datblygiad, nododd y Rheolwr Cynllunio
bod trafodaethau helaeth wedi eu cynnal rhwng y swyddogion, yr ymgeisydd a’r Aelod
Lleol ac mai mater o ewyllys da'r ymgeisydd oedd darparu llwybr troed neu man
chwarae. Eglurodd nad oedd yn bosib gorfodi amodau o’r fath gan nad oeddent yn
unol â’r polisïau.
Nododd aelod o ystyried bod y cais blaenorol am 10 tŷ a
bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer 10 tŷ yn y CDLl dylai bod y cais
gerbron am 10 tŷ er mwyn i’r pryderon lleol cael eu nodi fel rhan o
ymgynghoriad cyhoeddus. Ychwanegodd bod y cynllun gerbron yn un gwael oedd ddim
yn darparu cymysgedd o dai a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn nodi yn
eu sylwadau, oedd i’w gweld ar y wefan yn o dan y system Dilyn a Darganfod, bod
y cynllun yn un gwael.
Nododd aelod ei bod yn deall bod gosodiad y safle yn broblem
oherwydd y materion carthffosiaeth ond gwnaed gwell defnydd o’r safle yng
nghynllun safle’r cais blaenorol, fe ddylid ail ystyried y gosodiad.
Nododd aelod ei bryder o ran diogelwch ffyrdd oherwydd bod
mynedfa bwriedig y safle gyferbyn â’r ysgol.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth a cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: