Agenda item
Dymchwel ac ail godi tŷ.
AELOD LLEOL: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths
Cofnod:
Dymchwel ac ail godi tŷ.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr eiddo presennol wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu Borth-y-Gest, ond
roedd gweddill y safle tua’r arfordir wedi ei leoli tu allan. Tynnwyd sylw bod
y safle o fewn Ardal Tirwedd Arbennig.
Nodwyd bod arwynebedd llawr yr annedd presennol yn oddeutu
173m2 gyda’r tŷ arfaethedig yn cynnwys 3 llawr ac efo
arwynebedd llawr o oddeutu 465m2.
Amlygwyd yr awgrymwyd i’r ymgeisydd nad oedd y cynllun a
gyflwynwyd ar gyfer derbyn cyngor cyn cyflwyno cais yn dderbyniol oherwydd ei
leoliad tu allan i’r ffin ddatblygu, ei faint a’i raddfa. ‘Roedd y cynlluniau a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn wreiddiol yn parhau i leoli y rhan fwyaf o’r
annedd bwriedig y tu allan i’r ffin ddatblygu, ac er gwaethaf cyngor pellach yn
ystod delio gyda’r cais cynllunio, roedd cyfran o’r annedd bwriedig yn parhau i
fod tu allan i’r ffin ddatblygu, a’i faint a’i raddfa yn sylweddol fwy na’r
eiddo presennol. Nodwyd y rhoddwyd cyngor clir ar sut y gellir goresgyn effaith
gormesol ac effaith ar fwynderau’r eiddo gerllaw.
Eglurwyd yr ystyrir y byddai tŷ wedi ei leoli o fewn y
ffin ddatblygu ac wedi ei ddylunio’n sensitif i barchu’r ardal o’i gwmpas yn
dderbyniol; ond yn yr achos yma; ystyrir fod maint, swmp a gosodiad y tŷ
bwriedig yn annerbyniol a golygai hyn fod y dyluniad yn creu strwythur sy’n
anghydnaws a’r ochr llethr amlwg, ac sy’n arwain at effaith weledol sylweddol
fwy na’r adeilad presennol.
Nodwyd byddai’r datblygiad bwriedig yn achosi effaith weledol
sylweddol fwy na’r tŷ presennol, ac yn achosi effaith andwyol ar
fwynderau’r trigolion cyfagos, ac i’r perwyl hyn, ystyriwyd fod y bwriad yn
annerbyniol ac yn groes i’r polisïau a nodwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn gymydog a byddai’r
bwriad yn cael effaith ar ei breifatrwydd, roedd wedi gofyn i’r tŷ
bwriedig gael ei symud yn ôl i fod ar yr un llinell a’i dŷ;
·
Bod y tŷ bwriedig yn mynd
yn sylweddol tu allan i’r ffin datblygu yn enwedig ar ochr deheuol y safle;
·
Pryder o ran effaith gweledol
y datblygiad;
·
Ei bryder o ran y gwaith
peirianyddol ynghlwm â’r bwriad a’i effaith ar sylfaen ei dŷ;
·
Dylai cyflwyno arolwg
geo-dechnegol fod yn ofynnol oherwydd bod y safle ar ymyl clogwyn;
·
Byddai caniatáu’r cais yn
gosod cynsail a fyddai’n niweidiol i’r ardal a Gwynedd gyfan.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Diolch i’r swyddogion
cynllunio am eu gwaith a’u trafodaethau efo’r ymgeisydd;
·
Nid oedd yn erbyn datblygiadau
modern a ni fyddai’n gwrthwynebu’r bwriad o ddymchwel y tŷ presennol pe
byddai’n cynnig tŷ gwell;
·
Ei fod yn or-ddatblygiad o’r
safle gyda rhan o’r tŷ tu allan i’r ffin datblygu;
·
Pryder o ran y bwriad i osod
wal 8 medr o uchel ar ochr y tŷ bwriedig a’i effaith ar breswylwyr eiddo
Sŵn y Môr;
·
Bod yr ymgeisydd wedi derbyn
cyngor gan swyddogion ond ei fod wedi ei anwybyddu;
·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y
cais yn unol â’r argymhelliad.
(ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Nododd aelod ei bryder o ran cysondeb
argymhellion, o ystyried bod swyddogion wedi argymell caniatáu cais tebyg yn
Abersoch, ond yn yr achos yma ystyrir y byddai’r tŷ dan sylw yn amharu ar
y Cob a Portmeirion er eu bod dipyn o bellter o’r safle, gyda gwaith
peirianyddol ynghlwm â’r cais a leolwyd yn Abersoch yn ogystal â’i fod hefyd yn
or-ddatblygiad o’r safle hwnnw.
Mewn ymateb i’r sylw uchod, nododd aelod bod cais The
Shanty, Abersoch wedi ei ganiatáu yn ddiweddar ar apêl. Nododd aelod bod y cais
gerbron yn wahanol i’r cais yna gan fod cyfran o’r tŷ bwriedig wedi ei
leoli tu allan i’r ffin datblygu.
Nododd aelod ei bod yn cytuno efo’r
argymhelliad a'i fod yn od nad oedd yr ymgeisydd wedi gwrando ar y cyngor a
roddwyd gan swyddogion.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rhesymau:
1. Mae cyfran o’r tŷ bwriedig i’w leoli tu allan i ol-troed y
tŷ bwriedig a ffin ddatblygu’r pentref, ac o ganlyniad i faint a swmp y
bwriad yn y lleoliad yna, ystyrir fod y bwriad yn groes i feini prawf 6 a 7 o
bolisi TAI 13 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sy’n sicrhau na
ddylai cynigion i ddymchwel ac ail-godi tai sy’n ymestyn heibio ol-troed y
tŷ presennol a’r ffin ddatblygu gael effaith gweledol sylweddol fwy na’r
presennol.
2. Ystyrir fod y bwriad yn groes i faen prawf rhif 13 o bolisi PS5
meini prawf 1 a 2 o bolisi PCYFF 3 a 1, 2, 3 a 4 o bolisi PCYFF 4 a pholisi
AMG2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn o ran maint, graddfa,
safon dyluniad ac effaith ar y dirwedd oherwydd
nad yw’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y
safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, a’r driniaeth
i’r edrychiadau ac nad yw o safon dylunio uchel sy’n gwneud cyfraniad
cadarnhaol i’r ardal leol a mannau hygyrch nac yn ychwanegu tuag at gynnal,
gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig.
3. Ystyrir hefyd fod y bwriad yn groes i ofynion maen prawf rhif 7 o bolisi PS5, maen prawf rhif 7 o bolisi PCYFF 2 ac maen prawf rhif 10 o bolisi PCYFF 3 oherwydd y byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau meddianwyr eiddo lleol a’r ardal gyfagos, gan gynnwys llygredd golau, ac oherwydd na fydd yn helpu creu amgylchedd iach a bywiog ac yn ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol.
Dogfennau ategol: