Agenda item
Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones
“Pa bwerau sydd gan gymunedau lleol a chynghorwyr i benderfynu pa
denantiaid sy’n cael tai cymdeithasol o fewn ein cymuned?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago
“Rwy’n credu mai’r
pwnc yma ydi un o’r rhai sy’n achosi’r rhwystr mwyaf i gynghorwyr. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o achosion yn ein
wardiau lle mae pobl angen tai ac rydym yn darganfod bod y tŷ, neu’r tai,
yn mynd i rywun o’r tu allan i’n cymunedau.
Yn bersonol, hoffwn weld system tai yn cael ei ddylunio gennym ni yma ar
sail ein blaenoriaethau. Mae yna sawl
enghraifft ar draws y byd ac yn Ewrop lle mae systemau tai yn gosod tai ar sail
pethau fel grŵp ethnig, iaith, cyswllt lleol - ac nid yw’r un ohonynt yn
hiliol. Mae’r Cenhedloedd Unedig a’r
Undeb Ewropeaidd wedi cadarnhau hynny.
Ond er mwyn gwneud hynny rydym angen y grym ac nid yw’r grym yna gennym
oherwydd bod y llywodraethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain yn dweud hynny. Felly rydym ni yn y sefyllfa wrthnysig
rŵan lle mae Cernyw yn gallu gwneud llawer mwy na ni gyda’u system tai,
ond dyma lle rydym ni rŵan ac ni allwn wneud ond yr hyn y gallwn ei
wneud.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones
“A wnaiff yr Aelod Cabinet, hefo fi, sgwennu
at y Cynulliad a San Steffan i drio dechrau trafodaeth eto i ni gael system
llawer mwy cadarn a gwell o fewn ein cymuned a’r Cyngor?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig
ab Iago
“Y gwir ydi, mae
gan y mwyafrif o bobl sy’n cael ein tai gyswllt lleol, ond beth mae cyswllt
lleol yn olygu? Beth ydi’r diffiniad o
gyswllt lleol? Dyna ydi ein problem ni,
bod ni ddim yn cael gwneud hynny. Er y
byddwn yn hoffi newid y system i gyd, byddwn yn dweud nad yw’r Llywodraeth
Lafur yng Nghaerdydd wedi dangos unrhyw ddiddordeb ynddo, trwy gynllunio na
thai, ac os ydym wir eisiau system tai gwahanol, yr ateb ydi pleidleisio dros
blaid wahanol yn ein Llywodraeth ond byddaf yn gwneud fy ngorau i wneud yn
siŵr ein bod ni yn gallu gwneud yr hyn y gallwn ei wneud a rhoi pwysau ar
bwy bynnag i newid y system.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams
“Pam bod rhai o brif swyddogion y Cyngor yn
gwrthod rhybudd o gynnig gan gynghorydd dro ar ôl tro, gan ddefnyddio esgusion
cloff, e.e. fod y cynnig wedi cyrraedd yr adran anghywir ym mis Gorffennaf ac
ym mis Medi dweud ei fod yn “anghyfreithlon”?”
Ateb gan Gadeirydd y
Cyngor, Y Cynghorydd Annwen Hughes
“Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn caniatáu i aelodau gyflwyno rhybuddion o
gynnig yn ddarostyngedig eu bod ynglŷn â materion mae’r Cyngor yn gyfrifol
amdanynt neu sydd yn effeithio ar les ardal weinyddol y Cyngor.
Mabwysiadwyd proses ffurfiol gan y Cyngor yn ei gyfarfod yn Rhagfyr 2017
er sicrhau priodoldeb rhybuddion o gynnig.
Yn ôl y drefn, os yw’r Swyddog Monitro o’r farn nad yw cynnig yn unol
â’r Cyfansoddiad neu yn amhriodol am resymau eraill, bydd yn cyfeirio’r cynnig
gyda’i farn i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr i benderfynu ar ei gynnwys ai
pheidio.
Mae gwrthod derbyn rhybudd o gynnig yn ddigwyddiad hynod anarferol ac yn
sicr nid yn ddigwyddiad “tro ar ôl tro”.
Fel y gellir tybio rhoddir ystyriaeth ofalus i gymryd y cam yma. Ar y llaw arall ni ellir diystyru'r ffaith y
gall fod arwyddocâd cyfreithiol i benderfyniadau’r Cyngor a bod angen cyd-fynd
â’r Cyfansoddiad. Dyma pam mae’r drefn
mewn lle. Rhoddir esboniad ysgrifenedig o’r
penderfyniad a’r rhesymeg i’r aelod a gyflwynodd y rhybudd.
Rhaid i bob cynnig gael ei gyflwyno o fewn y rhiniog amser o 10 diwrnod
clir cyn y cyfarfod. Os derbynnir cais
tu allan i’r ffin yma fe hysbysir yr aelod a bydd yn cael ei ystyried ar gyfer
rhaglen y Cyngor nesaf. Hyd y deellir,
nid oes unrhyw rybudd o gynnig wedi mynd ar wasgar yn y modd yr awgrymir. Derbyniwyd rhybudd yn rhy hwyr ar gyfer
cyfarfod mis Gorffennaf. Ar ystyriaeth
bellach daethpwyd i’r casgliad nad oedd yn cyrraedd gofynion y Cyfansoddiad a
hysbyswyd yr aelod ym mis Awst.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Owain Williams
“I ble’r aeth y rhybudd o gynnig os yw’r Swyddog Monitro yn honni nad
aeth ar goll?”
Ateb gan Gadeirydd y
Cyngor, Y Cynghorydd Annwen Hughes
“Mi wnawn ymchwilio i hyn a dod yn ôl atoch.”
(3) Cwestiwn gan y Cynghorydd Dewi Owen
“A yw Arweinydd y Cyngor yn bwriadu ysgrifennu at Lesley Griffiths,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn gwrthwynebu
unrhyw gynigion i newid polisïau amaethyddol a chefn gwlad sydd ar hyn o bryd
yn bodoli o dan y Polisi Amaeth Cyffredinol heb eu hasesu yn gynhwysfawr a
manwl o ran yr effaith bosibl i swyddi a’r economi yn Sir Gwynedd a’u treialu
ar ffermydd gwirfoddol?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Mae’r cwestiwn
hwn yn gyfle i mi egluro i holl aelodau’r Cyngor beth yw ein bwriadau ni ar y
papur ymgynghorol yma sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol sylweddol iawn, nid yn
unig i’r diwydiant amaeth, ond i’r economi gwledig yn gyfan gwbl. Rydw i wedi arwain trafodaeth gyda’r
swyddogion ac yn bwriadu ymateb i’r papur yma.
Rydw i wedi cael trafodaethau gyda’r ddwy undeb ac wedi cael rhagor o
drafodaethau wedyn gyda’r swyddogion wrth baratoi’r ymateb. Rydym hefyd wedi trafod y mater yn y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn a bydd ymateb yn mynd o’r Bwrdd hwnnw
hefyd.
Fel sy’n arferol
yn y Llywodraeth leiaf effeithiol a welwyd erioed, sef Llywodraeth Cymru, mae’n
amlwg nad yw’r Gweinidog wedi trafod goblygiadau Cenedlaethau’r Dyfodol o gwbl
na chwaith wedi trafod beth ydi goblygiadau hwn gyda’i chyd-weinidog ar yr
economi. Mae’n ymddangos i mi fod hwn yn
rhywbeth sy’n digwydd, mae silos Llywodraeth Cymru i’w gweld yn glir yma. Mae’n dystiolaeth o ddiffyg diddordeb a
diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar faterion cefn gwlad ac mae hynny wedi
amlygu ei hun sawl gwaith yn y trafodaethau rydw i wedi gael dros y
blynyddoedd.
Bydd y mater yn
cael ei drafod yn Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod
wythnos olaf Hydref a bydd ymateb yn mynd ar ran holl gynghorau gwledig Cymru
o’r fforwm hwnnw hefyd. Felly gallaf
eich sicrhau y bydd yna ymatebion cryf yn mynd ymlaen.
Nid oes yna unrhyw
fath o waith wedi digwydd i fodelu effaith hwn ar gefn gwlad, a heb ystyried yr
effeithiau hynny, mae’n rhaid i ni ymateb mor gadarn ag y gallwn. Mi fuaswn bron â dweud wrth weinidogion
Llafur bod posibilrwydd effaith hwn cynddrwg â’r hyn ddigwyddodd i gymoedd
pyllau glo'r De ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae mor bellgyrhaeddol â hynny yn fy marn ac os nad ydynt yn cymryd y
sylw yna o ddifri’, fe ddylid eu dal i gyfri’ am eu difrawder o gefn gwlad
Cymru. Felly mae yna gyfrifoldeb arnom,
ac rydw i’n teimlo’n gryf iawn, nid oherwydd mod i’n derbyn arian pitw bach - y
ffermwr drama fel yr ydwyf, ond oherwydd y sgil effeithiau i strwythur y
diwydiant amaeth, ac o ganlyniad i hynny, holl wead cymdeithas wledig, gan
gynnwys yr economi ac yn gymdeithasol, a’r Gymraeg, wrth gwrs.
Felly, mae’n un
o’r papurau pwysicaf y dylem roi ystyriaeth iddo. Rydw i’n ymwybodol o’r peryglon, ac os gwelaf
Lesley Griffiths yn rhywle, fe ddywedaf yn blaen wrthi be rydw i’n feddwl o’r
papur yma fel ag y mae. Beth sydd gennym
yma, wrth gwrs, ydi trosglwyddo polisi amaeth Ewrop i Gaerdydd yn llwyr. Ni sy’n gyfrifol am bolisi amaeth a pholisïau
gwledig Cymru rwan. Efallai y byddwn yn
dal i barhau yn Ewrop os cawn refferendwm arall, ond ni awn ar ôl y sgwarnog
hwnnw! Mae yna gyfle i Lywodraeth Cymru
gydio ac edrych yn fanwl ar bolisïau gwledig a pholisïau amaethyddol hefyd a
dweud dyma ein cynlluniau ar gyfer amaeth.
Rydym yn credu bod cynhyrchu bwyd yn bwysig. Mae’r amgylchedd yn bwysig ond rhaid i ni
gael cynhyrchwyr ar y tir i warchod yr amgylchedd hwnnw, ond nid yw Llywodraeth
Cymru yn gallu gwneud dim heblaw cynnig rhywbeth sydd heb lawer o feddwl y tu ôl
iddo mae gen i ofn. Felly, rwy’n eich
sicrhau bod yna ymateb cryf am fynd o’r Cyngor yma ac o unrhyw sefydliad arall
y byddaf i yn rhan ohono.”