Agenda item

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-

·         gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2017-18; ac

·         ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2018-19.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2017/18:-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

1

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm  Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cynhaliwyd cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed CLllC.

 

Adolygu Protocolau Rhoddion a Lletygarwch a Chyswllt Aelodau Swyddogion.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Nifer y cwynion a dderbynnir yn isel.

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

1

Cefnogi rhaglen anwytho ar gyfer y Cyngor newydd.

 

Swyddog Monitro a’i dim yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i aelodau.

 

Drws y Cyngor bob amser yn agored i’r aelodau.

 

Ystyried adborth Hyfforddiant a rhaglen hyfforddi newydd

 

Aelodau’r Pwyllgor Safonau i fynychu’r sesiynau hyfforddiant ar y Cod.

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

1

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru

 

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir

 

Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Parhau i fonitro ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Ystyried y diwygiadau i’r Cod ymddygiad a sut i rannu’r newid.

 

Cynnwys buddiannau aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau ar wefan y Cyngor gan hefyd ystyried dulliau eraill o godi proffil y Pwyllgor Safonau ar y wefan.

 

Gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried dulliau o godi proffil y Pwyllgor Safonau ar y Porth Aelodau. 

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud a’r Cod Ymddygiad

 

1

Cynhaliwyd cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Rhaglen Hyfforddiant newydd a chynnwys hyn fel eitem ar raglen waith 2018/19

 

Rhoi goddefebau i aelodau

 

1

Ymdriniwyd â cheisiadau am oddefebau gan weithredu ar sail wrthrychol a phriodol.

 

 

Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

1

Ni chyfyd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn

 

Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

1

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath

 

 

Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

3

Swyddog Monitro a’i dim  yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod Ymddygiad.

.

Hyrwyddo trefn datrys leol Unllais Cymru I Gynghorau Cymuned

 

Rhaglen Hyfforddiant newydd.

 

Cydnabyddir bod mwy o waith cenhadu i’w wneud gan fod cynghorau cymuned a thref yn dal i gynhyrchu cwynion i’r Ombwdson, er bod y rhiniog ar gyfer ymchwilio i gwynion wedi codi.  Mae angen lledaenu’r neges mewn ymgais i newid y diwylliant fel bod modd i fwy o gwynion gael eu datrys yn lleol.

 

Rhoi’r peilot ar waith gan amserlennu beth sy’n mynd i gael ei wneud pryd, a sut.

 

Hefyd, fel rhan o’r hyfforddiant, edrych oes modd i glercod cynghorau cymuned a thref gynnig hyfforddiant i’r naill a’r llall ar sail anffurfiol.

 

 

(b)     Cymeradwyo’r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2018/19:-

 

9 Gorffennaf, 2018

 

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn Aelodau

Cwblhau Adolygiad Protocol Aelodau / Swyddogion

Cymeradwyo Canllawiau Cod

 

1 Hydref, 2018

 

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn Aelodau

Trefn Goddefebau

Codi Proffil y Pwyllgor Safonau ar Wefan y Cyngor

 

21 Ionawr, 2019

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu

Honiadau yn erbyn Aelodau

 

18 Mawrth, 2019

Hunan Arfarniad a Rhaglen Waith

Honiadau yn erbyn Aelodau

Adolygiad Hyfforddiant

 

(c)     Gofyn i’r Gwasanaeth Democratiaeth raglennu calendr dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn y fath fodd fel y caniateir amser digonol rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a’r Cyngor llawn i gyfeirio materion, megis yr Adroddiad Blynyddol, i’r Cyngor nesaf, yn hytrach na gorfod disgwyl am gylch pwyllgorau arall.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Monitro a’r Uwch Gyfreithiwr am eu gwaith yn y maes hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad.

 

Dogfennau ategol: