I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd darpar gyflogwr yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd mai gweithio gyda sgaffald oedd ei
waith ers dros ugain mlynedd ond bellach angen gwaith llai llafurus. Amlygodd
bod yr ymgeisydd heb gael diwrnod o salwch o’i waith, yn ddyn gonest ac y
byddai o fantais i’w gwmni petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu oherwydd ei
barodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol. Ategodd bod yr ymgeisydd wedi
derbyn prawf meddygol a phrawf llygad. Gofynnodd i’r panel ystyried y cais yn
ffafriol er y collfarnau hanesyddol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweithredu profion cyffuriau ar hap ar
yrwyr ei gwmni (yn dilyn digwyddiad diweddar), amlygodd nad oedd y teclyn
ganddo i wneud y profion ac felly yn ceisio cyflogi yn gall ac yn ymddiried yn
ei yrwyr i fod yn onest.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr o’r ystafell tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau
Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen
gais yr ymgeisydd
• sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad
• adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn
datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ieuenctid
Caernarfon (Gorffennaf 1975) ar 4 cyhuddiad o fwgleriaeth, yn groes i Ddeddf
Lladrad 1968. Cafodd orchymyn arolygu o ddwy flynedd a gorchymyn i dalu iawndal.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Rhagfyr 1984) ar
gyhuddiad o fwgleriaeth, eto yn groes i Ddeddf Lladrad 1968 lle cafodd ddedfryd
i wasanaeth yn y gymuned a gorchymyn i dalu iawndal o £150.00. Derbyniodd
gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Chwefror 1985) ar 2 gyhuddiad o ddwyn yn
groes i Ddeddf Lladrad 1968 gyda dirwy o £50 a gorchymyn i dalu iawndal.
Derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon
(Gorffennaf 1985) ar 2 gyhuddiad yn ymwneud a chyffur dosbarth B canabis
yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 lle cafodd ddirwyo o £180 a
gorchymyn fforffedu a dinistrio. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon
(Ionawr 1986) ar 2 gyhuddiad o
ddefnyddio trydan yn anonest yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 ac un cyhuddiad o ddifrod
troseddol yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £25, talu
iawndal a dilyn gorchymyn mechnïaeth am flwyddyn.
Amlygwyd bod yr
ymgeisydd wedi derbyn 3 pwynt cosb am oryrru (Tachwedd 2017).
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded.
Amlygwyd bod paragraff 4.5 o Bolisi’r Cyngor yn
nodi bod Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu i’r Is-bwyllgor ystyried yr holl gollfarnau a gofnodwyd boed y
rheiny wedi darfod o dan Ddeddf 1974 ai peidio.
Ystyriwyd
paragraff 8.2 lle nodi’r bydd cais yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd
gollfarn(au) o'r 3 blynedd diwethaf am drosedd o anonestrwydd (sydd yn cynnwys
ceisio eiddo drwy dwyll). Ystyriwyd paragraff 9.2 a 9.3 lle nodi’r bydd cais
fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn yn erbyn yr ymgeisydd yn
ymwneud a chyffuriau ac nad yw yn rhydd o gollfarn(au) am oleiaf 5 mlynedd.
Derbyniwyd bod collfarn Gorffennaf 1985 yn cynnwys trosedd yn ymwneud a
chyffuriau, fodd bynnag ers i'r gollfarn ddigwydd 32 mlynedd yn ôl (dros 5
blynedd yn ôl), roedd yr Is-bwyllgor o'r farn nad oedd y drosedd yn sail i wrthod.
Ystyriwyd
paragraff 13.2 lle nodi’r pan fydd gan ymgeisydd un gollfarn am fân drosedd
gyrru ni fyddai hyn fel arfer yn arwain at wrthod cais neu atal trwydded.
Ystyriwyd
paragraff 16.1 lle nodi’r bydd cais yn cael ei wrthod os bydd hanes o ail
droseddu. Er bod tystiolaeth o ail droseddu (sydd yn dangos diffyg parch at les
eraill neu at eiddo); yn yr achos yma, troseddau o anonestrwydd (1975 - 1986) ,
roedd yr Is-bwyllgor o’r farn nad oedd yn sail i wrthod y drwydded oherwydd
roeddynt yn gollfarnau hanesyddol iawn (dros 10 mlwydd oed).
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.