Cyflwynwyd gan:Cyng. Peredur Jenkins
Penderfyniad:
1.1 Ystyried a nodi sefyllfa
ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18.
1.2
Cymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant
Addasedig”
o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
100 |
Addysg |
0 |
Economi a Chymuned |
(35) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
100 |
Amylchedd (Rheoleiddio gynt) |
(100) |
Ymhynghoriaeth Gwynedd |
(82) |
Tim Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(66) |
Cyllid |
(66) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(67) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u
egluro
yn Atodiad 2) –
1.4
Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel
a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, sef:
·
Neilltuo £166k ar gyfer materion gwastraff
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
1.1
Ystyried a nodi sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18.
1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w
cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant
Addasedig” o’r talfyriad yn
Atodiad 1), sef –
ADRAN |
£’000 |
Oedolion,
Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a
Theuluoedd |
100 |
Addysg |
0 |
Economi a
Chymuned |
(35) |
Priffyrdd a
Bwrdeistrefol |
100 |
Amylchedd
(Rheoleiddio gynt) |
(100) |
Ymhynghoriaeth
Gwynedd |
(82) |
Tim Rheoli
Corfforaethol a Chyfreithiol |
(66) |
Cyllid |
(66) |
Cefnogaeth
Gorfforaethol |
(67) |
1.3 Cymeradwyo’r
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn
Atodiad 2) –
1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn
dilyn adolygiad o’r cronfeydd, sef:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen i’r Cabinet i gymeradwyo’r
sefyllfa ariannol derfynol 2017/18 er mwyn ir Adran Gyllid symud ymlaen i gynhyrchu,
ardystio a chyhoeddi’r datganiadau ariannol statudol cyn 30 Mehefin.
Ymhelaethwyd gan nodi fod sefyllfa ariannol mwyafrif o’r adrannau yn tanwario
am 2017/18. Ychwanegwyd fod gwelliant sylweddol i sefyllfa ariannol yr Adran
Oedolion yn ystod y chwarter olaf yn dilyn derbyniad grant gan Lywodraeth Cymru
yn hwyr yn y flwyddyn.
Nodwyd fod gorwariant ar wasanaethau penodol yn yr Adran Plant a Cefnogi
Teuluoedd, Adran Addysg a Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Ychwanegwyd yn y
mwyafrif o’r cyllidebau lle bu gorwariant yn 2017/18, mae ystyriaeth briodol
i’r anghenion a chyfleon perthnasol yng nghylch cyllidebau 2018/19 ac o
ganlyniad mae mwyafrif o’r materion hyn eisoes wedi’u cyfarch yn y strategaeth
ariannol ar gyfer 2018/19.
Ychwanegwyd fod tanwariant un tro yn nifer o benawdau y gyllideb
gorfforaethol ddiwygiedig am 2017/18, a nodwyd y bydd y tanwariant net yma ar
gael i liniaru gorwariant adrannau, gyda cyfraniad o £66k pellach, i’w rhyddhau
o’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
-
O ran
yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol nodwyd y rhesymau dros yr or wariant gan
nodi fod trefniadau yn ei lle i edrych ymhellach ar y problemau oedd yn codi.
-
Wrth
edrych ar gludiant integredig, nodwyd fod cymorth ariannol wedi ei dderbyn gan
Lywodraeth Cymru yn dilyn ail-dendro teithiau bysus, ond ychwanegwyd fod
problemau yn parhau ac o ganlyniad fod y tanwariant yn cael ei ddefnyddio i
gwrdd a’r costau cysylltiedig yn 2018/19.
-
Mynegwyd
fod gwaith yn mynd rhagddi wrth edrych ar gludiant o fewn yr Adran Addysg.
Awdur:Dafydd L Edwards
Dogfennau ategol: