Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

-        Gymeradwyo’r Strategaeth Adfywio Rhanbarthol ddrafft er mwyn ei chyflwyno I Lywodraeth Cymru

-        Gofyn fod ymrwymiad o fewn y Strategaeth ddrafft bod gwaith adnabod ac ymateb I faterion sy’n ymwneud ag amddifadedd gweledig yn derbyn sylw yn ystod 2018/19

-        Fod gwaith pellach yn cael ei wneud er mwyn ystyried cyfleoedd posib or Rhaglen TRI gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach I’r Cabinet yn amlinellu cynigion arfaethedig.

-        Ofyn i swyddogion  adolygu’r strwythur llywodraethu  er sicrhau bod ei fod  yn fwy clir ac eglur

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

-        Gymeradwyo’r Strategaeth Adfywio Rhanbarthol ddrafft er mwyn ei chyflwyno I Lywodraeth Cymru

-        Gofyn fod ymrwymiad o fewn y Strategaeth ddrafft bod gwaith adnabod ac ymateb I faterion sy’n ymwneud ag amddifadedd gweledig yn derbyn sylw yn ystod 2018/19

-        Fod gwaith pellach yn cael ei wneud er mwyn ystyried cyfleoedd posib or Rhaglen TRI gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach I’r Cabinet yn amlinellu cynigion arfaethedig.

-        Ofyn i swyddogion  adolygu’r strwythur llywodraethu  er sicrhau bod ei fod  yn fwy clir ac eglur

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi gan fod yr eitem yn un rhanbarthol ac y bydd angen ei drafod ym mhob un o’r Cynghorau ar hyd Gogledd Cymru. Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r angen am Gynllun Adfywio Rhanbarthol, ac y bydd angen cyflwyno a chymeradwyo’r Cynllun cyn y byddai’r Llywodraeth yn derbyn ceisiadau am fuddsoddiad. Nodwyd mai nod y rhaglen yw i gefnogi prosiectau sydd yn hyrwyddo adfywiad economaidd, ac y bydd y rhaglen yn gallu ystyried cyfraniad buddsoddiad cyfalaf o hyd ar 70%.

 

Ymhelaethwyd ar flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod ar gyfer y Strategaeth Adfywio gan nodi er mwyn adnabod ardaloedd o angen fod y Strategaeth ddrafft yn cyfeirio’n bennaf ar ddata Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru. Pwysleisiwyd fod y strategaeth yn argymell y blaenoriaethau prosiectau adfywio canol tref y 4 anheddle sef Rhyl, Wrecsam, Bangor a Bae Colwyn.

 

Ychwanegwyd fel rhan o’r gwaith paratoi ym Mangor fod Partneriaeth Dinas Bangor wedi ei sefydlu, ac mae gwaith pellach wedi ei wneud i baratoi strategaeth adfywio ar gyfer y ddinas sy’n seiliedig ar dair prif thema. Nodwyd fod angen gwaith rhagbaratoi  pellach ar gyfer datblygu cynigion amlinellol yn prosiectau manwl, ac ychwanegwyd fod y rhaglen waith yn cael ei adolygu gan y Bartneriaeth.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Holwyd gyda dyraniad ariannol sydd wedi yn rannu yn dri rhan, a fydd modd i arian gael ei rannu ar draws y sir ar gyfer ail neu’r trydydd rhan, nodwyd y bydd modd datblygu prosiectau tu hwnt i’r lleoliadau sydd wedi ei nodi fel blaenoriaethau.

-        Trafodwyd y Cronfa Datblygu Prosiect ar gyfer pob rhanbarth, a fydd yn darparu cyfraniad 50% ar gyfer costau prosiectau’n gynnar, holwyd os mai y Cyngor fydd angen dod o hyd i’r 50% arall. Ymatebwyd gan nodi nad yw’r arian yn gorfod dod gan y Cyngor, yn dibynnol ar y prosiect bydd modd gofyn i sefydliad arall sydd yn rhan o’r bartneriaeth i gyfrannu’r 50%.

-        Tanlinellwyd y ffaith y byddai angen darganfod 30% o gost unrhyw gynllun ac felly pe byddai hynny yn disgyn ar y Cyngor byddai’n rhaid iddo gystadlu yn erbyn cynlluniau eraill yn y Cynllun Asedau.

-        Nodwyd fod y strwythur yn y strategaeth i’r gweld yn un cymhleth, mynegwyd fod gwaith pellach i’w wneud ac y bydd elfen o atebolrwydd i’w gweld ar bob cyngor. Nodwyd fod angen i’r Strwythur fod yn fwy clir.

-        Nodwyd y bwriad i gyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet, fydd yn nodi cynigion penodol a’r pecyn ariannol, er mwyn medru ystyried a yw’r Cyngor am roi unrhyw arian cyfatebol i’r cynlluniau hynny.

 

Awdur:Llyr B Jones

Dogfennau ategol: