Agenda item

Cofnod:

Cyflwynwyd fersiwn ddrafft o’r Strategaeth Iaith, ‘Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023’, gan y Rheolwr Gwasanaethau'r Iaith Gymraeg. Nodwyd bod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar y strategaeth wedi cychwyn ac y byddai’n dod i ben ar y 5ed o Fehefin 2018. Dywedwyd y  bydd croeso i unrhyw unigolyn neu sefydliadau gynnig unrhyw sylwadau, gwelliannau neu awgrymiadau er mwyn eu hystyried. Bydd y strategaeth derfynol yn mynd ger bron y Cabinet a’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2018, ynghyd â chynllun gweithredu a fydd yn cael ei lunio yn yr haf.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i nifer o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:

§  Gwallau iaith a cham dreiglo yn y strategaeth.

§  Camau gweithredol yn esbonio beth sy’n mynd i ddigwydd, pwy sy’n gyfrifol, a sut mae mesur cynnydd ddim wedi eu cynnwys yn y  strategaeth. 

§  Penderfyniadau’r Cyngor sy’n gwrthweithio yn erbyn nifer o’r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn strategaeth e.e. cau'r clybiau ieuenctid sy’n hybu’r defnydd o Gymraeg ymhlith phobl ifanc.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy gynnwys y cwestiynau ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Iaith. Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:

Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a’r heriau

§  Y ‘Seisnigrwydd slei’ sy’n deillio o'r dechnoleg/teclynnau electronig sy’n cael eu defnyddio mewn ysgolion - oes modd mynd i’r afael a hyn? 

§  Cyngor Gwynedd yw un o'r unig sefydliadau yng Nghymru sy’n flaengar i gyfieithu ‘apps’, darparu technoleg yn y Gymraeg, a darparu cyfarfodydd sy’n ddwyieithog – pam nad yw’r llywodraeth yn cyfrannu arian er mwyn cefnogi’r gwaith arbennig yma?

§  A yw’n deg annog pobl ifanc ‘i fod yn arweinwyr cymunedol ac i drefnu gweithgareddau yn eu cymunedau’ pan mae’r Cyngor yn tynnu’r cyfleusterau a'r arian i wneud hyn oddi wrthynt?

 

Blaenoriaeth 1: Iaith y Cartref

§  Trosglwyddiad ieithyddol yn wan ymhlith teuluoedd rhieni sengl - ydi’n bosib cael strategaeth benodol i fynd i’r afael a’r mater yma?

§  Trosglwyddiad ieithyddol yn wan mewn teuluoedd ble mae’r tad yn unig sy’n siarad Cymraeg. Mae angen cryfhau’r neges bod tadau gyda rôl bwysig i sicrhau bod eu plant yn tyfu fyny yn ddwyieithog.

§  Awgrym i sefydlu canolfannau trochi newydd mewn ardaloedd gyda chanran uchel o blant sy’n hwyr yn dysgu’r Gymraeg.

§  Oes modd clymu gweledigaeth yr iaith gartref gyda nod y Siarter Iaith?

 

Blaenoriaeth 2: Iaith Dysgu

§  Angen darparu neges glir i ddisgyblion ysgolion uwchradd bod y Gymraeg yn gymhwyster yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat ac yn arwain at lawer mwy o gyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

 

Blaenoriaeth 3: Iaith Gwaith a Gwasanaeth

§  Mae’r gweithle yn le pwerus i hybu’r defnydd o Gymraeg – mae’n bwysig ehangu’r gweithleoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn llwyr.

§  Oes modd dylanwadu ar fanciau ac archfarchnadoedd a chwmnïau ynni mawrion i wneud mwy o ddewis iaith.

§  Mae’n bwysig sicrhau bod y peiriannau hyn yn defnyddio Cymraeg hawdd sy’n cael ei ddefnyddio pob dydd. Yn aml, mae’r cyfieithiad yn rhy drwsgl a chymhleth sydd yn anodd deall,  ac mae hyn yn troi pobl yn erbyn yr iaith. 

 

Blaenoriaeth 4: Iaith y Gymuned

§  Pwy sy’n gyfrifol am drefnu gweithgareddau cymdeithasol? Nodwyd ei bod yn mynd yn anodd cynnal momentwm pwyllgorau gwirfoddol.

§  Wrth i’r Cymry Cymreig a siaradwyr di-gymraeg ddod at ei gilydd mewn gweithgareddau cymdeithasol mae peryg i iaith y gweithgaredd droi i’r Saesneg. Oes modd rhoi cymorth/cyfarwyddiadau syml i bobl yn y sefyllfaoedd hynny i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio heb gau allan y bobl ddi-gymraeg? Dylid hefyd ystyried canllawiau ar gyfer siarad gyda dysgwyr er mwyn eu cefnogi.

§  Angen edrych ar opsiynau ar gyfer gallu cynorthwyo busnesau gyda chostau arwyddion dwyieithog, yn debyg i’r grantiau arferai fod ar gael gan Fwrdd yr Iaith.

§  Angen cynnal mwy o sesiynau hyfforddiant ‘sut i hybu’r Gymraeg yn y gymuned’ ar gyfer cynghorwyr.

 

 

 

Blaenoriaeth 5: Ymchwil a Thechnoleg – Gosod y Seiliau Cywir

§  Pwysigrwydd rhoi mynediad i dechnoleg Cymraeg i blant mewn ysgolion cynradd – os ydynt yn arfer i ddefnyddio technoleg Cymraeg o oedran cynnar maent yn fwy tebygol o ddefnyddio technoleg Cymraeg yn ei bywydau pob dydd wedi iddynt adael ysgol.

 

PENDERFYNWYD: Nodi cynnwys y strategaeth a'r cwestiynau ymgynghoriad.

 

Dogfennau ategol: