Agenda item

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn cynnwys:

 

 Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol

 Y broses hyd yma

 Camau nesaf ac amserlen

 

ATODIAD 1 - CYNNAL A CHREU CYMUNEDAU NODEDIG A CHYNALIADWY

 

Nodwyd bod y broses o baratoi’r Canllaw yma o bersbectif Cyngor Gwynedd yn destun Ymchwiliad Craffu sy’n cael ei arwain gan Weithgor Craffu. Cyflwynodd y Gweithgor Craffu ei argymhellion i Bwyllgor Craffu Cymunedau. ‘Roedd ei adroddiad yn cynnwys yr argymhellion, ymateb Panel Cynllun Datblygu Lleol (cyfarfod 26 Mawrth 2018), ei ymateb i sylwadau’r Panel, a chwestiynau a sylwadau pellach – gweler tabl 3 yn Atodiad 4 i’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Nodwyd bod Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi cymeradwyo argymhellion y Gweithgor. Gwahoddwyd Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau i gyflwyno’r argymhellion hynny a’r rhesymau amdanynt i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Materion a godwyd:

 

Nodwyd byddai derbyn argymhellion 1 ac 1A yn creu polisi newydd ac na fyddai’r drefn yn cyd-fynd â rheoliadau sy’n gosod trothwyon statudol ar gyfer ymgynghori cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio. Eglurwyd byddai diwygio’r Canllaw yn unol ag argymhellion 1 a 1A yn golygu risg sylweddol byddai gweithredu yn unol â’r Canllaw yn destun her mewn llys, a risg na fyddai Polisi PS 1 yn derbyn pwysau priodol mewn achos apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod cais cynllunio yn seiliedig arno a’r Canllaw. Pe fyddai defnydd o’r Canllaw yn destun her mewn llys byddai’r Cynghorau yn colli’r hawl i’w ddefnyddio, gyda risg sylweddol o gael penderfyniad i ddiddymu’r Canllaw oherwydd ei fod yn mynd tu hwnt i’w gylch gwaith.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diwygio Polisi PS 1, eglurwyd bod Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol yn eu lle sy’n gosod trefn statudol i wneud hynny. Mae hynny yn golygu dilyn y drefn monitro flynyddol, gwerthuso’r dystiolaeth ddaw o’r gwaith monitro, wedyn penderfynu os oes sail i ddechrau’r broses diwygio’r strategaeth a/ neu bolisïau yn y Cynllun. Pan benderfynir bod sail i wneud diwygiadau, byddai angen mynd trwy drefn statudol - creu fersiwn drafft, ymgynghoriad cyhoeddus, archwiliad cyhoeddus ac yna mabwysiadu’r cynllun diwygiedig.

 

Cynigwyd bod llythyr yn cael ei yrru i Lywodraeth Cymru i holi ynglŷn â’r drefn diwygio polisïau mewn cynllun a’r gallu neu beidio i newid y trothwy ar gyfer gofyn am ymgynghoriad cyhoeddus statudol cyn cyflwyno cais cynllunio.

 

Nodwyd yr angen i sicrhau bod cynnwys y Canllaw ddigon cadarn i’w gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Awgrymwyd gallai’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i swyddogion gomisiynu gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw gan ymgynghorydd cymwys amlddisgyblaeth. Awgrymwyd sgôp i’r gwaith, sef:

 

 Crynhoi a gwerthuso’r cyngor a’r arweiniad a roddir yn Adran 2 ynglŷn â chymhwyso Polisi PS 1 y Cynllun yn ystod y camau cyn ac ar ôl cyflwyno cais cynllunio.

 Dadansoddi’r Canllaw mewn dull cytbwys a nodi ei gryfderau a gwendidau. Nid pwrpas gwerthusiad beirniadol fydd amlygu agweddau negyddol yn unig.

 

 

 Edrych ar y Canllaw a gwerthuso ei lwyddiant, yng ngoleuni ei ddiben.

 Awgrymu mathau o gwestiynau ddylai’r ymgynghorydd ofyn i’w hun wrth ymgymryd â’r gwaith, e.e. beth ydi amcan y Canllaw? Ydi’r amcan wedi cael ei gyflawni? Mae’r Canllaw yn cyfeirio’r ymgeisydd a’r person cymwys a fydd yn ei gynghori i ffynonellau gwybodaeth – a oes yna ffynonellau eraill? Beth ydi strwythur Adran 2 o’r Canllaw? A yw'n effeithiol? Ydi’r fethodoleg sydd yn Atodiad 7 ac yn Atodiad 8 yn effeithiol?

 Argymell newidiadau pan fydd angen hynny.

 

Cytunwyd byddai comisiynu’r gwaith yn ffordd synhwyrol i symud ymlaen.

 

Penderfyniad:

i. Awdurdodi Uwch Swyddogion perthnasol ar ran Gwasanaethau Cynllunio’r ddau Awdurdod i ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i holi am hawliau i newid polisi mewn cynllun datblygu lleol a hawliau i newid y trothwy i osod gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer 5 tŷ mewn pentrefi a chefn gwlad yn lle 10 tŷ;

ii. Awdurdodi Uwch Swyddogion perthnasol ar ran Gwasanaethau Cynllunio’r ddau Awdurdod i gomisiynu arbenigwyr allanol cymwys i ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw Cynllunio Atodol: cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy, ac yn benodol Adran 2 o’r Canllaw hwnnw.

 

ATODIAD 2 – CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYMYSGEDD TAI

Cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 22 Mawrth 2018.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

 

ATODIAD 3 - CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID

 

Cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 22 Mawrth 2018.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

Dogfennau ategol: