Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio. Ar sail gwaith Archwilio
Mewnol a gwblhawyd yn ystod 2017/18, roedd y swyddog yn fodlon bod gan
Gyngor Gwynedd fframwaith
cadarn o reolaeth fewnol.
Adroddwyd bod yr holl archwiliadau a oedd yng nghynllun
archwilio addasedig terfynol archwilio mewnol (58 archwiliad), wedi eu cwblhau
erbyn 31 Mawrth 2018, sef 100% o’r cynllun,
yn erbyn uchelgais perfformiad o 95% ar gyfer 2017/18.
Nodwyd bod gweithrediad derbyniol ar 200 allan o 222 o’r gweithrediadau cytunedig erbyn 31 Mawrth 2018, sef 90.09% o’r gweithrediadau yn erbyn uchelgais perfformiad o 85%.
Cyfeiriwyd at Atodiad 4 i’r adroddiad a oedd yn nodi
cynnydd yn erbyn Rhaglen Sicrwydd
Ansawdd a Gwelliant o ran cydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS). Nodwyd bod asesiad allanol o Wasanaeth Archwilio Mewnol Cyngor Gwynedd i’w gynnal gan
brif weithredwr archwilio Cyngor Sir Gaerfyrddin a chyflwynir canlyniadau’r asesiad allanol i’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i ymholiad gan
aelod yng nghyswllt defnyddio lliwiau goleuadau traffig o ran perfformiad i ddangos y gwelliant
yn yr adroddiad
blynyddol, nododd y Rheolwr Archwilio bod y mesurau perfformiad yn rhai corfforaethol
ac nid oeddent yn adlewyrchiad o waith Archwilio Mewnol. Eglurodd bod perfformiad o ran mesur perfformiad ‘Canran archwiliadau’r cynllun archwilio sydd yn barod i’w
cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am eu bod un ai
gydag adroddiad terfynol wedi ei
ryddhau, neu wedi eu gau’
yn gyson efo’r uchelgais o 95%.
Mewn ymateb i sylw gan
aelod parthed dadansoddiad amser Archwilio Mewnol yn ystod 2017/18, eglurodd yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg y nodir yn
y dadansoddiad yr holl ddyddiau ar
gael i Archwilio
Mewnol gyda 7 aelod o staff llawn amser gan dynnu
amser di-gynnyrch megis gwyliau a thrafferthion technoleg gwybodaeth, gan nodi cyfanswm y dyddiau cynhyrchiol oedd ar gael
i Archwilio Mewnol yn ystod
2017/18.
Holodd aelod o ran sefyllfa staffio Archwilio Mewnol. Mewn ymateb, cadarnhaodd
y Rheolwr Archwilio bod capasiti staffio Archwilio Mewnol yn llawn. Eglurodd
mai un rheswm
bod dyddiau cynhyrchiol yr uned yn
is oedd oherwydd bod 3 swyddog yn dilyn
cwrs proffesiynol. Nododd bod yr hyfforddiant
yn bwysig a byddai o fudd i’r
uned o ran cyflawni’r gwaith. Hysbysodd y Pwyllgor bod un swyddog wedi
ei henwebu fel prentis y flwyddyn
a oedd yn galonogol i’r Gwasanaeth
Archwilio Mewnol, yr Adran Gyllid
a’r Cyngor.
Nododd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch
i’r Rheolwr Archwilio am yr adroddiad, gan ategu ei safbwynt
bod hyfforddi staff yn bwysig. Ychwanegodd, gan fod y 3 swyddog
yn hyfforddi ar yr un
pryd, byddai’r Adran yn edrych
i mewn i
ychwanegu swyddog dros dro at staff y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Nododd y Cadeirydd diolchiadau’r Pwyllgor i’r Rheolwr Archwilio am ei gwaith a anfonwyd
dymuniadau gorau aelodau’r Pwyllgor i’w thad, y Cynghorydd Eric M Jones, yn
dilyn ei anhwylder diweddar.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel adroddiad blynyddol ffurfiol y Pennaeth Archwilio Mewnol yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2017/18.
Dogfennau ategol: