Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet Addysg
(ynghlwm).
*11.40yb
– 12.25yp
*amcangyfrif o’r amseroedd
Cofnod:
Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn ceisio barn y pwyllgor craffu ar yr egwyddorion addysg arfaethedig
fydd yn sail ar gyfer gwireddu gweledigaeth yr Adran Addysg a datblygu’r
gyfundrefn er sicrhau addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gwynedd ar
gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad gyda’r Llywodraethwyr
a’r ysgolion, a gweledigaeth yr Adran Addysg, gofynnwyd yn benodol am farn
aelodau’r pwyllgor craffu ar yr egwyddorion canlynol, a ystyrir yn sail i
gyfundrefn addysg Gwynedd i’r dyfodol:-
·
Cyfundrefn
o ysgolion uwchradd hyfyw;
·
Dau
ystod oedran o fewn yr un dosbarth yn y cynradd;
·
Oddeutu
80% o amser digyswllt i’r Pennaeth i ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn
y cynradd.
Yn seiliedig ar yr wybodaeth oedd i law,
amlygwyd y sylwadau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-
·
Rhaid
bod yn glir ynglŷn â beth fydd effaith mabwysiadu’r egwyddorion hyn.
·
Mae’n
debygol y bydd yna dorri athro neu oriau athro mewn rhai ysgolion a bydd
hynny’n anodd iawn i bennaeth, yn enwedig os yw’n rheoli dwy neu dair ysgol.
·
Dechrau’r
daith yw hyn ac mae tipyn mwy o waith a chraffu i’w wneud.
·
Mae’r
diffyg ymgeiswyr ar gyfer swyddi drwy drwch yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn
destun pryder.
·
Mae’r
gyfundrefn yn rhy dameidiog i fod yn denu’r genhedlaeth nesaf o
arweinyddion. Er enghraifft, nid oes
cyfle i benaethiaid adrannau yn yr ysgolion uwchradd lleiaf eu maint feithrin
sgiliau i fod yn arweinwyr oherwydd, fel adrannau un person, nid oes ganddynt
yr amser i arwain yr adran na neb yn yr adran i’w rheoli. Hefyd, gan fod ysgolion cynradd yn aml yn rhy
fach i gael dirprwy bennaeth, nid oes cyfle yno chwaith i bobl ddatblygu
sgiliau arwain.
·
Mae’r
gofynion sylweddol uwch sy’n cael eu gosod ar bobl o ran addysgu ac arwain yn
golygu bod swyddi mewn ysgolion wedi mynd yn llawer llai atyniadol.
·
Gallai’r
cwestiynu yn yr holiadur fod wedi bod yn fwy treiddgar, e.e. yn hytrach na
gofyn yn unig am farn ar y datganiad “Mae’n
bwysig rhoi digon o amser i Benaethiaid reoli ac arwain ...”, dylid hefyd
bod wedi gofyn ydi’r ymatebwyr yn cytuno â’r datganiad er gwaethaf goblygiadau
hynny.
·
O
ran yr awgrym y dylai penaethiaid ysgolion uwchradd fod yng ngofal tua 900 o
ddisgyblion, y dymunir gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi hynny ar ffurf gwaith
ymchwil yn y wlad yma ac ar draws Ewrop i’r maint o ysgol sy’n gweithio orau ac
yn rhoi’r canlyniadau gorau i blant.
·
Er
y croesawir y bwriad i uno rhai ysgolion bychain i’w gwneud yn fwy hyfyw, nad
yw hynny’n ymarferol bosib’ yn y Wynedd sydd ohoni ac y byddai’r pennaeth yn
treulio cyfran helaeth o’i amser yn teithio rhwng y naill safle a’r llall.
·
Bod
polisi recriwtio’r colegau, sy’n mynnu bod rhaid i’r sawl sy’n dymuno dilyn
cwrs ymarfer dysgu feddu ar radd 2:1, yn golygu bod pobl ifanc yn mynd dros y
ffin i Loegr i hyfforddi fel athrawon a bod hynny, yn ei dro, yn arwain at
brinder athrawon yn lleol.
·
Bod
recriwtio athrawon ym Meirionnydd a Dwyfor yn arbennig o broblemus gan nad yw
athrawon arbenigol mewn gwahanol bynciau yn awyddus i ddysgu mewn ysgolion sy’n
methu cynnig profiad 6ed dosbarth iddynt.
·
Bod
Ysgol Uwchradd Tywyn, sydd â 280 o blant yn unig, wedi cael adroddiad penigamp
gan Estyn yn ddiweddar, felly pam ystyrir bod angen 900 o ddisgyblion i ysgol
fod yn hyfyw?
·
Mai’r
ffordd ymlaen o ran sicrhau dyfodol ysgolion gyda niferoedd llai o ddisgyblion
/ athrawon yw drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg, megis Skype, lle gall
plant mewn un ysgol ymuno â gwersi mewn ysgol arall lle mae athro yn arbenigo
yn y pwnc.
·
Na
ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau heb ymgynghori’n gyntaf gyda’r cymunedau sy’n
cael eu heffeithio a dylid rhagdybio bob amser yn erbyn cau ysgolion.
·
Gan
y bydd nifer o benaethiaid yn cyrraedd oed ymddeol yn y blynyddoedd nesaf,
dylid paratoi’n ddigonol ar gyfer hynny, e.e. drwy ddarparu portffolio yn
amlygu manteision dysgu yng Ngwynedd a’i gylchredeg yn eang.
·
Mae
swyddi dysgu yng Ngwynedd yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor yn unig a
phrin bod pobl sy’n dysgu mewn rhannau eraill o’r wlad yn edrych ar hynny. Dylid hysbysebu swyddi’n ehangach a thrwy
hynny ddenu athrawon yn ôl i’r sir.
·
Pryderir
y byddai cael trefniadau cydweithredol rhwng ysgolion uwchradd yn effeithio ar
yr ysgolion dysgu gydol oes a sefydlwyd yn y Bala a Dolgellau.
·
O
safbwynt dysgu ystod oedran, mae partneriaethu yn
debygol o olygu symud plant o un ysgol i’r llall a’r unig ffordd o wneud hynny,
yn y pen draw, yw drwy gau ambell ysgol.
·
Y
cefnogir yr egwyddorion yn gyffredinol, ond cydnabyddir bod heriau enfawr i
allu darparu hyn.
Dogfennau ategol: