Ystyried
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
(ynghlwm).
*10.10yb
– 10.55yb
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn cyflwyno canlyniadau’r adroddiad a gomisiynwyd i’r Cyfnod
Sylfaen.
Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif
bwyntiau a ganlyn:-
·
Er
bod canfyddiad bod sgiliau cymdeithasol yn is mewn plant nag yn y gorffennol,
bod perfformiad Gwynedd o ran y dangosydd personol a chymdeithasol yn uchel ac
yn awgrymu nad yw’n gymaint o broblem â’r ffactor ieithyddol.
·
Bod
y ffaith bod perfformiad plant Gwynedd o ran allbwn yn 3ydd drwy Gymru ar
ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, gan gynnwys y maes iaith, yn awgrymu bod y
gyfundrefn gynradd yn ei chyfanrwydd yn gwneud ei gwaith a bod plant yn gadael
y gyfundrefn gynradd gyda’r sgiliau angenrheidiol i’w galluogi i gyrraedd eu
llawn botensial.
·
Dylid
rhoi pwysau ar lywodraethwyr i wneud pob ymdrech i gyflogi siaradwyr Cymraeg ar
gyfer pob swydd mewn ysgol, er y cydnabyddir bod hynny’n gallu bod yn her mewn
rhai ardaloedd.
·
Bod
yr adroddiad yn neidio o un peth i’r llall yn hytrach na chanolbwyntio ar y
cyfnod sylfaen yn unig.
·
Bod
sawl cyfeiriad yn yr adroddiad at wanychu’r Gymraeg, e.e. y sylw nad yw pob
aelod o staff yn cadw at bolisi iaith yr ysgol bob amser a’u bod yn troi i’r
Saesneg i siarad â disgyblion di-gymraeg.
Hefyd, mae awgrym yma y caniateir i blant ymateb i brofion drwy’r
Saesneg pan mae’r sefyllfa’n codi, yn groes i’r polisi o ymateb i brofion
drwy’r Gymraeg. Rhaid cofio hefyd, wrth
sôn am ddisgyblion ‘Saesneg fel iaith ychwanegol’, bod y Saesneg hefyd yn iaith
ychwanegol i’r 64% o blant Gwynedd sy’n dod o aelwydydd Cymraeg.
·
Nad
oes unrhyw reswm pam na all pob plentyn, ar wahân i newydd-ddyfodiaid, ddilyn
eu holl gwrs ysgol drwy’r Gymraeg.
·
Bod
y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein hysgolion cynradd yn fater o
bryder a rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder neu mae perygl y bydd y niferoedd
yn gostwng i’r fath raddau fel na ellir cyfiawnhau’r polisi o gwbl.
·
Mae
cydnabyddiaeth bod yr addysg drochi yn y cyfnod sylfaen yn allweddol bwysig a
bod y canolfannau iaith yn chwarae rôl hynod bwysig yn trochi disgyblion CA2.
·
Er
y deellir nad oes yna lefydd gweigion wedi bod yn y canolfannau iaith hyd yma,
pe cyfyd sefyllfa o’r fath yn y dyfodol, gellid ystyried y posibilrwydd o
ymestyn y ddarpariaeth yn ehangach na blwyddyn 2 yn unig, ond gan gadw mewn cof
mai ieuenga’n byd yw’r plant, lleiaf perthnasol yw’r
cwrs ar eu cyfer.
·
Bod
lle i gryfhau’r elfen pontio rhwng y cyfnod sylfaen a’r cylchoedd meithrin ym
maes llafaredd. Mae yna bobl arbennig o
dda yn y cylchoedd meithrin yn hyrwyddo sgiliau caffael iaith a hefyd
arbenigedd amlwg yn y cyfnod sylfaen all gynorthwyo’r cylchoedd meithrin hefyd
fel bod gwaelodlin y plant yn gwella pan maent yn cyrraedd yr ysgol.
·
Na
chredir bod gwerth mewn sefydlu canolfannau iaith penodol i ddysgu Saesneg i
blant, gan nad ydi dysgu’r Saesneg yn broblem i neb oherwydd dylanwadau’r iaith
honno ar blant o bob cyfeiriad. I’r
gwrthwyneb, mae’r Gymraeg yn wan o ran cyfleoedd i’w siarad y tu allan i’r
ysgol.
·
Bod
rôl i’r aelodau, fel cynghorwyr a llywodraethwyr ysgolion cynradd, ddylanwadu i
sicrhau bod y polisi iaith yn cael ei weithredu’n gadarn o fewn yr ysgolion.
·
Bod
y chwyldro technolegol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu
bod angen taro cydbwysedd rhwng gwneud yn siŵr bod plant yn datblygu i fod
yn gyfathrebwyr naturiol â phobl, tra’n sicrhau ar yr un pryd, o ystyried y
gofynion fydd arnynt maes o law ym maes cyflogaeth, nad ydynt yn cael eu
hamddifadu o’r profiadau a ddaw i’w rhan o’r rhyngwyneb technolegol.
·
Bod
y toriad yn y grant gwella addysg yn destun pryder sylweddol o gofio bod tua
60% o’r grant yn mynd tuag at gyflogi cymorthyddion y
cyfnod sylfaen. Gan fod rhai o’r cymorthyddion wedi derbyn codiadau cyflog yn ddiweddar, ac
nad oes modd i’r Cyngor ariannu codiadau yng nghyflogau swyddi sy’n cael eu
hariannu drwy grant, mae llai o arian ar gael i gyflogi cymorthyddion
yn gyffredinol.
·
Bod
torri arian y cymorthyddion yn cynyddu baich gwaith
athrawon a bod angen parhau i herio llywodraethau San Steffan a Chymru
ynglŷn â’r sefyllfa.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r ysgolion am
eu hymdrechion yn y maes cyfnod sylfaen, ac yn benodol ym maes y Gymraeg, gan
nodi bod tystiolaeth yn dangos bod plant, erbyn cyrraedd 11 oed, yn cyflawni yn
briodol a thu hwnt i’w hoedran ymhob maes, gan gynnwys y Gymraeg.
Cyfeiriodd y Pennaeth Addysg at y gyfres o
brif argymhellion ar ddiwedd yr adroddiad gan egluro bod rhai ohonynt yn
argymhellion i’r awdurdod ac eraill yn argymhellion i GwE. Byddai’n sicrhau bod yr argymhellion i’r
awdurdod yn ffurfio rhan o gynllun busnes y gwasanaeth ar gyfer y cyfnod
sylfaen a bod yr argymhellion i GwE wedi’u hymgorffori yn y fanyleb y gofynnir
amdani.
Rhybuddiodd yr Aelod Cabinet y byddai’n
anodd gwireddu nifer o’r argymhellion oherwydd y toriad yn y grant gwella
addysg.
Cytunwyd i gyflwyno adroddiad pellach i’r
pwyllgor hwn ar effaith gweithredu’r argymhellion ar ddiwedd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: