Adeiladu 10 tŷ annedd ar wahan (gyda 20% yn fforddiadwy), gosod allan ffordd fynediad a chreu mynedfa, a man parcio a chodi ar gyfer Ysgol Gynradd Y Ffôr.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read
Cofnod:
Adeiladu 10 tŷ annedd
ar wahan (gyda 20% yn fforddiadwy), gosod allan ffordd fynediad a chreu
mynedfa, a man parcio a chodi ar gyfer Ysgol Gynradd Y Ffôr.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr edrychiad
a’r tirweddu wedi eu cadw’n
ôl er bod cynllun dangosol o edrychiad y tai wedi ei gynnwys. Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol am 40 tŷ yn
2014 a bryd hynny yn seiliedig ar Gynllun
Datblygu Unedol Gwynedd ac fe
ddaeth i’r amlwg bod diffyg capasiti gan Dŵr Cymru i ddelio gyda charthffosiaeth o’r
bwriad. Diwrnod cyn mabwysiadu’r Cynllun
Datblygu Lleol presennol derbyniwyd
gwybodaeth gan yr ymgeisydd y byddai’n bosibl trwy gyfraniad ariannol ganddo i Dŵr Cymru i gael
cysylltiad i’r garthffos cyhoeddus.
Bellach y Cynllun Lleol
ydoedd yr ystyriaeth sy’n dangos y safle tu allan i ffin datblygu. Yn sgil hyn, diwygiwyd
y cais gan yr ymgeisydd i fod ar gyfer 10 o dai yn hytrach na 40 a bod 20% o’r tai
yn rhai fforddiadwy.
Cyfeirwyd at y polisiau
perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad a’r sylwadau ar y ffurflen
hwyr.
O ran asesiad y cais, nodwyd
bod y safle yn gorwedd tu allan i ffin ddatblygu’r pentref sydd gyfystyr â chodi tŷ newydd yng
nghefn gwlad. Cyfeiriwyd at bolisi TAI16
sydd yn ymwneud â chynigion am
dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig ac nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â’r polisi sydd yn gofyn
am 100% ar gyfer tai fforddiadwy.
Gofynna’r polisi hefyd i’r angen lleol gael ei brofi am dai
fforddiadwy. Erbyn hyn, nodwyd bod 3
safle wedi eu nodi o fewn y ffin
ar gyfer datblygu a bod ffigyrau Polisi Tai 13 yn amcangyfrif y byddai’n bosibl cael 37 o dai
ar y safleoedd dan sylw. Yn ogystal,
nodwyd nad oedd angen tai ar hap ym mhentref Y Ffôr. Yn elfennol, roedd y bwriad yn groes i Bolisi
TAI 16.
Petae’r Pwyllgor Cynllunio
yn penderfynu caniatau’r cais, byddai gofyn sicrhau, fel rhan o’r cais materion a gadwyd yn ôl, bod
maint y tai yn rhai fforddiadwy a hefyd angen cael diweddariad am gapasiti Ysgol y Ffôr i ddelio hefo cynnydd posibl
mewn disgyblion. Yn ogystal, nodwyd bod diffyg darpariaeth
llecynnau agored yn y Ffôr a olygai byddai angen cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth ychwanegol o’r fath.
O ran materion ffyrdd, byddai’r fynedfa yn addas ond
gofynnir am droedffordd i gysylltu’r datblygiad gyda’r pentref ynghyd â llecyn
bws newydd.
Awgrymodd yr Uned Bioamrywiaeth amodau perthnasol.
Er bod elfennau o’r bwriad yn dderbyniol, argymhelliad y
swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais oherwydd ei fod yn groes i bolisiau
cynllunio perthnasol a’r rhesymau a nodir yn yr adroddiad.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau
canlynol:
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais o
40 tai ym mhentref y Ffôr o dan y cyn Gynllun Unedol o ystyried bod niferoedd
disgyblion wedi gostwng yn yr ysgol leol ond fe newidiwyd y ffin a profwyd
problemau gyda’r garthffosiaeth
·
gwrthodwyd i roi tanciau
preifat ar eu cyfer
·
Cauwyd Ysgol Hafon Lon ac fe
gytunwyd i 9 / 10 o dai
·
Bod y lôn yn berygl a’r cais
hwn yn rhoddi cyfle ar gyfer mynediad diogel
·
Tra’n derbyn yr angen am 100%
o dai fforddiadwy, ‘roedd angen tai ychydig mwy ar adegau er mwyn i unigolion
fedru symud i fyny yn y farchnad dai a rhyddau tai fforddiadwy i eraill
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y groesffordd yn hynod beryglus, dim gwelededd,
a cherbydau yn parcio ar ochr lôn
·
Byddai’n or-ddatblygiad gyda llawer o dai wedi mynd
i fyny yn y Ffôr yn ddiweddar a chwestiynwyd a oedd angen 10 o dai ychwanegol
·
Bod tri safle arall wedi cael eu dynodi yn y
Cynllun Datblygu Lleol
·
Dylai’r tai fod yn 100% fforddiadwy
·
Cytuno hefo’r argymhelliad ond byddir yn gefnogol
pe byddai’r cais yn 100% o dai fforddiadwy
·
Rhaid bod yn hynod ofalus a deall y gwahaniaeth
rhwng y cyn Gynllun Datblygu a’r un presennol.
Derbyniwyd bod rhai unigolion yn ennill a rhai eraill yn colli ond roedd
y Pwyllgor wedi gwneud gwaith ymchwil trwyadl ac wedi adnabod 37 o dai ar gyfer
Y Ffôr ac ar gael i ddiwallu anghenion yr ysgol. Rhaid cymryd i ystyriaeth y
ffigwr ar gyfer adeiladu tai yn y cynllun datblygu newydd a’r cyn gynllun a bod
yn wyliadwrus rhag peryg i gael mwy o dai na’r angen
·
Ei bod yn anffodus bod y ffin wedi newid
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rhesymau:
1. Byddai’r bwriad yn golygu adeiladu tai newydd yng nghefn gwlad
ble nad oes ei angen ar gyfer menter wledig.
Mae’r bwriad felly yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 (31 Gorffennaf 2017)
ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9 Tachwedd 2016) a Nodyn Cyngor
Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.
2. Nid yw’r bwriad ar gyfer 100% tai fforddiadwy, nid yw’r angen lleol
am dai fforddiadwy wedi ei brofi ac nid oes manylion wedi ei gyflwyno i ddangos
na fyddai’n bosibl darparu’r ddarpariaeth tu mewn i ffin ddatblygu. Ystyrir y
bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2011-2026 (31 Gorffennaf 2017).
Dogfennau ategol: