Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod staff yr harbwr wedi bod yn brysur o ran gwaith dros y Gaeaf gyda’r tywydd garw yn ffactor.

 

Diolchodd Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch i Reolwr Harbwr Pwllheli a’r staff am ail osod rhaffau a bwi ar ei gwch gan sicrhau ei diogelwch.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli ei werthfawrogiad o waith staff yr harbwr ar ran y Gymdeithas.

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod adroddiad archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ar eu harolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen. Roedd yr archwilwyr yn nodi bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi pwy oedd y Daliwr Dyletswydd a’r Person Dynodedig.

·         Bod yr archwilwyr wedi nodi sylw bod diffyg lled yn sianel fordwyo yr harbwr er nad oedd yn dechnegol yn rhan o’r archwiliad.

·         Comisiynwyd cwmni allanol i gynnal arolwg hydograffig llawn o’r sianel fordwyo, ceg yr harbwr mewnol a basn y marina gan gynnwys basn angorfeydd pontŵn Plas Heli. Roedd copi electroneg o’r adroddiad ynghyd â chopïau papur ar gael i’r aelodau yn swyddfa’r Hafan.

·         Byddai gwaith lefelu gwely’r sianel yn cael ei gwblhau yn mis Mai a gwaith carthu'r basn yn cael ei gwblhau yn ystod misoedd y Gaeaf 2018/19.

·         Comisiynwyd Ymgynghoriaeth Gwynedd i wneud gwaith dylunio manwl Grwyn y Crud. Gobeithir byddai gwaith adfer Grwyn y Crud wedi ei gwblhau cyn Hydref 2018;

·         Byddai gwaith carthu ceg yr harbwr yn cael ei gynnal yn mis Ebrill. Dyma fyddai’r ymgyrch diwethaf cyn symud deunydd o’r domen i ardal traeth Carreg y Defaid.

·         Byddai bwiau parth cyflymdra uchel ardal traeth Marian y De ac ardal traeth Abererch yn cael eu lleoli ar eu safle priodol cyn Gŵyl y Sulgwyn.

·         Tynnu sylw bod rhestr gwaith cynnal a chadw yr Hafan a’r Harbwr wedi ei gynnwys yn y rhaglen. Gofynwyd i’r aelodau nodi unrhyw waith pellach y dylid ei ystyried.

·         Bod craen symudol yr Hafan wedi dirywio tu hwnt i werth buddsoddi arian sylweddol i’w gynnal a chadw. Gan fod gwasanaeth craen symudol ar gael gan gwmnïau yn lleol ym Mhwllheli bwriedir gwerthu’r craen gan brynu gwasanaeth craen fel bod angen gan gwmnïau lleol yn y dyfodol. Byddai hyn yn fwy cost effeithiol.

·         Bod staff yr harbwr wedi cydweithio efo’r Clwb Hwylio i glirio a thacluso safle’r hen Glwb Hwylio.

·         Bod gwaith wedi ei gwblhau ar ddiwrnod y cyfarfod i lenwi’r tyllau yn arwyneb maes parcio Traeth Glandon. Cynhelir trafodaethau efo Plas Heli yng nghyswllt cynllun i darmacio rhan o’r maes parcio.

·         Bod newidiadau wedi eu cyflwyno yn nhelerau rhai staff yr Hafan sydd wedi penderfynu trosglwyddo allan o warchodaeth TUPE i gytundeb cyflogaeth y Cyngor. Mae 3 aelod staff yr Hafan yn parhau dan warchodaeth telerau gwaith TUPE. Yn dilyn y newidiadau yn y cytundebau mae’r gwasanaeth wedi adolygu oriau agor swyddfa’r Hafan er sicrhau na fyddai’r newidiadau yn amharu ar barhad gwasanaeth cwsmeriaid harbwr Pwllheli. Tynnu sylw na fyddai’r swyddfa ar agor rhwng 07.00 a 08.00 nac ychwaith rhwng 18.00 a 19.00.

·         Rhannwyd copi o grynodeb cyllideb 2018-19 yr Harbwr a’r Hafan hyd at ddiwedd Chwefror 2018 yn y cyfarfod. Manylwyd ar eu cynnwys gan nodi fod y sefyllfa yn heriol o ran targedau incwm a nodi diolch am ymrwymiad y staff.

·         Er bod graddfa chwyddiant ar gyfer yr harbwr a’r Hafan yn 2018/19 wedi cynyddu ers cyflwyno taenlen ffioedd 2018/19 i’r cyfarfod blaenorol, argymhellir i’r Aelod Cabinet bod y ffioedd a thaliadau yn parhau i gynyddu 2% ar gyfartaledd yn y flwyddyn ariannol 2018/19 oherwydd bod y gwasanaeth eisoes wedi cyfathrebu gyda chwsmeriaid yr Harbwr a’r Hafan.

 

Mewn ymateb i sylw parthed trafferthion mynediad i’r harbwr gyda chwch, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod yn rhannu’r pryderon. Ychwanegodd bod ffurflen ar gael yn swyddfa’r Hafan i ddefnyddwyr gofnodi digwyddiadau o gychod yn taro’r gwaelod a'i fod yn annog pawb i gyflwyno ffurflen pe byddent yn taro’r gwaelod.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli ei fod yn amserol i hysbysu defnyddwyr bod gwaith lefelu gwely’r sianel yn symud yn ei flaen, o ystyried byddai unigolion yn penderfynu yn mis Ebrill os ydynt am barhau i gadw angorfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bod angen carthu 25,000m3 o ddeunydd o geg yr harbwr er cydnabyddir hefyd bod mwy o ddeunydd yn dod i mewn ar bob llanw. Roedd yn rhagweld byddai oddeutu 15,000 m3 yn cael ei garthu yn yr ymgais nesaf. Rhybuddiwyd na fyddai’n bosibl carthu defnydd pellach gan nad oedd gofod digonol ar gael i’w storio. Nododd nad oedd yn bosib i 2 gwch basio ar hyn o bryd a byddai’r gwaith yn golygu gwelliant o’r amgylchiadau presennol. Mewn ymateb, nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y dylid ystyried tynnu dwbl o’r hyn a fwriedir ei garthu a’i fod o’r farn na fyddai tynnu’r cyfanswm o ddeunydd a fwriedir yn gwneud gwahaniaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen rhoi neges bositif allan i bobl o ran y gwaith a wneir fel rhan o’r Strategaeth Garthu.

·         Ni fyddai gwaith lefelu gwely’r sianel y bwriedir ei wneud yn ddigon effeithiol.

·         Bod y llanw yn symud cryn ddeunydd dros y morglawdd i’r sianel, roedd rhaid atal y deunydd rhag symud i fyny’r sianel. Bu llynedd yn flwyddyn ddrwg o ran mynediad ac amcangyfrifir os byddai’r sefyllfa yn gwaethygu byddai perchnogion tua 50 cwch yn ystyried gadael yr Hafan.

·         Bod angen hysbysu defnyddwyr o fanylder y gwaith a wneir ar unwaith a heb oedi gan rannu’r amserlen o ran y gwaith ynghlwm â’r Strategaeth Garthu a gwneud hyn mewn iaith syml.

·         Cydnabod ei fod yn anodd gwneud gwaith i garthu mwy na’r hyn a fwriedir o geg yr harbwr yn mis Ebrill oherwydd y llanw ond a fyddai’n opsiwn parhau efo’r gwaith carthu yn mis Mai.

·         Bod angen hysbysu ar y wefan o ran y gwaith carthu a wneir er mwyn cadarnhau’r gwir sefyllfa. Os byddai defnyddwyr yn gadael mi fyddai’n cymryd blynyddoedd i’w cael yn nôl.

·         Ei fod yn anodd pasio o fewn y fynedfa a bod angen gwneud rhywbeth ar fyrder.

·         Fyddai’n bosib gwneud y gwaith carthu yn mis Ebrill mewn dwy shifft er mwyn gallu cynyddu cyfanswm y deunydd a garthir?

·         Fyddai’n bosib pwmpio’r tywod dros y morglawdd?

·         Croesawu bod rhywbeth yn digwydd.

·         A fyddai ‘jetting’ yn opsiwn?

·         Bod angen cwestiynu’r sail y nodir bod rhaid i lefel gronynnau yn y deunydd a garthir fod llai na 15% os am ei ddychwelyd i’r môr.

·         Byddai’r gwaith o lefelu gwely’r sianel yn cael ei fonitro?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod rhaid gweithio o fewn y ffenestr llanw a ni fyddai digon o amser i dynnu mwy o ddeunydd.

·         Asesir yn fanwl y gwaith carthu angenrheidiol pellach i’w wneud yn ystod misoedd y Gaeaf 2018/19.

·         Bod yr Hafan yn allweddol i’r economi leol a bod sicrhau bod ceg a sianel yr harbwr yn iawn yn hynod o bwysig.

·         Yn llwyr gytuno o ran mynediad ac yn ymwybodol o’r trafferthion. Roedd gwyntoedd cryfion diweddar wedi cael effaith. Gellir gwahodd yr aelodau i weld y sefyllfa unwaith gorffennir gwaith lefelu’r sianel.

·         Cadarnhad bod cyllid mewn lle ar gyfer carthu ceg yr harbwr yn mis Ebrill, lefelu gwely’r sianel yn mis Mai, carthu’r basn yn ystod Gaeaf 2018/19 a gwaith atgyweirio Grwyn y Crud. Edrychir yn ogystal o ran y posibiliadau gweithredu o fewn y pwerau yn Ddeddf yr Harbwr i bwmpio deunydd i Abererch heb yr angen am drwydded forol. 

·         Nid oedd y sefyllfa yn ddelfrydol ond roedd camau positif yn cael eu cymryd ar gyfer  y dyfodol.

·         Bod tendrau ar gyfer y gwaith carthu yn mis Ebrill/Mai wedi mynd allan ond fe ellir edrych os oes sgôp i ehangu’r gwaith.

·         Pe byddai bwriad i wneud gwaith tu allan i’r oriau a ganiateir byddai’n rhaid ymgynghori gyda thrigolion gerllaw. Roedd angen hefyd ystyried diffyg capasiti yn y bwnd i dderbyn mwy o ddeunydd.

·         Gellir gwirio efo Cyfoeth Naturiol Cymru os fyddai’n dderbyniol i bwmpio’r tywod dros y morglawdd.

·         Ni fyddai ‘jetting’ yn gynaliadwy yn y tymor byr na’r tymor hir. Fe wnaed gwaith ‘agitate and jetting’ o gwmpas y pontŵn tanwydd ond ni wnaeth y deunydd symud allan digon ac roedd rhaid ystyried materion amgylcheddol o ran symud deunydd i’r môr.

·         Cytuno i wirio o ran lefel gronynnau yn y deunydd a garthir a ganiateir ei ddychwelyd i’r môr.

·         Cadarnhau byddai Rheolwr Harbwr Pwllheli yn monitro’r gwaith ar wely’r sianel. Yn ogystal, byddai arolwg hydrograffig pellach yn cael ei gynnal ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.

 

O ran oriau agor swyddfa’r Hafan, awgrymodd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y dylid ystyried cychwyn a gorffen cyfnod gwaith y swyddog diogelwch nos awr yn gynt er mwyn llenwi’r bwlch yn oriau agor swyddfa’r Hafan. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Harbwr Pwllheli y rhoddir ystyriaeth i hyn.

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn y difrod yn Harbwr Caergybi o ganlyniad i’r tywydd garw, ei fod wedi gohebu efo Cyngor Ynys Môn a Harbwr Caergybi i nodi bod capasiti yn yr Hafan. Gofynnodd am farn y Pwyllgor Ymgynghorol o ran cynnig angorfa yn yr Hafan i ddefnyddwyr Harbwr Caergybi am yr un ffi a Harbwr Caergybi am un flwyddyn yn unig. Ychwanegodd y bwriedir gwneud y cynnig o ran ewyllys da ond roedd yn dymuno derbyn cydsyniad yr aelodau.

 

Nododd aelodau eu cefnogaeth i’r bwriad am flwyddyn yn unig a thybir y byddai rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gefnogol i’r bwriad o ran helpu cyd-forwyr.

 

Awgrymodd Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch y dylid anfon llythyr ar ran y Pwyllgor Ymgynghorol at Harbwr Caergybi i gydymdeimlo o ran eu sefyllfa yn dilyn y tywydd garw

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli bod cyfleusterau’r Hafan i’w canmol a bod lleoliad cysgodol yr harbwr wedi arbed difrod o ganlyniad i’r tywydd garw. Pwysleisiodd bod achos o’r fath yn dangos pwysigrwydd gwaith arolygu cadwyni.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     nodi a derbyn yr adroddiad;

(ii)    cefnogi’r bwriad i gynnig angorfa yn yr Hafan i ddefnyddwyr Harbwr Caergybi am yr un ffi a Harbwr Caergybi am un flwyddyn yn unig;

(i)     bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn anfon llythyr ar ran y Pwyllgor Ymgynghorol at Harbwr Caergybi i gydymdeimlo o ran eu sefyllfa yn dilyn y tywydd garw.

Dogfennau ategol: