Newid defnydd sied coedwigaeth a compownd i uned storio a chynnal a chadw ar swyddfeydd safle symudol ac unedau toiledau ynghyd a chreu mynedfa newydd
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Sion W Jones
Cofnod:
Newid defnydd sied coedwigaeth a compownd i uned
storio a chynnal a chadw ar swyddfeydd safle symudol ac unedau toiledau ynghyd
a chreu mynedfa newydd
Roedd
yr Aelodau wedi ymweld â’r safle
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Ymhelaethodd yr Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn un llawn rannol ôl-weithredol ar gyfer defnyddio’r safle a’r adeiladwaith presennol ar gyfer cadw ac
atgyweirio swyddfeydd safle symudol
ynghyd ac unedau toiledau ar ffurf portaloos
a portakabins. Byddai’r cais
yn golygu cau'r fynedfa bresennol. Bydd yr adeilad presennol yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer swyddfa, storfa a gwagle agored ar gyfer ymgymryd â gwaith cynnal a chadw’r strwythurau symudol. Bydd yr ardal agored yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofynion parcio staff (x4),
gwagle troi ar gyfer cerbydau
trwm ynghyd a chadw’r strwythurau yn yr awyr agored.
Mae rhan o’r safle eisoes yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer diben
storio awyr agored.
Mynegwyd
bod cais blaenorol (C15/1362/18/LL) ar
gyfer newid defnydd ysgubor/adeilad melin goedwigaeth fel man storio ac
amgaefa ar gyfer defnydd diwydiannol gyda swyddfa fewnol a thir cysylltiedig
i’w ddefnyddio fel man storio ar gyfer portakabins wedi ei wrthod yn
Chwefror, 2016. Gwrthodwyd ar sail bod y defnydd yn rhy fawr ac anghydnaws gyda
defnyddiau presennol cyfagos, heb brofi anghenion lleol arbennig ynghyd â’r
potensial o gynyddu traffig a all achosi niwed i fwynderau deiliaid Rhos y
Wylfa. Apeliwyd yn erbyn y
penderfyniad hwn a gwrthodwyd yr apêl ar sail byddai’r cynnig yn niweidio cymeriad
a golwg cefn gwlad, methiant i gyfiawnhau bod y bwriad yn gynaliadwy ynghyd â’i
effaith andwyol ar fwynderau deiliaid Rhos y Wylfa ar sail aflonyddwch a
sŵn.
Ers hynny mae’r Cynllun Datblygu Lleol wedi ei fabwysiadau a
pholisïau wedi newid. Nodwyd bod yr anghenion a’r ystyriaethau yn wahanol a bod
yr ymgeisydd wedi ymateb i bryderon Rhos y Wylfa drwy symud y fynedfa a
phlannu'r trac presennol fyddai o
ganlyniad yn lliniaru yn erbyn yr effaith. Ategwyd bod yr egwyddor o ailddefnyddio ac addasu
adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes a diwydiant wedi ei selio ym Mholisi
CYF6 sydd yn datgan y caniateir cynigion i drosi adeiladau gwledig ar gyfer
defnydd busnes os gellid cwrdd gyda nifer o feini prawf oedd wedi eu rhestru yn
yr adroddiad
Derbyniwyd y byddai'r safle yn cael
effaith, ond wedi pwyso a mesur yr effeithiau, ystyriwyd bod y cais bellach yn
dderbyniol. Ni fyddai cerbydau trwm yn pasio Rhos y Wylfa a thrwy osod amodau
perthnasol byddai modd rheoli sut bydd symudiadau yn cael eu gweithredu er mwyn
lleihau effaith ar y preswylwyr. Nodwyd hefyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn
derbyn y bwriad.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwynt
canlynol gan Aelod unigol:
·
Bod angen sicrhau bod cynllun rheoli coedwigaeth tymor hir.yn cael ei gynnwys gyda’r amodau
PENDERFYNWYD caniatáu y cais
Amodau
1. Yn
unol â’r cynlluniau.
2. Cyfyngu
gweithgareddau cynnal a chadw oddi fewn i’r adeilad ynghyd â chyfyngu ar
ardaloedd storio allanol.
3. Amodau
Priffyrdd parthed cau’r fynedfa bresennol i gerbydau a chreu’r fynedfa a’r
rhodfa newydd.
4. Amod
mesuriadau lliniaru colli coed fel y’i cynhwysir yn yr Arolwg Coed.
5. Oriau gweithredu wedi eu cyfyngu i 8:00
- 18:00 Llun i Wener; 8:00 - 13:00 Sadwrn a dim gweithio o gwbl yn ystod y Sul
a gwyliau Gŵyl y Banc.
6. Cyfyngu
defnydd y safle i ddefnydd B2 (diwydiant cyffredinol) a B8 (storio a dosbarthu)
yn unig.
7. Tynnu hawliau a ganiateir
parthed estyniadau i’r adeilad presennol.
8. Ni chaniateir gosod mwy
na un lefel o strwythurau symudol ar y safle.
9. Cytuno manylion system draenio dŵr
wyneb a dŵr aflan o fewn y safle gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r
adeilad cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben.
10. Cynllun
rheoli coedwigaeth tymor hir.
Dogfennau ategol: