Agenda item

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad cynllunio C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod i gwbwlhau'r datblygiad yn unol â chynlluniau'r cais

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthansol

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod i gwblhau’r datblygiad yn unol â chynlluniau'r cais.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâd eisoes wedi ei roi ar y cais yn Rhagfyr 2016. Amlygwyd bod y cais hwnnw yn destun amodau cynllunio ac un o’r rheiny oedd gweithredu o fewn cyfnod o 9 mis. Nodwyd bod y cais yn un i newid yr amod i sicrhau amser digonol i gwblhau'r datblygiad yn unol â chynlluniau’r cais. Eglurwyd bod y gwaith o godi lefelau'r tir wedi ei weithredu ac mai diben hyn oedd codi lefel y tir uwchlaw lefel llifogydd C2 fel byddai modd ystyried gwaith peirianyddol i ddarparu’r tir ar gyfer datblygiad pellach. Byddai unrhyw gais yn y dyfodol ar y safle yn gais o’r newydd.

 

Nodwyd bod y gwaith o godi lefel y tir wedi ei weithredu rhwng Ebrill a Gorff 2017 o fewn cyfnod o 8 - 10 wythnos. Y cam nesaf fydd gosod cerrig o amgylch y safle fyddai’n creu amddiffynfa i sicrhau nad yw’r gwastraff llechi yn golchi i ffwrdd. Adroddwyd yn y cais gwreiddiol bod angen tyllu rhywfaint ar y blaendraeth er mwyn gosod cerrig fel sylfaen gadarn.

 

Amlygwyd bod rhai o’r gwrthwynebiadau a’r sylwadau hwyr yn pryderu am drwytholch o’r safle fyddai yn llygru pysgodfeydd. Ategwyd bod hyn wedi ei ystyried yn y cais gwreiddiol. Yn ogystal, tynnwyd sylw at sylwadau Gwarchod y Cyhoedd oedd yn nodi bod rhaid sicrhau nad oedd y gwaith o osod y cerrig o amgylch y safle yn creu effaith andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos. Adroddwyd bod angen symud 7 mil o gerrig mawr i’r safle mewn cyfnod o 14 wythnos. Bydd effeithiau sŵn yn fwy tebygol nag effeithiau llwch.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi bod yn cyflwyno canlyniadau samplau dwr i’r Awdurdod a bod y canlyniadau, ar hyn o bryd, yn nodi mai annhebygol y byddai trwytholch yn llygru'r amgylchedd morol. Ategwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn pryderon am yr adar sydd ar y safle yn gaeafu yno yn ystod llanw uchel. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnal dau arolwg (un yn 2016 ac un yn parhau) yn dangos bod cynnydd yn nifer yr adar oedd yn ymgasglu, ond byddai hyn yn gostwng  wrth i’r tymor ddirwyn i ben.

 

Nodwyd bod llysiau dial wedi dod i’r safle a mynegwyd bod rhaid i’r ymgeisydd ymdrin â’r planhigyn yma cyn dechrau unrhyw waith datblygu. Ategwyd mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai monitro hyn.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

·         Ei bod yn cynrychioli barn trigolion o 22 eiddo cyfagos

·         Siomedig nad yw’r ymgeisydd wedi cwblhau'r gwaith o fewn yr amserlen

·         Cyngor Dinas Bangor yn amlygu pryderon am yr hyn sydd wedi ei gladdu o dan y tir ers yr 80au

·         Yn ystod gwaith Haf 2017, roedd llwch ymhob man, loriau yn gyrru ar gyflymder oedd yn uwch na 5mya. Rhan fwyaf o’r amodau wedi eu torri - wedi gwneud cais, drwy’r Awdurdod i gynnal cyfarfod gyda’r ymgeisydd. Pa sicrwydd fydd yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda’r amodau eleni?

·         Cyfeiriad yn yr adroddiad bod amserlen y gwaith yn ‘weddol fyr’ - nid yw 14 wythnos yn fyr!

·         Siomedig bod oriau gwaith yn cynnwys bore Sadwrn - cais i’r Pwyllgor ddileu hyn

·         Materion traffig a mynediad – cylchfan Ffordd y Traeth yn beryglus iawn, pryder y bydd damweiniau yma yn y dyfodol agos yn enwedig gyda symudiadau traffig ychwanegol

 

c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·           Bod y cais gwreiddiol wedi ei gymeradwyo Rhagfyr 2016

·           Gwaith wedi ei wneud i godi lefel gyfredol y safle. O ganlyniad, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ail gategoreiddio’r safle drwy ei symud allan o barth gorlifo a cham ymlaen at greu safle gyda photensial i’w ddatblygu

·           Bod angen gosod rip rap er mwyn cwblhau’r gwaith i warchod y safle

·           Ni ellid gwneud cais am drwydded forol hyd nes bod y tir wedi ei ail gategoreiddio. Disgwyl cael trwydded Gwanwyn 2018 fydd yn galluogi i’r gwaith symud yn ei flaen

·           Yr ymgeisydd wedi gweithio yn agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i  fynd i’r afael a materion amgylcheddol ac adeiladol

·           Caniatâd am y gwaith eisoes wedi ei gymeradwyo

·           Bydd argymhellion ac amodau yn sicrhau rheolaeth dros y gwaith

 

ch)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y sylwadau canlynol:

·          Bod yr ardal yn un cynhennus ym Mangor

·          Pryderon ynglŷn â llysiau’r dial. Bod dyletswydd foesol i ddifa’r planhigyn

·          Byddai gan y tyfiant effaith ar werth y safle

·          Angen sicrhau bod y tyfiant yn cael ei waredu cyn dechrau unrhyw waith ar y safle

·          Awgrym i gynnwys amod

 

d)      Mewn ymateb i sylw’r Aelod Lleol nodwyd y byddai angen ystyried beth fyddai goblygiadau gosod amod. Byddai angen yn gyntaf tystiolaeth bod y planhigyn yn bodoli ac yna  ystyried sut i ymdrin â’r tyfiant. Ymddengys y byddai’n bosib ystyried yr amserlen a hyd y cytundeb ynghyd ac amod i ymdrin â llysiau’r dial.

 

dd)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

e)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·           Angen ymdrin â llysiau’r dial cyn cymryd camau pellach

·           Angen galw arbenigwr i mewn i gael barn broffesiynol a sicrhau bod y planhigyn yn cael ei waredu yn gywir

·           Angen sicrhau y byddai yn cael ei drin gyda chemegyn na fyddai yn cael effaith ar y cregyn gleision

·           Cais am brawf / tystysgrif bod y planhigyn wedi ei waredu cyn dechrau datblygu

·           Petai y cais yn cael ei gymeradwyo i’r dyfodol – gweithio ar ddydd Llun i Gwener yn unig – dim Dydd Sadwrn

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais

- angen mwy o wybodaeth a thystiolaeth sut bydd y datblygwr yn ymdrin         â’r planhigyn

 

 

Dogfennau ategol: