skip to main content

Agenda item

Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Cofnod:

Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a’r gwrthwynebiad ychwanegol.

 

a)      Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer sefydlu safle ar gyfer lleoli 12 pabell saffari,12 pod ystafell wlyb gerllaw pob pabell saffari, creu llwybrau cerdded, ardaloedd barbeciw ac ardal chwarae plant. Nodwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored yn ffinio gyda ffordd sirol dosbarth 3 o Llanengan i Llangian o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn ac oddi fewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

            Amlygwyd bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu cynigion am safleoedd teithiol, gwersylla neu lety wersylla amgen dros dro os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad; ei fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol sydd wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, a/neu ble gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd.

 

            Nodwyd y byddai’r pebyll wedi eu gosod yn bennaf o amgylch ffiniau’r cae a’r podiau ystafell wlyb yn cael eu gosod gerllaw pob pabell.  Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd y byddai’r pebyll saffari a’u sylfeini ynghyd a’r podiau ystafell wlyb yn cael eu symud o’r safle y tu allan i’r tymor gweithredu.  Yn sgil hyn ystyriwyd y bwriad o dan bolisi TWR 5 sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau teithiol, gwersylla a llety gwersylla amgen dros dro.

 

            Tynnwyd sylw bod yr asesiad effaith weledol a thirwedd wedi cyfeirio at asesiadau LANDMAP ar yr ardal (yn arbennig yr un gweledol a synhwyraidd) oedd wedi dod i’r casgliad mai canolig yw gwerth y dirwedd.  Er mai canolig yw gwerth y dirwedd, mynegwyd bod yr asesiad yn nodi bod y dyffryn yn un gwledig, caeedig bach gyda rhai adeiladau yn lleihau'r atyniad, yn benodol ar ffurf adeiledig ar gyrion Abersoch.  Argymhellion pellach asesiad LANDMAP oedd, cyfyngu ar ddatblygiadau carafanau o fewn y dyffryn, yn y tymor hir.  Yn ychwanegol, fel rhan o’r  asesiad effaith weledol a thirwedd a gyflwynwyd gyda’r cais, cyflwynwyd lluniau yn dangos y safle o nifer o fannau amrywiol lle byddai’n weledol yn y dirwedd ac ar draws yr AHNE. Dadleuwyd y byddai’r safle yn parhau yn weladwy o’r mannau yma hyd yn oed pan fydd y tirlunio y bwriedir yn aeddfedu.

 

Nid oedd yr Adran Cynllunio  wedi eu hargyhoeddi bod y safle yn cydymffurfio gydag egwyddorion polisi TWR 5. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn nodwedd ymwthiol yn y dirwedd ac yn achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd sydd wedi ei ddynodi yn AHNE.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Byddai’r safle yn glir drwy’r gaeaf; pebyll ar y safle yn ystod tymor twristiaeth yn unig

·         Bod y safle wedi ei ddylunio gydag effaith gweledol isel mewn golwg, drwy ddefnyddio ochr gysgodol y safle a ffiniau perthi aeddfed

·         Bod asesiad llawn o effaith y datblygiad ar y dirwedd wedi ei gymeradwyo gan Swyddog yr AHNE fel un trylwyr yn defnyddio methodoleg gywir

·         Bod y swyddog yn derbyn bod dyluniad y cynllun a’r pebyll o safon ac yn cydymffurfio a pholisi TWR 5

·         Honiad bod y datblygiad graddfa fechan yma yn creu effaith niweidiol

·         Asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi gwerth tirwedd ganolig - dim mwy na hynny

·         Bod adroddiad y swyddog wedi cymryd elfennau o’r cais allan o gyd-destun - honiad na fyddai’r cynllun plannu o gwmpas y safle yn llwyddiannus. Posib gosod amod i sicrhau tirlunio bydd yn gafael a llwyddo

·         Bod golygfeydd i mewn i’r safle yn brin ofnadwy a ’dim ond o bell’ – honiad eto ei fod yn amlwg i bawb o gwmpas. Nid yw hyn yn gywir

·         Casgliad yr asesiad – ‘... Wider visual  impact is limited by the presence of existing vegetation due to the very small scale of the development ... the impacts on the AONB are negligable and neutral’.

·         Cais i’r Pwyllgor ganiatáu. Y cais yn cyfateb a pholisïau lleol a chenedlaethol

 

c)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais

·           Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda geiriau’r asiant

·           Bod yr ymgeisydd wedi gwneud gwaith manwl i ymchwilio i goed brodorol i’r ardal ynghyd a gofynion bioamrywiaeth

·           Yr ardal yn ardal twristiaeth - angen ystyried lles yr ardal o ran yr economi leol

·           Ni fydd y podiau ar y safle drwy’r flwyddyn

·           Cyfeirio atynt fel pebyll saffari, ond podiau ydynt.

·           Safle o fewn y Cynllun Datblygu Lleol

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

 d)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Maen tramgwydd mwyaf yw’r effaith debygol ar yr AHNE

·         Wrth ystyried polisïau, hyn fel arfer yn dod lawr i farn, ac efallai bod y cais yma yn un o’r achosion hynny. Mater o farn ydyw os bydd effaith ar yr AHNE

·         Rhaid ceisio peidio andwyo'r ardal a’r rhesymau hynny sydd yn annog ymwelwyr i ddod i’r ardal

·         Safle yn anghyfarwydd – cynnig ymweliad safle

·         Angen gwybodaeth am faint y podiau

 

         Cynigiwyd gwelliant i’r cynnig i drefnu ymweliad safle

 

          PENDERFYNWYD  trefnu ymweliad safle

 

 

Dogfennau ategol: