Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir ei droseddau. Nododd mai gyrrwr loriau ydoedd wrth ei waith a'i fod wedi gwneud un camgymeriad difrifol o benderfynu gyrru o dan ddylanwad alcohol ar ôl noson allan gyda’i ffrindiau. Roedd yn cyfaddef yn agored bod y penderfyniad wedi bod yn wirion a bod y cwrs adfer wedi bod yn werthfawr iawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, amlygodd y byddai, petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu, yn hunangyflogedig.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

      gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

      ffurflen gais yr ymgeisydd

      sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Tachwedd 1995) ar un cyhuddiad o geisio cael eiddo drwy dwyll, yn groes i Ddeddf Lladrad 1968 adran 15. Cafodd ddirwy o £60.00. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Chwefror 1989) am ddau drosedd o ddifrod troseddol. Cafodd orchymyn i dalu iawndal o £ 220.00. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd (Rhagfyr 2014) ar un cyhuddiad o fethu â darparu sbesimen i'w ddadansoddi, yn groes i adran 7 (6) Deddf Traffig Ffyrdd 1988. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis, gyda gostyngiad o 3 mis yn dilyn cwrs adfer.


Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded.


Amlygwyd bod paragraff 4.5 o Bolisi’r Cyngor yn nodi bod Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu i’r Is-bwyllgor ystyried yr holl gollfarnau a gofnodwyd boed y rheiny wedi darfod o dan Ddeddf 1974 ai peidio.

Ystyriwyd paragraff 6.5 lle nodi’r bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd un gollfarn o natur dreisgar yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Nodwyd bod troseddau o'r fath yn cynnwys difrod troseddol. Ystyriwyd paragraff 8.2 lle nodi’r bydd cais yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd gollfarn o'r 3 blynedd diwethaf am drosedd o anonestrwydd (sydd yn cynnwys ceisio eiddo drwy dwyll). Ystyriwyd paragraff 12.9 lle nodi’r bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn ddiweddar yn erbyn yr ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad o 12 mis neu fwy, oni bai bod cyfnod o 18 mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.

Derbyniwyd bod collfarn 1985 yn cynnwys trosedd o anonestrwydd, fodd bynnag ers i'r gollfarn ddigwydd 32 mlynedd yn ôl (dros 3 blynedd yn ôl), roedd yr Is-bwyllgor o'r farn nad  oedd y drosedd yn sail i wrthod. Derbyniwyd bod collfarn 1989 yn cynnwys troseddau trais ddigwyddodd 29 mlynedd yn ôl. Nid oedd hyn yn sail i wrthod y cais. Yn dilyn collfarn 2014, cafodd yr ymgeisydd ei ddiarddel rhag gyrru. Cyfrifodd yr Is-bwyllgor bod y gwaharddiad wedi dod i ben 31 Awst 2015 (9 mis ar ôl 1 Rhagfyr 2014) a olygai bod dros 12 mis wedi mynd heibio ers ei ddiarddel.


Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i’r ymgeisydd gyda manylion am ei hawl i gyflwyno apêl.