Agenda item

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn gosod cefndir a diweddariad ar ddatblygiadau ym maes mesuryddion cerbydau hacni (clociau tacsi). Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo cynnig i newid yr amodau fel rhan o adolygiad ehangach i bolisïau ac amodau trwyddedu tacsi sydd wrthi’n cael eu hadolygu. Cyflwynwyd rhestr o’r amodau presennol ynghyd a’r amodau arfaethedig.

 

Amlygwyd mai un o’r meysydd trafod oedd cynnydd yn y defnydd o Systemau Lleoli Byd-eang (GPS) i fesur tal mewn cerbydau trwyddedig. Er bod y defnydd yma yn cael ei groesawu fel system i weithredwyr reoli ac anfon cerbydau at gwsmeriaid a chyfrif pris taith yn effeithiol, adroddwyd nad oes unrhyw system GPS ar hyn o bryd yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Offer Mesur 2006. O ganlyniad, ni ellir eu defnyddio fel mesurydd cymeradwy. Eglurwyd mai'r bwriad oedd ychwanegu amod yn egluro statws cyfreithiol presennol systemau GPS i reoli ac anfon tacsi

 

Adroddwyd nad oedd trefniant yn ei le i gerbydau hacni yng Ngwynedd gael eu cloc tacsi wedi ei brofi yn gyfnodol. Mewn ymateb i hyn cynigiwyd amodau i berchnogion cerbydau tacsi sicrhau bod y cloc yn gweithio’n briodol; darparu tystysgrif yn cadarnhau bod y cloc o fanyldeb (specification) a gymeradwywyd;  wedi ei osod yn unol â Rheoliadau Offer Mesur (2006); wedi ei galibradu i sicrhau mai dim ond tariff cyfredol Cyngor Gwynedd sydd yn cael ei ddefnyddio. Bydd gofyn i’r perchennog ddangos y dystysgrif yn flynyddol i’r Awdurdod Trwyddedu i brofi bod y mesurydd yn gywir. I hybu’r newidiadau, y bwriad yw i’r Uned Trwyddedu sefydlu rhestr o brofwyr clociau tacsi cymeradwy i osod a chynnal y profion blynyddol.

 

Nodwyd bod angen ymgynghori gyda’r diwydiant ynglŷn â’r newidiadau i amodau trwydded cerbyd hacni. Y bwriad yw bod hyn yn cael ei wneud fel rhan o waith ymgynghori ehangach ar adolygiad polisïau trwyddedu tacsi.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod yr argymhelliad yn un i’w groesawu  - yn gosod cysondeb

·         Amserol fydd derbyn cyngor cyfreithiol ar faterion defnydd GPS

·         Bod y polisi yn cael ei adolygu mewn ymateb i newidiadau mewn technoleg

·         Bod mantais reolaethol i ddefnydd GPS ac felly angen sicrhau bod y ddwy drefn yn cydweithio

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn gwirio’r addasiadau i glociau tacsi, nodwyd mai cyfrifoldeb y cwmnïau fydd cydymffurfio gyda’r amodau arfaethedig. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sicrhau bod gyrrwr tacsi yn ‘yrrwr diogel’ (yn dilyn digwyddiad diweddar i ddiddymu trwydded gyrrwr oherwydd defnydd cyffuriau), nodwyd mai drwy’r diwydiant, gan amlaf y bydd yr Uned Trwyddedu yn derbyn gwybodaeth. Petai pryder gan yr Uned Drwyddedu neu wybodaeth yn dod i law gan y cyhoedd am yrrwr yn  ymddwyn yn amhriodol bydd yn Uned yn gwneud cais i’r Heddlu am wybodaeth. Yn sgil newidiadau i’r Ddeddf Rheoli Data, amlygwyd nad oedd gorfodaeth bellach ar yr Heddlu i rannu gwybodaeth yn awtomatig gyda’r Uned am unigolion oedd wedi troseddu yn ddiweddar.

 

Yn dilyn yr ymateb, awgrymwyd llythyru Comisiynydd yr Heddlu yn amlygu pryderon y Pwyllgor ar faterion rhannu gwybodaeth bersonol.

 

Yn dilyn sylw gan y Swyddog mai Cyngor Gwynedd sydd yn gosod tariff prisiau drwy ddilyn trefn gyfreithiol, derbyniwyd cais gan yr Aelodau am restr o’r cyfraddau prisiau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

 

 

Dogfennau ategol: