Agenda item
Lleoli 2 garafan sefydlog ychwanegol i’r safle presennol ynghyd â gwelliannau i’r safle a gosod carafan sefydlog fel swyddfa / derbynfa.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
John Brynmor Hughes
Cofnod:
Lleoli 2 garafán sefydlog ychwanegol i’r safle
presennol ynghyd a gwelliannau i’r safle a gosod carafán sefydlog fel swyddfa /
derbynfa.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle o fewn Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol (AHNE) a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Nodwyd mai’r prif bolisi i’w ystyried
wrth asesu egwyddor y datblygiad oedd Polisi TWR 3 o’r CDLl. Y rhan perthnasol o’r polisi o safbwynt y
cais yma oedd rhan 3. Eglurwyd bod y polisi yn gallu caniatáu estyniadau
bychain i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i
leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf. Tynnwyd
sylw nad oedd y polisi yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar
safleoedd tu mewn i’r AHNE nac ychwaith Ardaloedd Tirwedd Arbennig. ‘Roedd y
bwriad yn groes i ofynion Polisi TWR 3 o safbwynt safleoedd tu mewn i’r AHNE.
Cydnabyddir bod y datblygiad yn dangos rhai gwelliannau i
gyfleusterau’r safle presennol ac y bwriedir tirlunio yn ychwanegol ar ran o’r
safle, fodd bynnag nid oedd y bwriad yn goresgyn egwyddor sylfaenol Polisi TWR
3 ac adroddiad Gillespies nad oedd capasiti ar gyfer carafanau sefydlog ychwanegol o fewn yr
AHNE.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod Polisi TWR 3 yn cael ei
weithredu fel un brwsh llydan;
·
Nid oedd yr Uned AHNE yn
gwrthwynebu’r cais;
·
Bod safle’r cais yn safle mewnlenwi yng nghanol safleoedd carafanau eraill;
·
Nid oedd adroddiad Gillespies o ran capasiti a
sensitifrwydd y dirwedd yn rhagnodol;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ystyried
cynnal ymweliad safle.
(c) Gwnaed y prif
bwyntiau canlynol gan aelod oedd
yn gweithredu fel aelod lleol
(nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod y safle yn daclus ac wedi
ei leoli yng nghanol safleoedd carafanau eraill felly ni fyddai’n cael effaith
ar yr ardal;
·
Byddai’r bwriad yn golygu
estyniad bach i’r safle presennol;
·
Bod yr Uned AHNE yn nodi na
fyddai effaith niweidiol ar yr AHNE;
·
Gellir darparu
swyddfa/derbynfa mewn dull amgen i’r garafán sefydlog;
·
Byddai’r bwriad yn golygu codi
safon diogelwch a darparu ffôn a Wi-Fi;
·
Awgrymu y dylid cynnal
ymweliad safle.
(ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod digonedd o garafanau yn yr
ardal ac fe ddylid gwrthod yn unol â Pholisi
TWR 3;
·
Dylid ystyried cynnal ymweliad safle gan fod
y cais yn cynnig gwelliannau i’r safle;
·
Bod y bwriad yn groes i
Bolisi TWR 3 ac adroddiad cwmni Gillespies yn nodi nad oedd capasiti yn y dirwedd
ar gyfer y math yma o ddatblygiad. O ystyried y polisi a’r adroddiad yn
synnu bod yr Uned AHNE yn nodi
bod capasiti yn y dirwedd;
·
Gellir darparu ffôn a Wi-Fi ar y safle yn ei
ffurf bresennol;
·
Pryder o ystyried sylwadau’r Swyddog Carafanau bod tor amod eisoes gyda’r risg
lledaenu tân angen ei ddelio
efo;
·
Bod y safle wedi ei leoli
tu fewn i’r
AHNE felly dylid gwrthod y cais;
·
Perygl gosod cynsail pe caniateir
y cais.
PENDERFYNWYD Gwrthod am y rhesymau canlynol:
1. Mae’r bwriad yn
golygu cynyddu nifer carafanau sefydlog ar safle
carafanau sefydlog presennol oddi fewn i Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol. Nid yw polisi
TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau siale
ar safleoedd presennol oddi fewn i’r Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r bwriad felly yn groes i
ofynion maen prawf 3 (iii) polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
2. Ni ystyrir y byddai gosod carafán sefydlog yn y lleoliad dan sylw fel swyddfa / derbynfa yn cyfrannu dim tuag at wella dyluniad, gosodiad ac edrychiad y safle a’i le yn y dirwedd o’i amgylch ac ni ystyrir felly fod y bwriad yn cwrdd gofynion maen prawf 3 (vi) o bolisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
Dogfennau ategol:
- Parc Carafan Bwthyn Pant Gwyn , Sarn Bach, Pwllheli, eitem 5.16 PDF 251 KB
- Cynlluniau, eitem 5.16 PDF 2 MB