Agenda item

Dymchwel Neuadd eglwys ar wahan bresennol a chodi neudd eglwys yn gysylltiedig wrth eglwys bresennol Santes Helen, Penisarwaun, ynghyd â chreu parcio ar y safle ar gyfer saith cerbyd gan gynnwys dau le ar gyfer yr anabl.  

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel neuadd eglwys ar wahân presennol a chodi neuadd eglwys yn gysylltiedig wrth eglwys bresennol Santes Helen, Penisarwaun, ynghyd a chreu parcio ar y safle ar gyfer saith cerbyd gan gynnwys dau le ar gyfer yr anabl.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Gorfodaeth ar gefndir y cais, gan nodi y byddai’r adeilad newydd yn darparu gofod ar gyfer gweithgareddau cymunedol, siop a chaffi, festri, storfeydd a thoiledau.

        

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion y pentref mewn ardal anheddol, ac o fewn ffin datblygu pentref Penisarwaun yn y Cynllun Datblygu. Nid oedd yr eglwys yn rhestredig, ond roedd y safle wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

O safbwynt mwynderau gweledol, mwynderau trigolion a phreifatrwydd ystyrir fod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y bwriad yn ogystal yn cydymffurfio â pholisïau yn y Cynllun Lleol ynglŷn â manwerthu. Cyflwynwyd arolwg rhywogaethau gwarchodedig gyda’r cais ac nid oedd gan yr Uned Bioamrywiaeth na Chyfoeth Naturiol Cymru wrthwynebiad i’r bwriad cyn belled fod y datblygwr yn gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad hwnnw.

 

Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad cyn belled fo’r datblygwr yn dilyn y cynlluniau a gyflwynwyd.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle;

·         Bod neuadd gymunedol ym Mhenisarwaun felly nid oedd angen y neuadd;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd;

·         Bod pobl leol ddim angen nac eisiau’r neuadd.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y neuadd bresennol yn dirywio ac fe fyddai’r neuadd newydd yn ychwanegu at y gymuned;

·         Byddai mynediad i’r anabl a thoiledau wedi eu cynnwys yn y neuadd;

·         Wedi trafod efo’r Uned Drafnidiaeth a swyddogion cynllunio yng nghyswllt dull rheoli cyflymder ar y ffordd;

·         Ni fyddai’r siop yn gweithredu am elw ac ni fyddai’n cystadlu efo llefydd eraill;

·         Nid oedd sail cynllunio i’r gwrthwynebiadau a gyflwynwyd;

·         Y derbyniwyd llythyrau gefnogaeth gan bobl leol.

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn gweld y ddau ochr ond ei fod yn tueddu i ochri efo’r gwrthwynebwyr;

·         Nid oedd pobl leol yn gweld angen am neuadd a phryderon o ran diogelwch ffyrdd;

·         Bod neuadd gymunedol lewyrchus yn yr ysgol.

 

(d)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Er yn cydymdeimlo efo’r gwrthwynebwyr byddai’r neuadd yn ased i’r pentref a’r eglwys;

·         A fyddai’n ofynnol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus o ran gosod twmpathau fel rhan o ddull rheoli cyflymder ar y ffordd?

·         Dylid mynd efo sylwadau’r Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol nad oedd angen neuadd arall yn y pentref;

·         Bod yr elfen siop o’r datblygiad i’w groesawu;

·         Ddim yn gweld yr angen a byddai’n or-ddatblygiad o’r safle gan guddio golygfeydd a thynnu oddi ar brydferthwch yr eglwys;

·         Ni fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle.

 

(dd)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Ni fyddai’n ofynnol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gan fod y bwriad yn golygu ychwanegu pâr o dwmpathau at y twmpathau presennol. Byddai’r bwriad yn cael ei drafod efo’r Cyngor Cymuned ac fe hysbysebir y bwriad;

·         Bod neuadd yn bresennol ar y safle a bod y bwriad yn golygu ei ddymchwel gan adeiladu neuadd newydd. Nid oedd rheswm o ran gorddarpariaeth yn sail gadarn i wrthwynebu’r bwriad.

 

PENDERFYNWYD       Caniatáu gydag amodau:

 

1.         Amser 5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         To llechi a gorffeniad allanol yr adeilad i weddu gyda’r eglwys.

4.         Amodau Priffyrdd / Parcio

5.         Cyfyngu arwynebedd llawr y siop / caffi

6.         Gwaith i ddigwydd yn unol â'r Adroddiad Ystlumod

7.         Amod i gyfyngu'r gwaith dymchwel ac adeiladu i 09:00-18:00 Dydd Llun - Dydd Gwener, 09:00-13:00 Dydd Sadwrn, a dim o gwbl ar Ddydd Sul a Gŵyl y Banc.

8.         Amodau Archeolegol

9.         Amodau Dŵr Cymru

 

Nodiadau

1.         Priffyrdd

2.         Dŵr Cymru

3.         Gwasanaeth Archeoleg

4.         Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol: