Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Stephen Churchman
Cofnod:
Newid
defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn darparu cyfleuster tafarn ar y
llawr daear ac uned byw ar y llawr cyntaf.
Nodwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLl yn datgan y dylid
gwrthsefyll newid defnydd cyfleuster cymunedol oni bai y gellir cydymffurfio ag
un o dri opsiwn. Yn yr achos yma, Rhan iii. oedd yn berthnasol, gan ei fod yn
ymwneud â chyfleuster sy’n cael ei redeg yn fasnachol, a rhaid dangos
tystiolaeth o’r isod:
·
Nad
yw’r defnydd presennol bellach yn hyfyw’n ariannol;
·
Na
ellir disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw yn ariannol;
·
Na
ellir sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall;
·
Bod
tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata’r cyfleuster sydd wedi bod yn
aflwyddiannus.
Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth a gyflwynwyd yn erbyn polisi ISA 2 a’r ffaith
ei bod yn bur annhebygol ar sail y wybodaeth i law i’r defnydd tafarn ail
sefydlu yn yr adeilad oherwydd costau a natur gymdeithasol, credir bod
cyfiawnhad wedi ei ddangos dros y newid defnydd.
Derbyniwyd sylw gan y gwasanaeth Datblygu
Economaidd ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, gan ddatgan fod sawl
her yn wynebu busnes tafarn gwledig fel yma a bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi
cael ei asesu ganddynt a’i fod yn cadarnhau nad oedd yn hyfyw yn ei ffurf
bresennol.
Tynnwyd sylw at sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod pryder wedi
ei nodi o ran y dystiolaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd wedi nodi bod rhaid ystyried y bwriad yng nghyd-destun fod yr uned
wedi bod yn wag am gyfnod estynedig a’i fod wedi ei farchnata am bris rhesymol
am gyfnod parhaus o 12 mis. Derbyniwyd tystiolaeth gyda’r cais mewn perthynas â
marchnata’r adeilad yn aflwyddiannus ers 2011, a oedd yn gyfnod sylweddol
hirach na’r cyfnod 12 mis a oedd yn ofynnol. Ystyriwyd bod gofynion Polisi MAN
4 o’r CDLl wedi eu cwrdd.
Derbyniwyd sylwadau/gwrthwynebiadau gan drigolion lleol yn ogystal â deiseb
yn erbyn y bwriad gan godi nifer o faterion yn ymwneud â’r datblygiad
arfaethedig a hanes diweddar y busnes.
Credir bod tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno
i brofi bod y defnydd tafarn yn anhyfyw ac er bod cyfeiriad mewn sylwadau a
dderbyniwyd at fwriad i geisio ei brynu yn lleol nid oedd tystiolaeth gadarn y
byddai’r defnydd yn debygol o ail sefydlu yn y dyfodol agos, credir felly fod
cyfiawnhad dros y newid defnydd arfaethedig i ganiatáu’r adeilad cael ei
ddefnyddio fel tŷ.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif
bwyntiau canlynol:-
·
Bod y bwriad yn groes i Bolisi MAN 4
o’r CDLl gan nad oedd yn cydymffurfio efo’r meini prawf;
·
Bod ddim darpariaeth o’r fath o fewn
pellter agos a gyda gwasanaeth bysiau yn ddiweddar wedi lleihau nid oedd
gwasanaeth i’r pentref ar ôl 9.30pm;
·
Bod y dafarn ar werth ers blynyddoedd
tra bod y dafarn dal ar agor ond ni hysbysebwyd yn lleol;
·
Bod y dafarn wedi cau 4 noson yr
wythnos ac ond ar agor ar ôl 9.00pm ar nos Wener cyn cau i lawr;
·
Y bwriedir sefydlu menter gymunedol ac
fe ymwelwyd â’r eiddo ar 22 Chwefror;
·
Gofyn i’r Pwyllgor un
ai wrthod y cais neu ohirio er mwyn rhoi cyfle i’r grŵp sefydlu menter
gymunedol.
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod amser wedi newid gyda’r
dafarn wedi cau tair gwaith yn y blynyddoedd diweddar;
·
Ddim wedi derbyn cefnogaeth yn
lleol i’r fenter pan oedd y dafarn ar agor;
·
Bod Pwyllgor y Neuadd Bentref
yn edrych i mewn i gael bar a chynhelir partïon yno eisoes;
·
Bod y dafarn wedi ei hysbysebu
ar werth yn ddigonol;
·
Ni ddylid gadael i’r adeilad
fynd yn adfail;
·
Nid oedd y gwrthwynebydd wedi
cychwyn y gwaith o sefydlu menter gymunedol.
(ch) Nododd aelod y dylid gwrthod y cais oherwydd ei fod yn cymryd
amser i sefydlu menter gymunedol ac nid oedd digon o amser wedi ei roi i’r
grŵp cymunedol, felly dylid rhoi cyfle iddynt godi arian cyn symud ymlaen.
Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yr eiddo ar y
farchnad ers 2011 felly fyddai’n anodd amddiffyn gwrthodiad ar y sail yma mewn
apêl. Nododd ei fod yn opsiwn i ohirio’r cais er mwyn rhoi mwy o amser i’r
grŵp cymunedol ond roedd rhaid penodi amserlen oherwydd bod risg o ran
diffyg penderfynu o fewn y cyfnod statudol. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod,
nododd y rhoddwyd amserlen o 4 wythnos yng nghyswllt cais cynllunio cyffelyb.
Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er
mwyn rhoi cyfle i’r grŵp cymunedol dystiolaethu eu bwriad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Pe byddai’r cais yn cael ei ohirio, a fyddai’n
bosib derbyn gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf lle drafodir y cais o ran apêl y
grŵp cymunedol?
·
Cydymdeimlo efo’r ddwy ochr. Byddai’n bechod colli
adnodd cymunedol felly’n deall yr angen i roi mwy o amser i’r grŵp
cymunedol ond bod angen tystiolaeth bod cefnogaeth yn lleol gyda chyfarfod
cyhoeddus wedi ei gynnal ac achos busnes a rhaglen waith yn ei le yn ogystal a
gwybodaeth am unrhyw gynnig a wnaed;
·
Fe allai’r adeilad fod yn hwb cymunedol o ystyried nad oedd siop na swyddfa bost yn lleol. Roedd menter
gymunedol o’r fath yn cymryd amser, a pe byddai’r cais yn cael ei ohirio, mawr
obeithio y byddai tystiolaeth gadarnhaol gerbron y Pwyllgor y tro nesaf;
·
Y byddai’n bechod gadael yr adeilad ddirywio;
·
A fyddai mis yn gyfnod digonol i’r grŵp
cymunedol tystiolaethu eu bwriad?
·
Pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, a fyddai’r
defnydd fel tafarn yn dod i ben yn syth?
·
Bod angen ystyried os oedd y defnydd fel tafarn yn
hyfyw. ‘Roedd y gwrthwynebydd wedi nodi bod y dafarn ar agor yn y cyfnod cyn
cau am oriau cyfyngedig;
·
Nid oedd mis yn ddigonol, o ystyried amserlen
cyfarfodydd y Pwyllgor byddai 6 wythnos yn synhwyrol.
(d) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Ei fod yn deg gweld
tystiolaeth o fwriad y grŵp cymunedol gan gynnwys tystiolaeth o ran
prynu’r eiddo;
·
Byddai’r defnydd
fel tafarn yn dod i ben pan weithredir ar y caniatâd cynllunio gan gychwyn y
gwaith o drosi’r adeilad i dŷ.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r grwp cymunedol dystiolaethau eu bwriad ac i ail-gyflwyno’r cais i’r Pwyllgor mewn 6 wythnos.
Dogfennau ategol: