Datblygiad preswyl I gynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol ynghyd â mynedfeydd cysylltiedig a pharcio.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Elwyn Jones
Cofnod:
Datblygiad
preswyl i gynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol ynghyd â
mynedfeydd cysylltiedig a pharcio.
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y datblygiad ar gyfer
angen lleol, llecynnau parcio ar y safle sydd
ar gyrion gogleddol pentref Rhiwlas. Lleolir y safle oddi allani’r ffin
ddatblygu fel y’i cynhwysir yn
y Cynllun Datblygu Lleol ond ei
fod yn cyffwrdd
yn union â’r ffin a gellir ei
ystyried felly, fel safle eithrio.
Cyfeiriwyd at y polisiau
perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r broses ymgynghori statudol a oedd wedi eu
nodi yn yr adroddiad. Derbyniwyd
gwrthwynebiadau yn seiliedig bod y safle tu allan i’r ffin datblygu; gosod cynsail; colli llecyn gwyrdd;
aflonyddwch yn ystod oriau gweithio ar y safle; diffyg tystiolaeth o angen
lleol; effaith ar yr iaith Gymraeg; gwendid unrhyw amodau parthed tai
fforddiadwy; effeithio’n andwyol ar isadeiledd y pentref.
Nodwyd bod egwyddor o godi tai fforddiadwy ar y safle
arbennig hwn wedi ei selio ym Mholisi TA116 o’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n
nodi bod yn rhaid i ddatblygiad ar ymyl ffin datblygu fod ar gyfer 100% tai
fforddiadwy os gellir dangos bod angen lleol wedi ei brofi am dai fforddiadwy
na ellir ei gyfarch o fewn amserlen resymol ar safle marchnad tu mewn i’r ffin
datblygu. O ystyried yr asesiad ac yn
ddarostyngedig i’r bwriad gydymffurfio gyda’r polisïau eraill y cyfeirir atynt
yn yr adroddiad a chymryd i ystyriaeth sylwadau’r Uned Strategol Tai’r Cyngor,
credir bod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor. Nodwyd bod cynllun y datblygiad
arfaethedig yn fwriadol dilyn patrwm rhubanog y rhan yma o’r pentref ac er bod
edrychiadau cyfoes i’r tai mae’r deunyddiau allanol yn adlewyrchu deunyddiau
allanol tai cyffelyb gerllaw. O safbwynt
mwynderau cyffredinol a phreswyl, ni ystyrir bydd unrhyw or-edrych sylweddol yn
cael ei greu. Er cydnabyddir bydd rhywfaint o aflonyddwch yn deillio o’r
datblygiad yn ystod y gwaith adeiladu rhaid ystyried mai am gyfnod dros dro yn
unig fyddai. Yng nghyd-destun materion
trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod trefniant mynedfeydd a pharcio arfaethedig
yn dderbyniol i’r Uned Drafnidiaeth yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
perthnasol.
Byddai angen i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb cyfreithiol
er mwyn rhwymo’r 5 tŷ i dai fforddiadwy ac ar hyn o bryd ei fod mewn
trafodaethau gyda chymdeithas dai cofrestredig i gymryd perchnogaeth o’r tai
i’r dyfodol.
O ystyried yr holl faterion perthnasol, yr holl sylwadau
a’r gwrthwynebiadau dderbyniwyd, argymhellir i ganiatáu’r cais.
(b) Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):
·
bod y datblygiad
arfaethedig wedi ei leoli tu allan i’r ffin ddatblygu ac yn gais gan ddatblygwr
ac nid unigolyn yn chwilio am dŷ
·
atgoffwyd y Pwyllgor
Cynllunio o’r ffiniau osodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol llai na blwyddyn yn
ôl a’u bod wedi eu cynnwys ynddo am reswm, ac wedi ei gymeradwyo ar gost
aruthrol i’r Cyngor
·
bod 80% o dai Rhiwlas yn
rhai 3 llofft ac nad oedd gwir angen mwy o dai cyffelyb ond yn hytrach dylid
ystyried byngalos ar gyfer henoed sydd yn byw mewn tai 3 llofft ac yn awyddus i
is-raddio i dai llai
·
nad oedd synnwyr i
ganiatáu datblygiad tai fforddiadwy os nad oedd gwir angen y tai
·
bod 3 lecyn eisoes wedi
cael eu clustnodi ar gyfer adeiladu yn y Cynllun Datblygu Lleol ac ymgeisydd y
cais gerbron yn berchen un o’r llecynnau hyn
·
apeliwyd i’r Pwyllgor
Cynllunio wrthod y cais
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio, yn gyffrediniol dylai
pob datblygiad fod o fewn y ffin datblygu, ond bod eithriadau, er enghraifft
amgylchiadau amaethyddiaeth ac yn fwy perthnasol datblygiadau sydd yn cyffwrdd
â’r ffin cyn belled a’i bod yn ymestyniad a bod tystiolaeth o angen. Nodwyd bod polisi tai yn caniatau’r
math yma o ddatblygiad yn unol â thystiolaeth o angen.
(ch) Nododd Aelod ei fod yn rhannu pryderon yr
Aelod Lleol o ran natur demograffeg y pentref ac roedd yn amlwg bod tanddefnydd o dai cymdeithasol eisoes yn y pentref. ‘Roedd
yr aelod o’r farn y dylid derbyn tystiolaeth o angen ac awgrymodd gohirio
cymryd penderfyniad ar y cais er mwyn gofyn i’r datblygwr gyflwyno tystiolaeth
o’r angen am y math yma o dai, ar draul unedau un / dwy lofft. Nododd Aelod arall y byddai’n fuddiol derbyn
gwybodaeth bellach gan y gymdeithas cymdeithasol cofrestredig ynglyn â rhestr aros am dai cymdeithasol yn yr ardal ynghyd
â chadarnhad y byddent yn ymrwymo fel landlordiaid i’r datblygiad
arfaethedig.
(d) Cynigwyd ac eilwyd
i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais a gofyn am dystiolaeth cadarn ynglyn â’r angen am y tai arfaethedig.
(dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gofynnwyd a
fyddai modd i’r Adran Gynllunio gyflwyno ffigyrau o’r ceisiadau am dai sydd eisoes
wedi eu caniatáu a’r hyn sydd yn weddill er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r
dyraniad dynodedig yn y Cynllun Datblygu Lleol
Mewn ymateb i’r sylw uchod, nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio y bydd sustemau mewn lle ar gyfer tracio ceisiadau sydd yn
cael eu caniatáu ac fe fyddir mewn sefyllfa i adrodd yntai
i’r Pwyllgor Cynllunio neu mewn sesiynau hyfforddiant i’r dyfodol.
Penderfynwyd: Gohirio cymryd penderfyniad ar y cais a
gofyn i’r Uwch Reolwr Cynllunio:
(i)
ofyn i’r datblygwr am dystiolaeth o wir angen am dai
cymdeithasol 3 llofft ym mhentref Rhiwlas;
(i)
dderbyn cadarnhad os oes gan gymdeithas dai cymdeithasol cofrestredig
ddiddordeb yn yr unedau neu beidio ynghyd a gwybodaeth am restrau aros am dai
cymdeithasol yn yr ardal
Dogfennau ategol: