Dymchwel yr adeiladau presennol a codi 8 tŷ fforddiadwy ynghyd â creu mynedfa a lecynnau parcio.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Menna Baines
Cofnod:
Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod
y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr.
Dymchwel
yr adeiladau presennol a codi 8 tŷ fforddiadwy ynghyd â creu mynedfa a
llecynnau parcio.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod bwriad
i’r datblygwr drosglwyddo’r eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig sef Cartrefi Cymunedol Gwynedd.
Mewn ymateb i’r
sylw uchod, nododd yr Uwch
Gyfreithiwr nad
oedd yn bosibl
trosglwyddo’r eiddo i gwmni penodol
sef CCG yn yr achos hwn
ac y byddai’n rhaid addasu argymhelliad y swyddogion cynllunio i adlewyrchu hynny.
Tywyswyd y Pwyllgor Cynllunio drwy gynnwys yr
adroddiad gan gyfeirio at y polisiau perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn seiliedig ar
yr angen am fwy o dai fforddiadwy;
effeithiau andwyol ar ddiogelwch ffyrdd;
effaith ar fwynderau trigolion lleol; gor-ddatblygiad; llecynnau parcio annigonol; problemau anghymdeithasol; cymeriad y tai ddim yn gweddu
i’r ardal. Nodwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac ni ystyrir
y byddai’r tai arfaethedig yn creu strwythurau
gormesol nac anghydnaws ar sail eu ffurf, gosodiad
a’u dyluniadau.
Tynnwyd sylw at faterion cyffredinol a phreswyl, materion addysgol a materion trafnidiaeth a mynediad. O ystyried yr holl faterion
perthnasol yn ogystal â’r holl
wrthwynebiadau a sylwadau dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol.
(b) Nododd yr Aelod
Lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei bod yn
gefnogol i’r cais a bod Cyngor Cymuned Pentir yn gefnogol hefyd. Amlygodd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod y datblygiad yn cynnig 8 uned
ac nid 8 tŷ gan ei fod
yn ddarn bach o dir
·
Bod rhestr aros am dai ym
Mangor gyda 40 o unigolion angen fflat un llofft a 68 yn aros am dŷ
3 llofft ac o ystyried mai 23 o unedau rhent cymdeithasol sydd ym Mhenrhosgarnedd
bod y cais i’w groesawu
·
Bod y datblygiad yn cynnig tai fforddiadwy
·
Bod y safle yn gyfleus i
gael unedau o fewn cyrraedd i
ganol Bangor, o fewn
cyrraedd
hwylus i Ysbyty Gwynedd, siop leol, a gwasanaeth bws cyson
·
Y byddai’r fflatiau llawr gwaelod ar gyfer
pobl hefo problemau symudedd
·
Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi cadarnhau bod y galw am y math yma o unedau yn
uchel iawn
·
Hyderir y bydd ysytriaeth yn cael
ei roi i
bobl leol
·
Deallir ni ellir cyfyngu’r tai i ward Pentir yn
unig a bod yr angen am dai yn
uchel yn y wardiau cyfagos sef Glyder a Dewi
·
Diogelwch a traffig – tra’n derbyn bod y traffig yn drwm yn
ystod dyddiau’r wythnos deallir na fydd y datblygiad
yn cyfrannu at ychwanegiad i’r ac yn wir all helpu’r
achos oherwydd bydd y fynedfa yn cael ei
lledu, ynghyd â’r encilfa
·
Deallir na fydd y llwybr cyhoeddus
yn ymyrryd ar y datblygiad ac yn ei wneud
yn fwy diogel
i gerddwyr a beicwyr
·
Derbynnir y bydd edrychiad yn gweddu i’r
ardal
·
Mai datblygwr lleol fydd yn
adeiladu’r datblygiad ac sydd yn cyflogi
6 o bobl ac yn gwmni sydd yn
is-gontractio yn lleol
·
Bod y datblygiad yn ateb yr
angen lleol ac yn debygol o ddod
a budd i’r gymuned leol
(c) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r
cais.
PENDERFYNWYD yn unfrydol dirprwyo’r hawl i’r
Uwch reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb o dan Adran 106 er
mwyn trosglwyddo’r holl dai i
reolaeth landlord cymdeithasol
rhestredig ac i’r amodau isod:-
1.
5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau.
3.
Llechi naturiol/deunyddiau.
4. Priffyrdd.
5. Bioamrywiaeth.
6. Dŵr Cymru.
7. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir (estyniadau a ffenestri).
8. Tirlunio.
Dogfennau ategol: