Agenda item

Cais i godi 10 uned fforddiadwy.

 

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr.

 

          Cais i godi 10 uned fforddiadwy.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar dir sydd yn eu perchnogaeth, sydd wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Cricieth ac wedi ei ddynodi yn lecyn chwarae.  Gohirwyd penderfynu ar y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Tachwedd 2017 oherwydd diffyg cworwm a bellach nodwyd bod y cais wedi ei ddiwygio i ddarparu palmant a man croesi ar y B4411 a llecyn agored o fewn y safle.  Cyfeirwyd at y ffurflen sylwadau hwyr a oedd yn nodi nad oedd y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais.  Nodwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol gan bod y cynllun safle wedi ei ailwampio ar gyfer darparu llecyn agored / chwarae 261 medr sgwâr o fewn y safle.  Byddai’r llecyn agored yn cael ei ddefnyddio ac yn cynnig budd gwell i’r gymuned na’r tir gwag sydd yn bodoli ar hyn o bryd.  Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn gefnogol i’r bwriad a phryderon gwreiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn â llifogydd bellach wedi eu datrys drwy amodau perthnasol.  Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatáu gydag amodau priodol ynghyd ag amod datblygiad a ganiateir (permitted development) ac amod tai fforddiadwy.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         bod y datblygiad arfaethedig wedi ei leoli ar dir sydd wedi ei ddynodi yn lecyn agored ond pwysleisiwyd bod y tir yn segur ac wedi gordyfu yn wyllt ers dros 15 mlynedd

·         bod y tirwedd yn wael ac angen gwario swm sylweddol i’w ail-ddatblygu fel cae chwarae ac nid oedd ffynhonellau arian ar gyfer y math yma o ddarpariaeth ac nad oedd bwriad i greu maes chwarae ar y llecyn

·         fodd bynnag, nodwyd bod cyfle i ddatblygu’r safle ar gyfer tai fforddiadwy drwy ddefnydd ffynhonnell grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru

·         yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Adran Gynllunio, dangosir darpariaeth o lecyn chwarae ar y cynlluniau a thynnwyd sylw bod lle chwarae gyferbyn tua 500 medr o’r safle arfaethedig ac ymrwymir i ddarparu croesfan i blant fedru croesi’r ffordd fydd o fudd i’r tenantiaid newydd a hefyd i breswylwyr a phlant stad Waen Helyg

·         bod dros 130 o unigolion wedi cofrestru ar restr Tim Opsiynau Tai Gwynedd sydd yn cynnwys eiddo fforddiadwy 2 / 3 llofft yng Nghricieth

·         byddai’r cais yn fodd o ddatblygu tai modern, cynaliadwy ac yn cyfarch yr angen yn lleol 

 

(c)       Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Nododd Aelod tra ei fod yn gefnogol i’r cais o ran egwyddor, nid oedd yn hapus gyda’r cyfleusterau chwarae a phwysleisiwyd bwysigrwydd i blant fedru chwarae yn ddiogel yn eu hardaloedd.  ‘Roedd dan yr argraff bod unrhyw ddatblygiad i fod i hyrwyddo mannau chwarae diogel a gofynnwyd faint o gyllid a roddir gan y datblygwr i wella’r cyfleusterau chwarae yn sgil amddifadu’r ardal o’r llecyn agored/chwarae hwn. 

 

Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio at baragraff 5.7 o’r adroddiad ac ychwanegodd nad oedd bwriad i ofyn am gyfraniad ariannol oherwydd bod bwriad gan y datblygwyr i ddarparu 261 medr sgwâr o lecyn agored ar y safle sydd yn ddigonol a’r ffaith bod bwriad i wella’r cyswllt troed gyda’r ddarpariaeth chwarae sydd wedi ei leoli dros y briffordd i’r safle.     

 

PENDERFYNWYD caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

1.    5 mlynedd

2.    Cwblhau yn unol â’r cynlluniau

3.    Llechi

4.    Gorffeniad

5.    Amodau Priffyrdd

6.    Amod sicrhau cwblhau’r palmant a’r groesfan cyn preswylio’r tai

7.    Amodau lefel llawr gorffenedig

8.    Mesurau lliniaru ystlumod

9.    Tirlunio a manylion ffin

10.  Cytuno ar gynllun i warchod ymlusgiaid

11.  Cytuno ar goed i’w gwaredu o flaen llaw.

12.  Gwaredu llysiau’r dial

13.  Cynllun draenio

14.  Amod datblygiad a ganiateir

15.  Amod tai fforddiadwy

Dogfennau ategol: