Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Strategol penodol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at y Prosiect Gwynedd Digidol, holwyd a fyddai’n bosib’ ymestyn y band eang yn ysgolion gwledig y sir i adeiladau a thrigolion cyfagos fel bod y gymuned ehangach yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth.  Nododd y Cadeirydd fod hwn yn bwynt y gellid edrych i mewn iddo.  Gofynnwyd hefyd am sicrwydd y bydd y Cyngor yn dwyn pwysau ar BT Openreach i sicrhau bod band eang cyflym yn cyrraedd yr holl ardaloedd gwledig.  Nododd y Cadeirydd fod hynny’n fater fydd yn cael sylw.

·         Gan gyfeirio at y templed Cynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn Atodiad 2, nododd aelod iddi dderbyn cŵyn yn ddiweddar bod y pecyn priodi ar gyfer cyplau un rhyw yn cynnwys y geiriau ‘priodferch’ a ‘phriodfab’ wedi’u croesi allan a ‘phartner 1’ a ‘phartner 2’ wedi’u gosod yn eu lle, a hefyd yn cynnwys y geiriau ‘ef’ a ‘hi’.  ‘Roedd ar ddeall hefyd nad oedd yna gyfle i rywun dywys y partneriaid i lawr yr eil.  Ychwanegodd fod hyn yn eithrio pobl a gofynnodd am i’r mater gael ei drafod mewn pwyllgor craffu.  Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd bod y rhain yn faterion y tu allan i’r Cynllun Strategol, ond yn faterion sydd angen sylw, ac y byddai’r neges yn cael ei phasio ymlaen i’r adran berthnasol.

·         Llongyfarchwyd y Cabinet a’r swyddogion ar y Cynllun Strategol.  Nodwyd bod y ffocws yn glir iawn yn y ddogfen a chytunwyd mai dyma’r prif feysydd y dylai’r Cyngor fod yn edrych arnynt yn strategol dros y cyfnod hynod o heriol sydd i ddod.

·         Gofynnwyd i’r swyddogion wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Gwynedd yn elwa ar gyfran deg o’r £9m o arian Rhaglen Datblygu Gwledig a glustnodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd a chymunedau gwledig.  Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei basio ymlaen i’r Cabinet.  Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus ei fod yn denu cymaint â phosib’ o arian o gronfeydd Ewrop.  ‘Roedd record Cyngor Gwynedd yn y maes yma’n arbennig o dda a diau y byddai’r gwaith hwnnw’n parhau er sicrhau cymaint o fudd ag y gellir i economi wledig y sir.

·         Nodwyd bod rhaid i’r Cyngor ei hun gymryd camau i gryfhau’r economi leol, ond ‘roedd y system gynllunio bresennol yn milwrio yn erbyn datblygiadau economaidd, a phwysleisiwyd y dylai’r Cyngor allu cefnogi busnesau bach yn eu bro eu hunain, yn hytrach na’u gyrru i stadau diwydiannol yn y trefi.  Cytunodd y Dirprwy Arweinydd â’r sylw gan nodi bod gweithgor o un o’r pwyllgorau craffu yn edrych i mewn i’r sefyllfa er mwyn gweld sut y gellir creu trefn gynllunio gadarnhaol sy’n annog, yn hytrach nag yn rhwystro, yr economi.

·         Nodwyd bod agor ysgol newydd Y Groeslon wedi golygu cau ysgol Carmel, oedd â dros 60 o ddisgyblion ynddi, a bod yna rwyg yn y pentref oherwydd cau’r ysgol gan fod llawer o blant Carmel bellach yn mynd i Benygroes. 

·         Croesawyd yr adroddiad ond nodwyd ei fod yn codi llawer mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb.  Croesawyd y ffaith bod gan y Cyngor dargedau i anelu atynt, ond cwestiynwyd pa mor realistig ac ymarferol yw llawer ohonynt, e.e. y bwriad i sefydlu Ysgol Dalgylch y Gader fel ysgol cyfrwng Cymraeg.  Nodwyd nad oedd y ddogfen yn cyfeirio at yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn Y Bala chwaith.  Hefyd, ni dderbynnid y gosodiad yn yr adran Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai bod Gwynedd yn bell o’r ardaloedd mawr.  Er bod Gwynedd ar ymylon y Deyrnas Gyfunol, nid oedd yn bell o’r ardaloedd poblog, megis Lerpwl a Manceinion, ac ‘roedd yn ymddangos nad oedd yna ewyllys gwleidyddol i fanteisio ar agosrwydd Gwynedd at y marchnadoedd yma.  ‘Roedd y rhan yma o’r cynllun hefyd yn sôn bod 1,993 o bobl wedi eu cofrestru ar restr aros am dŷ cymdeithasol.  A chymryd bod y ffigur hwn yn cyfeirio at deuluoedd yn hytrach nag unigolion, ac o gymryd bod yna 3 person ymhob teulu ar gyfartaledd, ‘roedd yn ymddangos felly bod oddeutu 6-7,000 o bobl angen tŷ cymdeithasol yng Ngwynedd.  ‘Roedd sôn hefyd yn y cynllun am gynnydd arwyddocaol yn nifer busnesau’r sir sydd wedi ennill cytundebau gan y Cyngor, ond beth mae ‘arwyddocaol’ yn ei olygu?  Cyfeiriwyd at y ffaith bod ysgol yng Ngwynedd yn gweini cig eidion o Fotswana a gweithwyr tramor yn cael eu cyflogi ar brosiect i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ardal Deiniolen, a chyn hynny yng Ngharmel, a chwestiynwyd faint o flaenoriaeth mae’r Cyngor yn ei roi i gyflogi’n lleol.  Croesawyd y ffaith bod yna adran benodol i’r Gymraeg yn y cynllun, ond pwysleisiwyd y dylai hyn fod yn rhan o bob un adran arall yn ogystal fel ei fod yn greiddiol i’r adroddiad drwyddo draw, ac nid yn sefyll ar ei ben ei hun.  Deellid hefyd bod y Cyngor wedi colli £500,000 o incwm budd-dâl tai, ond nid oedd yr aelodau wedi derbyn unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny.  Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelod a gododd y pwyntiau hyn grisialu’r cwestiynau’n gryno a gofyn i’r Aelod Cabinet am atebion.

·         Nodwyd bod y Cynllun Strategol yn ceisio adnabod y meysydd lle gellir dylanwadu arnynt a gwneud gwahaniaeth gyda’r adnoddau a’r grym sydd gan y Cyngor.  ‘Roedd y dyddiau lle’r oedd y sector gyhoeddus a’r cyngor lleol yn cymryd y baich ar gyfer popeth wedi diflannu ac ‘roedd angen i’r cynghorwyr chwarae eu rôl fel aelodau lleol er mwyn ceisio harneisio’r adnodd fydd ar ôl.

·         Pwysleisiwyd nad oes gan y Cyngor bwerau i atal gweithwyr tramor rhag dod i mewn a bod hynny’n fater sy’n dod o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

·         Nodwyd na all y Cynllun Strategol, fel mae’n sefyll, ddelio gyda’r arferiad cyson a’r patrwm cyson o dlodi gwledig sydd wedi bod yn rhan o’r drefn ers llawer gormod o amser, ond dylid canmol y cynllun gan ei fod yn symudiad i’r cyfeiriad iawn.

 

I gloi, nododd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn gwerthfawrogi’r sylwadau ar y Cynllun Strategol, oedd yn gynllun byw, a chadarnhaodd y rhoddid ystyriaeth i ymgorffori’r sylwadau hynny ynddo, neu i’w gweithredu fel mater o ddydd i ddydd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Strategol.

 

Dogfennau ategol: