Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet

         

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor yn gofyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys Cynllun Llesiant (drafft) Gwynedd a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau. Eglurwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddilyniant o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a bod awydd a phenderfyniad i weithredu yn wahanol i’r Bwrdd blaenorol i sicrhau gwahaniaeth. Adroddwyd mai cam cyntaf y broses oedd cyhoeddi cynllun llesiant oedd yn amlinellu sut y bwriedir gwella llesiant trigolion y ddwy Sir. Ategwyd bod cyfnod o dri mis o ymgynghori statudol ar y cynllun oedd yn amlinellu’r egwyddorion yn fras (fyddai yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth) ac yn dilyn y cyfnod yma bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion cyn llunio Cynllun Llesiant terfynol.

 

Amlygodd yr Arweinydd, fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ei fod yn edrych ymlaen at greu partneriaethau newydd fyddai yn datblygu prosiectau. Derbyniwyd y gall fod yn ddiwydiant  ‘creu geiriau’, ond yr ewyllys yw gweld canlyniadau drwy ymateb i’r her o weithio mewn dulliau gwahanol. Gyda dyfodiad yr ardaloedd llesiant hyn yn galluogi canolbwyntio o few ardaloedd penodol - adnabod anghenion ardaloedd gwahanol - anelu gwaith i’r mannau sydd angen sylw.

 

Pwysleisiwyd mai un o’r partneriaid yw Cyngor Gwynedd ac mai penderfyniad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fydd cynnwys y cynllun terfynol.

 

Ategwyd bod ymdrech i greu dogfen ddealladwy fyddai yn cynnal sgwrs gyda chymunedau drwy geisio diffinio lles. Anogwyd yr Aelodau i annog pobl i wneud sylwadau ar y ddogfen ymgynghori.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod y ddogfen yn un i’w chroesawu sydd yn adnabod materion a dyheadau dealladwy.

·         Anodd yw cyfarch a gweithredu. Er canmol yr hyn sydd angen sylw, dim adnodd i weithredu.

·         Methiant nad oedd datrysiadau e.e., elfennau o annog cydweithio, wedi eu cynnwys. Dechrau da, ond angen gosod targedau ac ymgysylltu yn effeithiol.

·         Angen cynnig rhesymau i bobl aros yng Ngwynedd

·         Y ddogfen yn gosod sylfaen dda ond dim gwerth os nad oes gweithrediad.

·         Bydd rhaid newid diwylliant os am weithredu yn effeithiol

·         Croesawu gwaith ymchwil cefndirol da sydd yn gosod sylfaen i symud ymlaen

·         Derbyn bod angen gosod blaenoriaethau megis yr Iaith Gymraeg, Iechyd a Thlodi, ond angen gweld grymuso cymunedau yn ganolig i bob dim gan ystyried prosiectau fyddai’n arbed arian.

·         Gweithredu ar gyflwyniad deddfau Llywodraeth Cymru ond dim adnodd i weithredu.

·         Swyddi o safon uchel yn allweddol, ond dim awgrym sut i’w cael.  Canolrif cyflog Môn yn uwch na ffigwr Cymru gyfan – sut all Môn, fel Sir gyfochrog, fod gymaint uwch na Gwynedd? Gofynwyd am wybodaeth manwl gan yr Uwch Reolwr Cefngoaeth Gorforaethol.

·         Bod yr economi yn hanfodol bwysig.

·         Cyllid yn ffactor sydd yn cyfyngu'r gallu i gyflawni - angen ceisio meddwl mewn dulliau gwahanol

·         Rhaid blaenoriaethu swyddi gwerth uchel a chyflenwad tai i annog pobl i aros yn lleol

·         Awgrym creu Pencampwr Swyddi

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r economi, eglurwyd bod y Cyngor wedi adnabod bod cydweithio ar draws y Gogledd yn gweithio, ond o safbwynt adfywio cymunedol, derbyniwyd nad oedd digon o sylw wedi ei roi i’r mater. Cyfeiriwyd at strategaeth y Gweinidog lle amlygir yr angen am economi sylfaenol a bod swyddi unigol bach yn cynnal cymdeithasau. Er canolbwyntio ar y cynlluniau mawr e.e., Twf, rhaid edrych ar yr ardaloedd gwledig i gynnal yr economi sylfaenol, a chanfod cynlluniau a thargedu cymorth economaidd.

 

Cytunwyd bod cyllid yn ffactor sy’n cyfyngu'r hyn sydd eisoes yn uchelgeisiol a’r hyn sydd angen ei gyflawni, ond rhaid ystyried dulliau sydd ddim yn gofyn am arian sylweddol ond yn cael effaith cystal. Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau fydd  datblygu ffyrdd o weithio yn wahanol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phrosiectau Hamdden a dyfodiad Bwrdd Hamdden newydd i Wynedd, nodwyd petai unrhyw brosiect yn ymwneud â hamdden yn cael ei ystyried, y bwriad fydd gwahodd cynrychiolaeth Hamdden i’r trafodaethau i ddatblygu prosiectau fyddai’n berthnasol i’r maes. Y bwriad yw adnabod partneriaid ar gyfer prosiectau unigol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryd fydd y cynllun gweithredu yn cael ei gyflwyno, adroddwyd bod y fersiwn derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn ar y 3ydd o Fai 2018. Yn dilyn hynny bydd angen creu amserlen i weithredu. Ategwyd na fyddai dogfen bwrpasol yn cael ei chreu, ond y bwriad fydd cyhoeddi amserlen fesul cynllun.

 

Nodwyd bod y cynllun yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Derbyniwyd bod dyletswydd statudol ar y Pwyllgor Craffu i graffu cynnwys y ddogfen fel rhan o’r broses o ddatblygu’r cynllun. Nodwyd dymuniad y Pwyllgor i’r Bwrdd Gwasanaethau raglennu amserlen bendant i’r cynllun a chael eu diweddaru ar hyd y broses drwy dderbyn adroddiadau cynnydd.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad

 

 

Dogfennau ategol: