Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod i bob pwrpas yn adrodd ar y sefyllfa ddiweddaraf a bod y polisi ei hun heb ei addasu. Byddai unrhyw newidiadau tebygol i’r polisi, yn ganlyniad i drafodaethau gyda’r undebau ar hyn o bryd i gyrraedd targed effeithlonrwydd, yn cael eu gweithredu yn ystod y flwyddyn. Yn ychwanegol, amlygwyd nad oedd trafodaethau cenedlaethol wedi eu cynnal hyd yma i drafod cyflogau prif weithredwyr a phrif swyddogion. Byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i gytundeb cenedlaethol ar gyflogau staff, fydd yn debygol o ddilyn yr un trywydd a’r hyn fydd wedi ei gytuno ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol yn gyffredinol.

 

 

Cyfeiriwyd at y cynnig presennol gan y cyflogwr yn genedlaethol i godi cyflogau gweithwyr llywodraeth leol am y ddwy flynedd nesaf. Nodwyd petai’r cynnig yn cael ei dderbyn, bod rhagolygon y byddai isafswm cyflog Cyngor Gwynedd yn uwch na’r Cyflog  Byw (Sefydliad Cyflog Byw) erbyn 1af Ebrill 2019. Eglurwyd mai canran fechan o staff y Cyngor sydd yn parhau i dderbyn cyflog is na’r hyn adnabyddir fel Cyflog Byw (8.75 yn bresennol).

 

Cyfeiriwyd hefyd at y trafodaethau adeiladol a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr yr undebau ynglŷn â newidiadau i elfennau o’r amodau gwaith lleol. Adroddwyd nad oedd modd cynnal balot gan nad oedd Swyddfa Genedlaethol Unsain yn caniatau i’r gangen leol roi’r cynnig gerbron aelodau mewn balot oherwydd y byddai’n arwain at ddirywiad mewn amodau gwaith. O ganlyniad bu i’r Cyngor ohebu yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff fyddai’n cael ei heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i bwrpas ymgynghori.

 

Tynnwyd sylw at y newidiadau arfaethedig o fewn y cynnig a phwysleiswyd y byddai’n ofynnol diweddaru cynnwys y Polisi Tal yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau a gymeradwyir maes o law.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol am y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflogau gofalwyr sydd yn gweithio oriau gyda’r nos a’r cynnig i ddod a’r taliad ychwanegol am weithio rhwng 8 a 10pm i ben, adroddodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda’r Pennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant ynglŷn â’r newid arfaethedig hwn gan y byddai carfan o weithwyr gofal yn cael eu heffeithio..

 

Eglurodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod angen cysoni’r taliad am weithio yn ystod y dydd hyd 10pm a derbyniodd ei fod yn ymddangos ar yr wyneb bod staff sydd yn gweithio rhwng 8 - 10pm am fod ar eu colled, Fodd bynnag, pwysleisiodd bod angen edrych ar y darlun yn ehangach h.y. yn wyneb y gytundeb cenedlaethol ar godi cyflogau. Eglurodd y bydd cynnydd sylweddol uwch i gyflogau ar waelod y strwythur tal o gymharu â chytundebau gweddill staff y Cyngor, sef codiad fydd uwchben y 2% sydd wedi ei gynnig gan y cyflogwr i’r rhan helaethaf o swyddogion ac y byddai hyn yn arwain at raddfa yr awr o £9.55 yr awr oddi ar y 1af o Ebrill i’r rhan fwyaf o ofalwyr a gyflogir gan y Cyngor.

 

Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet yn fyw i’r trafferthion yn Ne'r Sir i recriwtio gofalwyr a bod hyn wedi ei gyfarch fel rhan o Gynllun y Cyngor. Gan dderbyn bod y cyflogau sylfaenol yn mynd i gynyddu, nodwyd bod angen ystyried rhywbeth ychwanegol y gellid ei wneud i gynyddu nifer gofalwyr a bod gwaith wedi ei gomisiynu i geisio deall natur y broblem a cheisio datrysiad.

 

Croesawyd codiad cyflog fyddai yn uwch na’r Cyflog Byw, ond dadleuwyd y byddai’r Cyflog Byw wedi codi ymhellach erbyn 2019 ac o ganlyniad y Cyngor mewn sefyllfa o geisio dal i fyny. Mewn ymateb, nododd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, o dderbyn y cynnig yn genedlaethol bydd isafswm Cyngor Gwynedd yn £8.62 oddi ar Ebrill 2018 (13c yn fyr o'r Cyflog Byw presennol), ond erbyn Ebrill 2019, nododd y byddai’r Cyngor yn talu uwchben y Cyflog Byw am y tro cyntaf erioed (hyd yn oed gan gymryd y cynnydd tebygol yn y Cyflog Byw oddi ar y 1af o Dachwedd i ystyriaeth). Derbyniwyd bod elfen o ddal i fyny am gyfnod wedyn i’r dyfodol yn bosibl, ond atgoffwyd yr Aelodau bod Cyngor Gwynedd wedi dileu dau bwynt isaf oddi ar y strwythur tal cenedlaethol a bod hynny’n gymorth i barhau i dalu’r Cyflog Byw i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i’r pryder, y byddai gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ffyrdd yn gweld lleihad yn y ‘taliad ar ddyletswydd’, amlygodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd  gweithwyr ffyrdd a gweithwyr cymdeithasol yn derbyn y taliad  uchaf yma. Ategwyd mai ychydig dros 100 o staff sydd yn derbyn y taliad uchaf (£265.88 yr wythnos) oherwydd eu bod ar gael i wneud y penderfyniadau hynny ynglŷn â pha weithrediad sydd ei angen mewn argyfwng. Byddai lleihau'r taliad i £200.00 yr wythnos yn sicrhau arbediad o ddegau o filoedd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd ‘ychwanegiad y farchnad’, adroddwyd bod y cymal yma wedi bod yn rhan o’r Polisi ers 2008. Nodwyd mai ychydig iawn o ddefnydd (dim mwy na 10 enghraifft) sydd wedi ei wneud o’r ychwanegiad a hynny  er mwyn cadw arbenigedd o fewn y Cyngor neu allu recriwtio arbenigedd i’r Cyngor. Eglurwyd bod y cymal yn cael ei adolygu yn flynyddol fel na bod modd talu uwchben y farchnad fel mae amser yn mynd yn ei flaen. Yn ychwanegol, ategwyd nad cyflog yn unig yw'r rheswm dros fethu recriwtio a bod cynlluniau mewn bodolaeth ar gyfer datblygu arbenigeddau a sgiliau. Un ystyriaeth yw 'ychwanegiad y farchnad' a chaiff ei ystyried ar sail tystiolaeth ffeithiol sy’n gallu cyfiawnhau talu’r ychwanegiad.. Nododd y Prif Weithredwr bod pob enghraifft lle mae ‘ychwanegiad y farchnad‘ wedi ei ddefnyddio yn dueddol o sgiwio cyflogaeth fewnol ac felly pan gaiff ei ystyried rhaid pwysleisio'r angen am dystiolaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

DERBYNIWYD YR ADRODDIAD YN UNFRYDOL YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD.

 

·         Bod y Pwyllgor Penodi  yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor, ar Fawrth yr 1af 2018, fel un i’w fabwysiadu  ar gyfer 2018 / 19.

 

Dogfennau ategol: