Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd:

  1. Cymeradwyo mabwysiadu’r model o Glwb Ieuenctid Sirol, Opsiwn 3 gyda’r diwygiadau a nodir ym mharagraff 10.1 o’r adroddiad ar gyfer ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid
  2. Cymeradwyo ail-broffilio £24,800 o’r arbedion o 2018/19 I 2019/20 er mwyn cyfarch peth ariannu o’r mudiadau gwirfoddol yn 2018/19 fel nodir yn rhan 10.4.3 o’r adroddiad.
  3. Ymrwymo’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant i adrodd yn ôl i’r Cabinet bob pedwar mis ar gynnydd y gwasanaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd:

  1. Cymeradwyo mabwysiadu’r model o Glwb Ieuenctid Sirol, Opsiwn 3 gyda’r diwygiadau a nodir ym mharagraff 10.1 o’r adroddiad ar gyfer ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid
  2. Cymeradwyo ail-broffilio £24,800 o’r arbedion o 2018/19 I 2019/20 er mwyn cyfarch peth ariannu o’r mudiadau gwirfoddol yn 2018/19 fel nodir yn rhan 10.4.3 o’r adroddiad.
  3. Ymrwymo’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant i adrodd yn ôl i’r Cabinet bob pedwar mis ar gynnydd y gwasanaeth

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o resymau dros ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid. Nodwyd fod disgwyliad gan Lywodraeth Cymru fod Cyngor Gwynedd yn ail-fodelu’r gwasanaeth. Yn ychwanegol yn dilyn ymgynghoriad Her Gwynedd penderfynodd y Cyngor Llawn i dorri £200,000 o gyllideb y Gwasanaeth, ynghyd a chyflawni targed effeithlonrwydd o £70,000. O ganlyniad i hyn, mynegwyd eu bod yn amhosib i’r gwasanaeth barhau yn y strwythur sydd ar hyn o bryd.

 

Bu i ymgynghoriad gael ei gynnal gyda phobl ifanc, sydd wedi nodi eu bod eisiau model gwahanol. Bydd y strwythur newydd yn un arloesol a chyffroes a fydd yn rhoi'r un ddarpariaeth ieuenctid i bob person ifanc ar draws y sir.

 

Ychwanegwyd fod elfennau negyddol i’r ail-strwythuro, gan fod rhai o’r bobl ifanc eisiau parhau i fynychu eu clwb ieuenctid lleol. Nodwyd yn ogystal y bydd grantiau i gefnogi cyrff gwirfoddol sydd yn gweithio yn y maes yn terfynu ymhen 9 mis.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod gwaith ymgysylltu wedi ei wneud gyda’r bobl ifanc a bod dros 3,000 wedi cymryd rhan. Ymgynghoriad wedi pwysleisio fod pobl ifanc eisiau gweithwyr ieuenctid sydd ar gael yn gyson.

-        Teithio yw un o brif broblemau pobl ifanc, a sut bydd modd cael mynediad at y gwasanaeth. Bydd y model yma sicrhau fod y gweithiwr ieuenctid yn mynd allan at y bobl ifanc yn hytrach na'r bobl ifanc yn mynd at y gweithiwr.

-        Rhai ardaloedd am i’r clybiau barhau yn eu cymunedau, nodwyd fod angen gwneud gwaith ymgysylltu yn lleol i weld os yw’r Cynghorau Cymuned yn awyddus i gymryd y clwb neu wirfoddolwyr. Ychwanegwyd y bydd staff ar gael i roi cymorth ac i gefnogi gwirfoddolwyr.

-        Trafodwyd yr amserlen a nodwyd fod y ddarpariaeth yn dod ben yn flynyddol ym mis Ebrill ac yn ailgychwyn ym mis Medi, bydd y cylch yma yn digwydd eto. Bydd y clybiau yn cau ym mis Ebrill a bydd y ddarpariaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r adran i ddad-gymalu’r hen strwythur ac i adnabod anghenion lleol ac i drafod a phartneriaid.

-        Mynegwyd pwysigrwydd ieuenctid i’r sir, a phwysigrwydd i gadw’r bobl ifanc yma. Credwyd fod modd i’r gwasanaeth newydd allu cyd-weithio yn agos a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.

-        Nodwyd fod terfynu grantiau cefnogi'r mudiadau gwirfoddol yn mynd i fod yn anodd, gan fod y ddau brif fudiadau yn gwneud gwaith da. Bu i’r aelodau gydnabod gwaith da'r mudiadau a gofyn i’r swyddogion i weithio yn agos a’r mudiadau. Mynegwyd unwaith y bydd y gwasanaeth ieuenctid yn ymwybodol o’r math o weithgaredd y bydd pobl ifanc yn ei hoffi ym mhob ardal bydd modd comisiynu'r gweithgareddau.

-        Ychwanegwyd fod angen i’r Aelod Cabinet ar Dai, Diwylliant a Hamdden i adrodd ar gynnydd y gwasanaeth i’r Cabinet bob pedwar mis

Awdur:Sioned Williams

Dogfennau ategol: