Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Cynnal ymgynghoriad statudol, yn unol ag Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn nalgylch Bangor ar gynnig i gau ysgolion Glanadda a Choedmawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig ar ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.

     ii.        Cynnal rhag-ymgynghoriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn ymwneud a chynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013 ac adrodd ar y canlyniadau i’r Cabinet.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd:

  1. Cynnal ymgynghoriad statudol, yn unol ag Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn nalgylch Bangor ar gynnig i gau ysgolion Glanadda a Choedmawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig ar ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.
  2. Cynnal rhag-ymgynghoriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn ymwneud a chynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013 ac adrodd ar y canlyniadau i’r Cabinet.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd cael caniatâd i fwrw ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol parthed y broses o ad-drefnu ysgolion Bangor. Ychwanegwyd fod y Llywodraeth Cymru yn niwedd 2016 wedi hysbysu Awdurdodau Lleol gyda’r capasiti, fod modd ymgeisio am fwy o arian i gyflawni prosiectau ychwanegol oddi mewn Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif.  Yn dilyn gwneud cais bu i’r Adran Addysg dderbyn cadarnhad fod yr arian wedi ei glustnodi mewn egwyddor.

 

Yn ychwanegol at hyn, mae datblygiad tai newydd ym Mangor. Un o’r amodau cynllunio pan gytunwyd i’r cais oedd bod y cwmni yn ymrwymo i gyfrannu arian tuag at  ddarpariaeth addysg oed cynradd ym Mangor. Drwy gyfuno arian gan Lywodraeth Cymru a’r Cwmni Datblygu Tai mae cyllideb o oddeutu £13.8m.

 

Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud yn edrych ar yr opsiynau posib, a nodwyd o’r 9 Ysgol Gynradd ym Mangor fod dwy ysgol gyda’r niferoedd uchel dros y capasiti a 2 yn weddol wag. Bydd angen ymgynghori ar yr opsiwn sydd wedi ei ffafrio gan yr adran. Yr opsiwn ffafredig yw cynyddu capasiti Ysgol y Faenol, i adeiladu Ysgol newydd i Ysgol y Garnedd gan gynyddu’r capasiti o 210 i 420 ac i Gau Ysgol Coed Mawr a Glanadda. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Cafwyd sylwadau gan yr Aelodau Lleol a nodwyd eu bod yn llongyfarch y Cyngor ar dderbyn yr arian yma. Awgrymodd fod yr Adran yn ail edrych ar yr opsiynau ac yn ffafrio opsiwn 10, sef i gynyddu capasiti Y Faenol, rhoi Ysgol newydd a chynyddu capasiti y Garnedd ac i addasu safle Glanadda i dderbyn plant o Ysgol Coed Mawr. Nododd fod lefel addysg Glanadda a Coed Mawr wedi bod yn y categori coch, ond ers cael Pennaeth dros dro mae’r ysgol wedi codi i gategori oren.

-        Ychwanegodd yr Aelodau Lleol ei bod yn gamgymeriad i fynd am opsiwn 3 gan fod Ysgol Cae Top a Glancegin, sydd wedi cael eu datblygu yn ystod y 8 mlynedd diwethaf dros capasiti yn barod. Gyda’r wardiau yn tyfu a mwy o alw am dai i deuluoedd bydd niferoedd yn yr ysgolion yn parhau i godi.

-        Trafodwyd diogelwch y plant ar y ffordd i’r ysgol, nodwyd fod y ffordd yn un prysur ond fod plant yn teithio arni yn ddyddiol. Yn ychwanegol codwyd y broblem traffic ar y ffyrdd sydd yn bodoli yn barod, gan fod 5 ysgol ac Ysbyty yn yr un ardal.

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig i wrando a thrafod ac aelodau a phobl leol, ac yn ychwanegol i gofio am y mudiad meithrin

Awdur:Diane Jones

Dogfennau ategol: