Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr
Aelod Cabinet Cyllid ar Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 er mwyn rhoddi cyfle
i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb
ariannol a’r risgiau perthnasol, cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 13
Chwefror.
Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Cyllid. Cyfeiriodd at y 4 seminar cyllid
a gynhaliwyd yn ystod Ionawr/Chwefror
i dderbyn mewnbwn yr aelodau,
gan nodi y cafwyd trafodaethau manwl, synhwyrol ac adeiladol.
Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys
yr adroddiad, gan nodi gall y Cyngor dderbyn gostyngiad yn y setliad 2019/20 gan Lywodraeth Cymru o oddeutu £2m, ac wynebu costau uwch o ran cyflogi staff o ganlyniad i gytundeb cenedlaethol
o oddeutu £6m erbyn y flwyddyn ariannol 2019/20. Yn ychwanegol i
hyn byddai costau chwyddiant cyffredinol ynghyd â gofynion cynyddol yn y maes gofal.
Roedd y ffactorau yma yn dangos
bod 2019/20 am fod yn heriol. Nododd bod wir angen i
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roi
pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella’r setliad
grant er mwyn lleihau’r pwysau ariannol ar lywodraeth
leol.
Nododd yn unol
â’r cynllun ariannol tymor canolig am 3 blynedd, bod rhaid sicrhau bod trefniadau’r Cyngor yn ddigon hyblyg er mwyn gallu
gwireddu hyd at £20m o arbedion dros y tair blynedd 2018/19 - 2020/21. Argymhellir i’r
Cabinet y dylid parhau gyda’r strategaeth arbedion cyfredol, gyda’r Cabinet yn penderfynu ar dargedau
gwahaniaethol i adrannau’r Cyngor, y penaethiaid adran yn cyflwyno arbedion
posib i gwrdd
â’r targedau hynny, a’r pwyllgorau
craffu yn herio’r cynlluniau ar ran pobl Gwynedd, cyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddewisiadau
i’w gweithredu’n flynyddol.
Tynnwyd sylw at Atodiad 1 i’r adroddiad
a gyflwynir i’r Cabinet, a oedd yn manylu
ar fidiau anorfod i ymateb
i’r pwysau ar wasanaethau. Cyfeiriodd at yr asesiad effaith o safbwynt cydraddoldeb, asesiad llesiant o ran gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd ag asesiad o gadernid yr amcangyfrifon
a oedd yn nodi’r risgiau.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
A fyddai llywodraeth ganolog
yn newid eu safbwynt o ganlyniad i broblemau ariannol a welir mewn rhai
cynghorau lleol eisoes?
·
Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi
llawer mwy o gyllid i’r Gwasanaeth Iechyd o gymharu â’r hyn a roddir i
gynghorau lleol. Nid oedd yn gynaliadwy i’r sefyllfa barhau;
·
Bod y sefyllfa ariannol tu
hwnt i reolaeth y Cyngor gydag agenda ynghlwm i ad-drefnu llywodraeth leol er
mwyn gorfodi cynghorau i gydymffurfio;
·
Faint fyddai’n rhaid codi
Treth y Cyngor i gadw’r sefyllfa gyfredol dros y ddwy flynedd nesaf?
·
O ran y risgiau, derbyn bod
cyfraddau llog yn debygol o godi os oes chwyddiant ond yn aml pan roedd Banc
Lloegr yn cynyddu cyfraddau llog, nid oedd yn cael ei adlewyrchu gan y banciau
yn syth, roedd yn debygol felly y byddai bwlch. Beth a olygir o ran cyllido
cost ychwanegol i’r Cyngor o ganlyniad i gynnydd mewn chwyddiant drwy
ddefnyddio cronfeydd wrth gefn fel bo’r angen?
·
Nid oedd effaith y Deyrnas
Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn hysbys eto ac fe fyddai’n anorfod yn
cael effaith ar sefyllfa ariannol y Cyngor.
Ymatebwyd i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-
·
Y gobeithir dwyn perswâd ar
Lywodraeth Cymru o ran cynnydd yn y setliad grant ar gyfer blwyddyn ariannol
2019/20. Roedd yr hyblygrwydd o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru yn golygu y
gallai’r Llywodraeth fod yn fwy hael;
·
Heb ddarganfod arbedion yn y 2
flynedd nesaf fyddai’n rhaid i Dreth y Cyngor gynyddu oddeutu 25% dros y ddwy
flynedd nesaf er mwyn darganfod £14m;
·
Cyfeirir at y gyllideb wrth
gefn yn benodol o ran cyllido cost ychwanegol i’r Cyngor o ganlyniad i gynnydd
mewn chwyddiant. Yn y £4.7 miliwn ar gyfer chwyddiant tâl, roedd oddeutu £4.4
miliwn i gyfarch chwyddiant sy’n digwydd, ond wedi ei gynnwys roedd oddeutu
£350k wrth gefn ar gyfer athrawon, sydd â chytundeb tâl cenedlaethol yn cael eu
gweithredu o fis Medi. Nododd pe bai’r ysgolion yn gofyn am gyllid ychwanegol i
ddygymod efo’r chwyddiant tâl am hanner blwyddyn, ystyrir rhoddi cyllid
ychwanegol dim ond os oedd balansau ysgolion unigol
yn llai na 5%. Cytunwyd fod hyn yn enghraifft o reoli risg a bod yn ddoeth yn y
ffordd y gwneir hyn.
Nodwyd gwerthfawrogiad o waith swyddogion yr Adran Cyllid
a’r Aelod Cabinet Cyllid.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad
a’r risgiau perthnasol, ac argymell i’r Cabinet y dylid:
(i) argymell i’r Cyngor
(yn ei gyfarfod
ar 1 Mawrth 2018):
1. Sefydlu cyllideb o £242,862,930 ar gyfer 2018/19, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £175,127,330 a £67,735,600 o incwm o’r Dreth
Cyngor gyda chynnydd o 4.8%.
2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £8.389m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau
a nodir yng nghymal 9.4 o’r adroddiad.
(ii) nodi’r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Rhan
B, a mabwysiadu’r
strategaeth sy’n rhan 32-34 o’r Cynllun.
Dogfennau ategol: