Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi
yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu rhai materion ariannol
gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.
Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r
Cabinet ar 16 Ionawr 2018.
Nododd, ar y cyfan, roedd
adolygiad trydydd chwarter o’r cyllidebau
yn adlewyrchu rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor, ond roedd
cyfuniad o gamau gweithredu pendant i’r Adrannau Addysg, Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth
o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2018.
Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:
“Derbyniwyd yr adroddiad ar
adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r Gyllideb Refeniw,
ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth,
gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn
â materion o dan eu harweiniad / rheolaeth.
Penderfynwyd i gynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£12k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad
grant ac amgylchiadau ffafriol
ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda
pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r
Cyngor, gydag elfen ohono ar
gyfer digolledu effaith gorwariant posib ar gludiant
tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.”
Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:
·
Mewn cyd-destun, gwariant gros dros
£5m, nid oedd y gorwariant o £198,000 o dan y pennawd ‘Arlwyaeth a Glanhau’ yn yr
Adran Addysg yn swm enfawr.
Roedd y Cyngor wedi penderfynu darganfod arbedion drwy godi pris
prydau ysgol er mwyn cynyddu
incwm, adlewyrchir yn y ffigyrau bod yr incwm yn
llai na’r hyn a ragwelwyd yn hytrach na
bod gorwariant;
·
O ran y gorwariant o dan y pennawd ‘Cludiant’ yn yr
Adran Addysg:
Ø Cynhaliwyd trafodaethau hefo’r Adran Addysg a’r
Adran Amgylchedd o ran datrysiadau amgen yn hytrach na defnyddio tacsis i gludo
disgyblion i ysgolion. Gan fod
y gorwariant yn anochel fe drosglwyddir
arian pontio i’r Adran Addysg
ar ddiwedd y flwyddyn ariannol;
Ø Bod diffyg yn incwm
gwerthiant tocynnau cludiant ôl-16, o ganlyniad i gost tocyn
yn cynyddu roedd rhai disgyblion/myfyrwyr yn gwneud
trefniadau amgen. Anfonir sylw aelod
os oedd cyswllt
rhwng y diffyg incwm â newid ym
mholisi Cludiant ôl-16 y Cyngor i gyfradd
unffurf am docyn, at y Pennaeth Addysg;
·
Byddai’n rhaid i’r aelod
gysylltu efo Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn
cadarnhad o ran i le y gwerthir deunydd ailgylchu. Eglurwyd bod y prisiau a dderbynnir am ddeunyddiau ailgylchu wedi gostwng yn
sylweddol;
·
O ran y gorwariant o dan y pennawd ‘Lleoliadau All-Sirol’ yn yr Adran
Plant a Theuluoedd, bod y Cyngor
yn ceisio datrysiadau lleol ond bod rhai plant gydag anghenion mwy dwys angen
eu lleoli mewn lleoliadau arbenigol. ‘Roedd yn faes lle’r
oedd holl Gynghorau Gogledd Cymru yn gorwario
gydag arbenigwyr yn y maes
yn ystyried os gellir darparu
cefnogaeth arbenigol ar y cyd.
PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.
Dogfennau ategol: