Aelod Cabinet: Y Cynghorydd W. Gareth Roberts
I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig)
*12.20 y.b. – 12.40
y.p.
Cofnod:
(a)
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles yn amlinellu
canfyddiadau ac argymhellion yn deillio o ymchwiliad a gynhaliwyd o’r math o
gefnogaeth oedd ar gael i ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd.
(b)
Tywysodd
y Swyddog Cefnogi Gofalwyr Oedolion a
Phlant drwy’r adroddiad gan nodi’r prif bwyntiau isod:
·
Bod
Gofalwyr Cymru wedi penodi swyddog i’r Gogledd i hybu adnabyddiaeth gofalwyr
cudd
·
Bod
Grwp Partneriaeth Gofalwyr Gwynedd a Môn wedi llunio strategaeth ac un o’r
amcanion ydoedd dod o hyd i ofalwyr cudd
·
Parheir
i ymgymryd ag asesiadau a cheisir gwneud hyn mor fuan ag sy’n bosibl
·
O
ran adborth gan ofalwyr derbyniwyd llai na 100 allan o 500 o holiaduron yn ol ac roedd ymatebion yr holiaduron dderbyniwyd yn ôl gan
ofalwyr unigolion gydag iechyd meddwl yn eithaf calonogol
·
O
safbwynt gwybodaeth a chynghori, nodwyd bod canllawiau wedi cael ei cynhyrchu
ac yn ol ar y wefan i dynnu sylw staff / gofalwyr
gydag linciau perthnasol
·
Cydweithir
gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
·
Derbyniwyd
grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gofal ysbaid i ofalwyr ond
tynnwyd sylw nad oedd digon o bobl sydd yn gweithio yn y maes i ddarparu gofal
ysbaid yn benodol ym Meirionnydd
·
Bod
arbedion a thoriadau yn cael effaith ar y gwasanaeth
·
Iaith
gymraeg – bod
angen cyfieithu dogfennau a dderbynnir gan y gwasanaeth iechyd i’r gymraeg, a rhai darparwyr yn cael trafferth recriwtio staff
sy’n siarad Cymraeg, yn arbennig yn Ne’r Sir.
Annogwyd Aelodau etholedig i hysbysu’r gwasanaeth os
ydynt yn ymwybodol o ofalwyr cudd yn eu wardiau sydd yn edrych ar ôl teulu fel
bo modd i’r gwasanaeth gynnig cymorth iddynt
(c)
Rhoddwyd
cyfle i Aelodau graffu’r adroddiad ac fe ymatebodd y Swyddog Cefnogi Gofalwyr
Oedolion a Phlant fel a nodir isod:
·
gofynnwyd
a oedd y gwasanaeth yn addas i bwrpas ac mewn ymateb, nodwyd bod gofynion y
Ddeddf newydd yn her, a’r angen i gydweithio hefo partneriaid yn y maes. Ychwanegwyd yr angen i fod yn realistig a
cheisio canolbwynio ar ddau neu dri o’r
amcanion.
·
Ategwyd,
bod cyfarch gofynion y ddeddf yn bwysig a’r angen i ystyried sut y gellir cael
y gwerth gorau o’r arian drwy adolygu a blaenoriaethu
·
O
safbwynt cyfarch anghenion a chefnogi pobl ifanc sy’n ofalwyr, cydweithir yn
agos gyda Phrifysgol Bangor sydd yn cynnig cyfnod preswyl i ofalwyr ifanc iddynt
gael blas o’r hyn sydd ar gael ac i’w hannog i ennill cymhwyster mewn
gofal. Yn ogystal, cydweithir gyda’r
Grwp Rhanbarthol.
·
O’r
grant o £114,000 a dderbyniwyd ar gyfer 2017/18 rhannwyd £60,000 gyda’r trydydd
sector a’r gweddill yn cefnogi gofalwyr gydag anableddau dysgu, Derwen a
gofalwyr sydd yn gofalu am sibling.
·
Mewn
ymateb i sylw wnaed gan aelod am brofiad personol tra bo teulu wedi derbyn
cefnogaeth cychwynnol dda iawn yn dilyn i glaf ddod gartref o’r ysbyty, nid oedd gofalwyr wedi ail-ymweld â’r
teulu, anogwyd Aelodau i gyfeirio
teuluoedd at y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr sydd yn siop-un-stop fel bo modd eu
cyfeirio i’r sector gywir. Yn ôl y Ddeddf newydd pwysleisir i deuluoedd dderbyn
cefnogaeth ataliol yn y gymuned.
·
Cyfeiriwyd
at gynllun ar gyfer plant ifanc sy’n ofalwyr lle bo modd iddynt gael ipads a’r gwasanaeth yn gallu cysylltu â hwy drwy “Skype” a
hyderir y bydd mwy o wybodaeth am y cynllun hwn maes o law
·
O
safbwynt y trydydd sector yn darparu gofal, nodwyd bod teuluoedd yn dymuno
glynu at yr un gofalwyr
·
Croesawyd
bod y gwasanaeth yn fwy creadigol i adnabod gofalwyr a thra bo Hafan y Ser yn adnodd gwych, pryderwyd am y ddarpariaeth ar gyfer
teuluoedd lle nad yw’r plant yn cwrdd â meini prawf Derwen. Mewn ymateb, nodwyd bod y Gwasanaeth yn
ymwybodol o’r sefyllfa a hyderir y bydd yn cael datrysiad yn fuan.
Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant, y byddai mewn sefyllfa i rannu gwybodaeth ynglyn
â chreu Uned Tanymarian, mewn oddeutu chwe wythnos.
Penderfynwyd: Derbyn, nodi
a diolch am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: