I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau. Amlygodd ei fod yn hoff iawn o ddreifio ac wedi bod yn dreifio
lorïau ers 35 mlynedd. Nododd ei fod wedi cael cynnig swydd dreifio tacsi gyda
chwmni lleol. Nid oedd wedi ystyried dod a chynrychiolydd gydag ef i’r
gwrandawiad. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi
ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a
Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen
gais yr ymgeisydd
• sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
• adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd
yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Bod y gollfarn (a dderbyniwyd gan Lys Ynadon Porthmadog - Gorffennaf 1982) am
ddefnyddio iaith neu ymddygiad bygythiol, ymosodol neu sarhaus yn groes i adran
5 o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1936, yn ogystal ag ymosodiad ‘ABH’ yn groes i
adran 47 o Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Derbyniodd yr ymgeisydd
ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu costau o £3 am y drosedd trefn gyhoeddus, ac ar
gyfer y drosedd ABH cafodd ddirwy o £100. Tynnwyd sylw nad oedd ganddo gollfarn
arall ar gyfer troseddau o natur dreisgar.
Ystyriwyd paragraff 6.5 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r y byddai cais fel
rheol yn cael ei wrthod pan fydd gan yr ymgeisydd un gollfarn am ABH sydd yn
llai na 3 mlwydd oed. Gyda’r gollfarn wedi digwydd dros 35 o flynyddoedd yn ôl,
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y gollfarn yn sail dros wrthod y cais.
Bod y gollfarn ( a dderbyniwyd gan Lys y Goron, Yr Wyddgrug - Mawrth
2017) am gyfres o droseddau amgylcheddol (2 gyhuddiad o gadw gwastraff a reolir
mewn modd tebygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd dynol yn groes i adran
33(1)(c) o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, a 7 cyhuddiad yn groes i reoliad
38 o’r Rheoliadau Trwyddedau Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010). Gyda’r
cyhuddiad o dan Ddeddf 1990, cafodd yr ymgeisydd ei ddedfrydu i 6 mis o
garchar; ar gyfer yr ail gyhuddiad o dan yr un ddeddf cafodd ei ddedfrydu i 4
mis o garchar (yn rhedeg yn gyfochrog) ac un cyhuddiad o dan Reoliadau 2010
derbyniodd 6 mis o ddedfryd carchar (eto, yn rhedeg yn gyfochrog). Ni
dderbyniwyd cosb ar wahân am y cyhuddiadau eraill o dan Ddeddf 2010.
Er nad oedd y gollfarn yn ymddangos yn berthnasol i unrhyw un o’r
categorïau o drosedd sy’n cael eu cyfarch yn benodol gan y Polisi (troseddau
treisgar, rhywiol, anonestrwydd, cyffuriau, troseddau gyrru ayyb), fe ystyriodd
yr Is-bwyllgor bod y cais yn disgyn o
dan baragraff 17 - torri deddfwriaeth yn gyffredinol. Nodir y paragraff y
byddai’n annhebygol rhoi trwydded i ymgeisydd sydd â chollfarn am dorri
deddfwriaeth oni bai bod cyfnod o 12 mis o leiaf wedi mynd heibio ers yr achos
mwyaf diweddar.
Wedi ystyried sylwadau'r ymgeisydd bod y gollfarn yn ymwneud â thoriadau
yn ymestyn dros gyfnod o 2014 i Awst 2016 lle'r oedd cyfnod o 16 mis wedi mynd
heibio ers dyddiad y toriad mwyaf diweddar, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod
hyn tu allan i’r cyfnod gwahardd. Yn ogystal, gydag eglurhad gonest am fethiant
ei fusnes o gydymffurfio gyda gofynion trwyddedu, a arweiniodd at y gollfarn ym
Mawrth 2017, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y gollfarn yn achos o roi
elw o flaen diogelwch a bod yr ymgeisydd wedi ymddwyn yn gyfrifol tuag at ei
staff wrth geisio cadw’r busnes yn hyfyw cyn hired ag yr oedd modd.
Gyda’r Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried bod gan yr ymgeisydd brofiad
blaenorol o yrru fel bywoliaeth - bod yn yrrwr yn y RAF rhwng 1979 a 1983 ac yn
dal trwydded lori dosbarth 1 ers 35 mlynedd, penderfynwyd bod
yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr hacni a hurio
preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy
lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau trefniant
y drwydded.