Gosod dwy garafan sefydlog ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd pridd
AELOD LLEOL: Cynghorydd
John B Hughes
Cofnod:
Gosod dwy garafán sefydlog
ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd
pridd
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod dwy garafán
sefydlog ychwanegol ar y safle ynghyd
â thirlunio ychwanegol fyddai’n golygu adeiladu clawdd ac atgyfnerthu tyfiant presennol. Amlygywd bod dau gais cyffelyb eisoes
wedi eu gwrthod
yn ystod 2017. Nodwyd bod y safle sefydlog presennol gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer
17 uned. Ceir hefyd gae
i garafanau teithiol yn Tŷ
Hir a awdurdodwyd
trwy gais tystysgrif defnydd cyfreithlon yn 2013. Nodwyd bod y safle sydd o fewn Ardal
o Dirwedd Arbennig a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac yn cael ei
gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr
aelod lleol.
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad eglurwyd mai'r prif bolisi
i’w ystyried wrth asesu egwyddor
y datblygiad oedd polisi TWR 3 - rhan 3. Ategwyd bod y polisi yma yn
gallu caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai
amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf penodol. Un o’r meini prawf
yw nad yw’r
gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau chalet ar y safle, oni
bai, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y cynigion yn golygu ail-leoli
parciau presennol sydd wedi eu
lleoli o fewn yr Ardal Rheoli
Newid Arfordirol. Nid yw’r polisi yn
caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd
oddi mewn i’r AHNE na’r Ardaloedd
Tirwedd Arbennig. Nodwyd bod y cais dan sylw
yn un i
gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle
drwy ychwanegu dwy uned. Nid oedd y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion Polisi TWR 3 o safbwynt safleoedd oddi fewn i’r
Ardal Tirwedd Arbennig.
Cydnabuwyd bod y datblygiad yn dangos
peth gwelliant i gyfleusterau’r safle sefydlog presennol a’r tirlunio
ychwanegol yn gwella gwedd ac amgylchedd y safle. Er hynny, tynnwyd
sylw at baragraffau 5.3. a 5.4 yr adroddiad ac amlygwyd na fyddai
unrhyw gynllun tirlunio na gwelliannau
na amnewid unedau teithiol am rai statig yn dod
dros y ffaith nad yw’r Polisi
yn caniatáu cynyddu niferoedd carafanau ar safleoedd
o fewn Ardal Tirwedd Arbennig.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:-
·
Dwy uned statig ychwanegol yn
unig yw’r gofyn
·
Cydnabod cynnwys y polisïau ac
adroddiad ond bod posib gwirioneddol i addasu’r cais i gyd-fynd a’r polisi
·
Ychwanegwyd dwy garafán statig
yn 2014, ond penderfynwyd peidio a chynyddu ymhellach - ni wyddent ar y pryd y
byddi’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhwystro cynnydd pellach mewn niferoedd
·
Diffyg efallai gan y
swyddogion o rannu gwybodaeth am y newidiadau
·
Byddai’r ddwy uned ychwanegol wedu ei lleoli mewn safle diamlwg
·
Derbyn y posibilrwydd bod modd
ail leoli'r unedau statig i waelod y safle neu gyfnewid statig gyda theithiol
·
Busnes lleol yn ymateb i’r
galw
·
Gwneud y mwyaf o dwrisitiaeth er mwyn sicrahu
ffyniant llwyddianus cefn gwlad
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-
·
Cyfeiriwyd at bwynt 3 o bolisi
TWR 3
·
Un safle sydd yma mewn dau gae – cynnig symud dwy uned o un cae i’r
llall.
·
Y safle yn daclus ac yn cael
ei reoli yn dda
·
Bod yr ymwelwyr yn cefnogi
busnesau lleol
·
Bod y busnes yn cael ei redeg
gan deulu lleol
·
Awgrym gohirio a chynnal ymweliad
safle
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
d)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Yr
ymgeisydd efallai wedi cael ei gamarwain gydag addasiadu
i’r Cynllun Datlbygu Lleol newydd
·
Byddai ymweld â’r safle yn
fanteisiol
·
Dim gwrthwynebiadau gan yr
Uned Drafnidiaeth wedi ei derbyn
·
Dim
gwahaniaeth mawr rhwng 17 ac 19 uned
dd) Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle.
e)
Pleidleisiwyd
dros gynnal ymweliad safle. Disgynnodd y cynnig
f)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais yn unol â’r argymhelliad
ff) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Wedi ei wrthod dwywaith y
llynedd
·
Wedi
blynyddoedd o greu polisïau newydd dim eisiau mynd yn groes ar y cyfle cyntaf
·
Oni
ddylid sicrhau bod amodau ceisiadau blaenorol yn cael eu gweithredu cyn
cyflwyno cais o’r newydd
·
Ar
ba sail cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor? Angen rheswm cynllunio dilys i
wneud hyn
Mewn ymateb i sylw ynglyn
a dilysrwydd cyfnewid dwy uned statig gyda dwy uned deithiol nodwyd yn gyntaf
bod y safle teithiol a’r safle sefydlog yn cael ei ystyried fel dau safle ar
wahân fel a gyfeirir ato yn yr adroddiad.
Ni fyddai cyfnewid unedau teithiol am rai sefydlog yn dderbyniol
oherwydd bod y raddfa a gynnigir yn un am un ac nid
yw hyn yn dderbyniol. Mewn amgylchiadau lle mae cyfnewid wedi ei gefnogi yn yn gorffennol mae’r raddfa amnewid yn llawer uwch ac mae gwelliant cynllunio
pendant yn cael ei gynnig e.e. o
safbwynt gwelliant trafnidiaeth
PENDERFYNWYD
Gwrthod –
Mae’r bwriad yn golygu
cynyddu nifer carafanau sefydlog ar safle carafanau
sefydlog presennol oddi fewn i
Ardal Tirwedd Arbennig. Nid yw polisi
TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau siale
ar safleoedd presennol oddi fewn i Ardal
Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion
polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
Dogfennau ategol: